Mae brodyr sy’n dymuno creu ynni hydro mewn cwm “chwedlonol” yn dweud y bydd y cynllun yn helpu tri theulu Cymraeg.

Cafodd ymgynghoriad cyn cais cynllunio ei gynnal ar gynlluniau ar gyfer datblygiad hydro yng Nghwm Cynfal ger Llan Ffestiniog yng Ngwynedd, ardal sy’n gysylltiedig â chwedl Blodeuwedd, yn ddiweddar.

Yn ôl Dafydd Elis, Elis Dafydd a Moi Dafydd, sy’n ffermio yn y Parc ger y Bala, sydd tua 15 milltir o’r safle, ac yng Nghwm Cynfal, cynllun i arallgyfeirio eu busnes ffermio fyddai’r prosiect yn Rhaeadr y Cwm.

Fodd bynnag, mae Cymdeithas Eryri wedi gwrthwynebu’r cynlluniau, gan ddweud eu bod nhw’n “bygwth” y rhaeadr.

Byddai’r cynllun yn creu 600KW o drydan yr awr, fyddai’n ddigon i bweru tua 700 o dai’r flwyddyn.

Dan y cynlluniau, byddai cored yn cael ei chodi dros yr afon ar dop y rhaeadr, a hyd at 70% o’r dŵr, ar ôl i’r llif isel gwarchodedig gael ei amddiffyn, yn cael ei ddargyfeirio o’r rhaeadr mewn peipen o dan y ddaear. Bydd yn dychwelyd i Afon Cynfal ar waelod y rhaeadr.

Byddai’r weiren i gario’r trydan i’r grid cenedlaethol yn cael ei rhoi dan ddaear hefyd, a fyddai’r cynlluniau ddim yn cael effaith ar lif naturiol y rhaeadr, yn ôl astudiaeth llif.

‘Dim posib cyfiawnhau’

Yn ôl Rory Francis, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, does “dim posib cyfiawnhau” y cynllun ar gyfer Rhaeadr y Cwm, sy’n llifo ger rhan o lwybr cerdded Llwybr Llechi Eryri.

“Y broblem efo’r cynllun yma yw bod y darn o’r afon yna’n reit bwysig,” meddai cadeirydd Cymdeithas Eryri a chynghorydd tref Ffestiniog wrth golwg360.

“Mae o’n gwm chwedlonol, mae rhai o straeon y Mabinogi wedi digwydd yna, mae o wedi cael ei ddarlunio gan yr artist David Cox yn 1836.

“Mae’r darn o’r afon yn cynnwys rhaeadr sydd hefyd wedi cael ei ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd y mwsoglau a’r llysiau’r afu, sef planhigion sy’n licio lleithder.”

Rory Francis, cadeirydd Cymdeithas Eryri

Mae’r safle o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, a nhw fydd yn gwneud y penderfyniad ar y cais cynllunio pe bai’r datblygwyr yn bwrw yn eu blaenau.

“Os ydych chi’n tynnu hyd at 70% o’r dŵr, mae hynny’n mynd i newid yr amgylchedd.

“Er fy mod i yn bersonol yn gryf iawn o blaid ynni adnewyddadwy, dw i’n meddwl bod y cynllun yma’n gwneud gormod o niwed yn amgylcheddol.”

Fydd Rory Francis ddim yn rhan o drafodaethau Cyngor Tref Ffestiniog ar y mater, meddai.

“Mae’n rhaid edrych ar faint o ynni mae’n gynhyrchu, ffigwr capasiti ydy 600KW, mae hynny ddim ond 8% o gapasiti un o’r tyrbinau yn fferm wynt arfaethedig y Bryn rhwng Maesteg a Phort Talbot.

“Fyswn i’n dweud fod y math yna o ynni ddim yn cyfiawnhau niweidio amgylchedd arbennig fel yma ym Mharc Cenedlaethol Eryri.”

Ymateb negyddol yn “rhwystredig”

Mae’r ardal o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig Migneint-Arenig-Dduallt, ac mae’r brodyr yn cydnabod fod yr ecosystem leol yn sensitif.

“Rydym yn gwerthfawrogi fod gan Gwm Cynfal gysylltiadau a’r Mabinogion. Ni fydd y cynllun yn difrodi hyn gan na fydd effaith mawr ar y tirlun yn yr hir dymor,” meddai Dafydd, Elis a Moi – sydd ag wyth o blant rhyngddyn nhw – wrth roi ymateb ar y cyd i golwg360.

“Mae’r chwedlau ar gof a chadw ers canrifoedd a bydd y traddodiad llafar yn sicr o barhau ar ôl y datblygiad.”

Ychwanega’r tri fod y cynllun am helpu i gyrraedd net sero, a bod angen cymysgedd o wahanol fathau o ynni adnewyddadwy ar Gymru.

“Er mwyn amddiffyn yr afon, ni fydd y system yn rhedeg pan mae lefel yr afon yn isel.

“Bydd dŵr ond yn cael ei gymryd pan mae lli sylweddol, a bydd pob diferyn yn mynd yn ôl i’r afon cyn gadael ein tir.

“Rydym yn cydnabod fod yr ecosystem leol yn sensitif, ond rydym wedi cymryd pob gofal i sicrhau na fydd effaith negyddol, ac mae hyn wedi ei gadarnhau gan yr arbenigwyr amrywiol sydd wedi cyfrannu at y dyluniad.

“Mae’n rhwystredig bod rhai yn ymateb yn negyddol i’r cynllun ac yn llesio’u barn heb ddarllen ac ystyried yr oll sydd wedi ei esbonio yn y ddogfennaeth a’r adroddiad gan yr arbenigwyr.”

Cwm Cynfal ochr isa’r rhaeadr

‘Rhan nodedig o’r olygfa’

Bydd effeithiau gweladwy’r cynllun ar y rhaeadr yn “fychan i ddibwys” o’r gilfan ar ffordd y B4391, yn ôl astudiaethau llif yn y Grynodeb Annhechnegol o’r Datganiad Amgylcheddol ar gyfer y cynllun.

Fodd bynnag, mae’r Asesiadau o’r Effaith ar y Dirwedd a’r Effaith Weledol (LVIA) wedi dod i’r casgliad fod y dirwedd o amgylch yr ardal yn “sensitif iawn”.

“Ystyrir fod y gyfres o raeadrau yng Nghwm Cynfal yn rhan bwysig a phoblogaidd o’r parc cenedlaethol, ac yn rhan allweddol o’r dirwedd leol.

“Mae Astudiaeth Llif wedi dangos y byddai’r cynllun yn cynnal natur amrywiol naturiol llif y rhaeadr ac y byddai’n caniatáu i’r rhaeadr gael ei weld fel rhan naturiol, nodedig o’r olygfa.”

Bydd y cynllun yn arbed hyd at 860 tunnell o garbon y flwyddyn rhag cael eu rhyddhau i’r amgylchedd, yn ôl y brodyr.

Mae dau gais arall am gynlluniau trydan dŵr yng Nghwm Cynfal wedi cael eu gwrthod dros y 30 mlynedd ddiwethaf, ac un arall wedi’i dynnu’n ôl.