Gyda’r Torïaid yn ceisio dewis arweinydd newydd i olynu Rishi Sunak, mae Rhys Owen wedi bod yn holi’r farn ymysg rhai o wynebau amlwg y blaid yma yng Nghymru…

Cewch faddeuant os na wnaethoch chi sylweddoli fod y ras i olynu Rishi Sunak yn arweinydd nesaf y Blaid Geidwadol wedi cychwyn dros yr haf.