Mae arweinydd Cyngor wedi beirniadu fformiwla ariannu mae Llywodraeth Cymru’n ei ddefnyddio er mwyn cyfrifo faint o gyllid mae awdurdodau lleol yn ei dderbyn yn flynyddol.
Mae’r Cynghorydd Charlie McCoubrey, arweinydd Cyngor Conwy, yn honni nad yw ei gyngor wedi derbyn swm cywir o gyllid, ac wedi colli allan ar oddeutu £210m dros gyfnod o saith mlynedd.
Mae’n nodi nad yw’r swm mae ei Gyngor wedi’i dderbyn yn ddigon, ac wrth gymharu â’r hyn dderbyniodd Gwynedd a Sir Ddinbych, mae’r swm yn hynod anffafriol, meddai.
Fis Rhagfyr, daeth Conwy a Gwynedd ar waelod y tabl setliad llywodraeth leol o’r 22 awdurdod lleol, gyda chynnydd o 2% yn unig yn y gyllideb.
O ganlyniad, cododd Conwy dreth y cyngor gan 9.67% eleni, gan dorri 10% oddi ar wasanaethau rheng flaen a 5% oddi ar ysgolion.
Dywed y Cynghorydd Charlie McCoubrey fod swm Conwy yn llai na £4m ychwanegol yn 2024/25, er gwaethaf codiadau cyflog o £12m i athrawon a staff y Cyngor, chwyddiant a chostau cynyddol.
Tra bo Gwynedd a Chonwy ar waelod y tabl, derbyniodd Sir Ddinbych gynnydd o 3.7%, sef y cynnydd canrannol uchaf yn y gogledd.
Casnewydd oedd â’r setliad uchaf yn y wlad, gan dderbyn cynnydd o 4.7%.
Derbyniodd Sir y Fflint y trydydd cynnydd isaf yng Nghymru (2.2%), gydag Ynys Môn yn derbyn cynnydd o 2.5%, a Wrecsam yn derbyn cynnydd o 3.2%.
Derbyniodd cynghorau Caerdydd ac Abertawe gynnydd o 4.1% a 3.8%, a’r cynnydd cyfartalog ledled Cymru oedd 3.1%.
Costau gofal cymdeithasol uchel
Ond mae gan Gonwy un o’r poblogaethau hynaf yn y Deyrnas Unedig, gyda chostau gofal cymdeithasol uchel, ac mae’r sir yn wynebu bwlch ariannol o £25m y flwyddyn nesaf.
Mae’r Cynghorydd Charlie McCoubrey yn anhapus gyda’r ffigurau.
Dywed yr arweinydd fod Sir Ddinbych wedi derbyn £2,080 y pen yn 2024/25, tra bo Conwy wedi derbyn £1,781 am bob person, sy’n wahaniaeth o £299, sef taliad cyfatebol o 16.8%.
Ychwanega fod Gwynedd yn derbyn £1,984 – sy’n wahaniaeth o £203, ac yn cyfateb i fwlch o 11.4%.
“Mae poblogaeth Conwy oddeutu 115,00, felly byddai cyllid y pen, ar lefel Sir Ddinbych ac ar ôl cael ei addasu ar gyfer ein sylfaen drethu, oddeutu £30m y flwyddyn neu tua £20m yn fwy fe bai’n cael ei addasu yn unol â lefel Gwynedd,” meddai.
“Mae’r ffigurau hyn yn dangos bod y fformiwla ariannu bresennol gaiff ei ddefnyddio gan y Llywodraeth i ddyrannu cyllid i awdurdodau lleol yn hen ffasiwn ac nad yw bellach yn addas i’r diben.
“Mae’n tanamcangyfrif yn llwyr yr adnoddau sydd eu hangen i ddarparu gofal priodol i boblogaeth sy’n heneiddio.
“Mae trethdalwyr Conwy ar eu colled, a byddwn yn annog ein holl gynrychiolwyr etholedig i weithio gyda mi i sicrhau bargen decach i drigolion Conwy.”
Ychwanega ei fod yn “£30m y flwyddyn yn llai”.
“Yn amlwg mae colli’r swm hwnnw o arian yn golygu ei bod yn llawer anoddach cael cyllideb gytbwys a darparu gwasanaethau mae pobol eu heisiau,” meddai wedyn.
“Mae unrhyw ostyngiad yn eich cyllideb o’r maint hwnnw yn golygu llai o wasanaethau, felly, er enghraifft, toiledau cyhoeddus.
“Mae’r swm y gallwn ei fforddio wedi’i gyfyngu gan faint o arian sydd gennym.
“Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn deg o gwbl.
“Nid yw’r fformiwla ariannu yn addas at y diben.
“Dylai gydnabod angen, ac nid yw’n ei gydnabod, ac mae gennym ni’r ail boblogaeth hynaf o bobol dros 65 oed yng Nghonwy.
“Mae’n 27% (o’r boblogaeth) – daw hynny â chost.”
Cytuno
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y “caiff fformiwla ariannu llywodraeth leol ei gytuno mewn partneriaeth â llywodraeth leol, drwy’r is-grwpiau dosbarthu a chyllid”.
“Mae’r cyllid yn cael ei ddosbarthu’n dryloyw ac yn seiliedig ar angen cymharol, gan ddefnyddio fformiwla sy’n ystyried cyfoeth o wybodaeth am nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol awdurdodau lleol,” meddai.
“Yr ysgogwyr mwyaf o ran gwariant ar wasanaethau yw lefelau poblogaeth, lefelau amddifadedd, a theneurwydd poblogaeth.
“Does dim tystiolaeth bod unrhyw awdurdod sydd â nodweddion daearyddol neu gymdeithasol arbennig o dan anfantais oherwydd fformiwla ariannu llywodraeth leol.”