Mae sail cynigion Cabinet Cyngor Ceredigion i gau pedair ysgol wledig Gymraeg yn “anghywir”, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.
Bydd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion yn gwneud penderfyniad heddiw (dydd Mawrth, Medi 3) ar gyhoeddi ymgynghoriad i gau’r ysgolion, ac yn sgil hynny mae’r mudiad iaith wedi ysgrifennu at aelodau’r Cabinet.
Yr ysgolion sydd dan fygythiad yw Ysgol Llangwyryfon, Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn, Ysgol Syr John Rhys ym Mhonterwyd ac Ysgol Craig yr Wylfa yn y Borth.
Mae’r pedair ysgol ar Restr Ysgolion Gwledig y Cod Trefniadaeth Ysgolion (2018), sy’n golygu, fel ysgolion gwledig, fod rhagdybiaeth o blaid eu cynnal.
“Hollol groes” i’r Côd
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae methodoleg y cynigion yn mynd “yn hollol groes” i Gôd Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, sy’n mynnu ystyriaeth fanwl i bob opsiwn, heblaw am gau, tra bod cynigion ar ddyfodol ysgolion yn cael eu ffurfio.
Yn y llythyr gan Gymdeithas yr Iaith at aelodau’r Cabinet, maen nhw’n amlinellu sawl opsiwn na chafodd eu hystyried yn y papurau cynnig, medden nhw.
Roedd yr opsiynau hyn yn cynnwys trosglwyddo adeiladau at ymddiriedolaethau cymunedol, neu sefydlu ffederasiwn neu ysgol ar safleoedd gwahanol fyddai’n uno ysgolion.
Dywed y llythyr gan Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith nad oes “rhaid trafod ddim o’r opsiynau amgen hyn eu hunain heddiw”.
“Dim ond eich bod yn penderfynu fod nifer o opsiynau nad sydd wedi eu trafod cyn llunio’r Papur Cynnig, ac felly na ddylid cynnal ymgynghoriad statudol ar sail y Papurau Cynnig hyn,” medd y llythyr.
Mae’r llythyr yn mynd yn ei flaen i farnu amharodrwydd y Cyngor i drafod yn agored â rhanddeiliaid cyn llunio cynigion, gan nodi bod yr “ysgolion wedi bod yn galw am ffeithiau ac am drafodaethau difrifol am eu dyfodol ers y cyfarfodydd annisgwyl cyntaf y cawsant wysion i’w mynychu”.
“Dywedwyd wrth Gymdeithas yr Iaith ar ddechrau’r haf y byddai’r swyddogion yn ystyried ein cynigion ac ymateb – ond ers hynny bu tawelwch llwyr,” medd Cymdeithas yr Iaith.
“Nawr mae gofyn i chi awdurdodi chwe wythnos o ymgynghori ar gynnig a luniwyd gan y swyddogion heb ymdrafod, a gofynnir i ysgolion gyfiawnhau eu bodolaeth.
“Mae ffordd well ymlaen na hyn.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Sir Ceredigion.