Mae tri brawd lleol yn ffyddiog y bydd cynllun hydro yng Nghwm Cynfal yn llwyddo, er gwaethaf pryderon rhai, gan gynnwys Cymdeithas Eryri.
Fis Tachwedd y llynedd, cafodd ymgynghoriad ei gynnal cyn gwneud cais cynllunio ar gyfer datblygiad hydro yng Nghwm Cynfal ger Llan Ffestiniog yng Ngwynedd.
Mae’r cais cynllunio bellach wedi’i gyflwyno, ac yn ôl y tri brawd – Dafydd Elis, Elis Dafydd a Moi Dafydd, sy’n ffermio yn y Parc ger y Bala – cynllun arallgyfeirio eu busnes ffermio yw’r prosiect ar Afon Cynfal.
Byddai’r cynllun yn creu 600KW o drydan yr awr, gan bweru tua 700 o dai bob blwyddyn yn ardal Ffestiniog, ac yn arbed 2,000 tunnell o allyriadau carbon deuocsid.
Mae’r brodyr wedi derbyn cefnogaeth gan Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor, Aelod Seneddol a’r Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, ac wrth siarad â golwg360, dywed Moi Dafydd eu bod nhw “wedi bod yn wych ac wedi talu sylw i’r ffeithiau a chefnogi’r cynllun gan edrych heibio i’r scaremongering”.
Ar ei gyfrif Facebook, dywed Mabon ap Gwynfor fod y prosiect hwn “yr union fath o fenter y mae angen i ni ei chefnogi, gan sicrhau ynni rhatach i tua saith gant o gartrefi mewn ardal ddifreintiedig sy’n dioddef tlodi tanwydd”.
“Rhaid ystyried a chydbwyso popeth, ac ar ôl ystyried mae’r prosiect hwn yn haeddu cefnogaeth,” meddai.
Beth yw’r cynllun?
Yn ôl y cynlluniau, byddai cored yn cael ei chodi dros yr afon ar dop y rhaeadr gyda hyd at 70% o’r dŵr, ar ôl i’r llif isel gwarchodedig gael ei amddiffyn, yn cael ei ddargyfeirio o’r rhaeadr mewn peipen o dan y ddaear.
Bydd yn dychwelyd i Afon Cynfal ar waelod y rhaeadr.
Byddai’r weiren i gario’r trydan i’r grid cenedlaethol yn cael ei rhoi dan ddaear hefyd, a fyddai’r cynlluniau ddim yn cael effaith ar lif naturiol y rhaeadr, yn ôl astudiaeth llif.
‘Bygythiad’
Ond mae Cymdeithas Eryri yn gwrthwynebu’r cynllun gan nodi ei fod yn “fygythiad”.
Yn ôl Rory Francis, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, mae nifer o broblemau gyda’r cynllun.
“Y broblem bennaf gyda’r cynllun yw bod y safle mewn cwestiwn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn rhannol oherwydd y mwsoglau a llysiau’r afu prin sy’n byw yn y ceunentydd,” meddai wrth golwg360.
Gan fod y cynllun yn gallu tynnu bron i 70% o ddŵr o’r afon, gallai hyn effeithio ar fyd natur, meddai.
Wrth gyfeirio at gynllun hydro ym Mhontddu yng Ngwynedd, dywed fod cofnodion diweddar yn dangos cwymp sylweddol mewn rhywogaethau yn sgil y cynllun.
“Bydd hefyd yn effeithio ar un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri, ac mae’r ardal yn chwedlonol gyda rhai o straeon y Mabinogi wedi’u lleoli yma, ac mae o hyd yn oed wedi’i ddarlunio gan yr artist David Cox yn 1836.
“Ar yr ochr arall, rydan ni o blaid cynhyrchu ynni adnewyddol a datgarboneiddio, ond tydi hynny ddim yn golygu y dylid rhoi argae bach ar bob afon; hynny yw, mae’n rhaid pwyso a mesur pob cais ac edrych ar yr effeithiau cadarnhaol a’r effeithiau negyddol hefyd.”
Mwy o baratoi a mwy o ymchwilio
Mae’r brodyr eisoes wedi cydnabod fod yr ecosystem leol yn sensitif gan fod yr ardal o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig Migneint-Arenig-Dduallt.
Mae’r cynllun hefyd am helpu i gyrraedd net sero, gan fod angen cymysgedd o wahanol fathau o ynni adnewyddadwy ar Gymru.
Ers yr ymgynghoriad fis Tachwedd y llynedd, dywed Moi Dafydd nad ydi’r cynllun ei hun wedi newid ryw lawer ond fod yna lawer iawn o waith ymchwil wedi’i wneud.
Maen nhw wedi comisiynu Cynlluniau Rheoli Adeiladu Amgylcheddol (CEMP) ac wedi creu mwy o arolygon a holiaduron er mwyn pwysleisio nad ydi’r cynllun yn effeithio gymaint ar yr amgylchedd ag yr oedd pobol yn ei ystyried.
“Rydan ni wedi ateb pob pryder gafodd ei godi o’r ymgynghoriad ym mis Tachwedd, ac ers hynny, mi wnaethon ni gynnal digwyddiad galw heibio ym mis Chwefror er mwyn rhoi cyfle i bobol gael holi mwy o gwestiynau ac i ddeall yn well,” meddai.
Roedd y digwyddiad hwnnw ym mis Chwefror yn hynod gadarnhaol, a’r rhan fwyaf o’r bobol leol yn gefnogol tu hwnt, meddai.
Ond yr hyn sylweddolodd y brodyr oedd fod y rhan fwyaf o’r cwynion yn dod gan ddieithriaid am gynllun mewn ardal nad oedden nhw’n ei hadnabod.
Dros y misoedd diwethaf, fe fu sefydliad cadwraeth Save Our Rivers yn cynnal cyfarfodydd yn ardaloedd yn Lloegr fel Cumbria, gyda nifer o wrthwynebwyr yn cwyno drwy sganio côd QR.
Yn ôl Moi Dafydd, roedd hyn yn hynod o “rwystredig”, gan eu bod yn derbyn cwynion gan wrthwynebwyr heb ystyried y cynllun dan sylw.
“Mae Cyngor Tref [Ffestiniog] hefyd wedi cefnogi’r cais, sy’n dangos bod y gymuned leol y tu ôl i’r cynllun,” meddai, gan ychwanegu bod y ffaith fod yr aelodau seneddol yn gefnogol hefyd yn hwb.
Elfen arall mae’r brodyr wedi’i gwneud yw cyflogi Ynni Lleol i wneud ymchwil ar eu rhan, i sicrhau bod modd iddyn nhw greu Clwb Ynni Lleol er mwyn defnyddio’r trydan yn lleol ac yn rhatach.
Sefydliad di-elw yw Ynni Lleol, a’u cenhadaeth yw helpu cymunedau i gael mwy o werth ynni adnewyddol gaiff ei gynhyrchu’n lleol gan gynhyrchwyr bach, a’i ddefnyddio yn lleol.
Er gwaetha’r holl wrthwynebiadau i’r cynllun, mae Moi Dafydd yn “ffyddiog ein bod yn gwneud y peth yn iawn yn bwrw ymlaen gyda’r cynllun”.
Dyma’r pedwerydd cais am gynllun trydan dŵr yng Nghwm Cynfal i’w gynnig wedi i un gael eu gwrthod a dau arall eu tynnu’n ôl dros y 30 mlynedd diwethaf.