Mae “rhyfel llawn” ar y gweill o fewn y Blaid Geidwadol, yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
Daw sylwadau Liz Saville Roberts yn dilyn ymddiswyddiad Robert Jenrick, y Gweinidog Mewnfudo, tros bolisi’r Llywodraeth Geidwadol ar fewnfudo a chytundeb Rwanda.
Yn y cyfamser, mae Rwanda yn bygwth cefnu ar y cytundeb oni bai bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parchu cyfreithiau rhyngwladol.
Cytundeb yn hollti barn
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn awyddus i ddanfon miloedd o geiswyr lloches i’r wlad yn Affrica.
Ond mae Ceidwadwyr blaenllaw, gan gynnwys y cyn-Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman, yn honni na fydd y polisi’n llwyddo.
Mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn wynebu gwrthdystiad gan aelodau asgell dde’r blaid yn sgil ei ddeddfwriaeth ddrafft.
Byddai’r bil newydd yn gorchymyn barnwyr i anwybyddu elfennau o’r Ddeddf Hawliau Dynol a rhannau o gyfraith gwlad neu gyfraith ryngwladol sy’n awgrymu nad yw Rwanda’n wlad ddiogel i ddanfon pobol iddi ar sail ei record hawliau dynol.
Dydy’r ddeddfwriaeth ddim yn mynd yn ddigon pell, yn ôl rhai fel Suella Braverman a Robert Jenrick, tra bod eraill yn galw ar i’r Deyrnas Unedig adael Confensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol yn gyfangwbl.
Dywed Braverman ei bod hi’n poeni y gallai’r bil fel ag y mae arwain at lu o achosion llys.
Ond mae’r llywodraeth yn mynnu y bydd yn atal ceiswyr lloches rhag talu pobol i’w cludo nhw o Ewrop i’r Deyrnas Unedig mewn cychod ar y Sianel.
Mae’r Goruchaf Lys yn dweud y byddai’r hyn mae’r llywodraeth yn dymuno’i gyflwyno yn torri hawliau dynol, ac fe fu’n rhaid iddyn nhw lofnodi cytundeb o’r newydd yr wythnos hon.
‘Carfanau eithafol’
Wrth ymateb i’r sefyllfa, dywed Liz Saville Roberts fod yna “ryfel go iawn rhwng gwahanol garfanau eithafol yn y Blaid Dorïaidd”.
“Maen nhw’n llawn senoffobia fel eu bod nhw wedi colli pob elfen o ddyngarwch a pharch at y gyfraith,” meddai ar X (Twitter gynt).
“Os gall ffoaduriaid gael eu hamddifadu o hawliau dynol, gall y gweddill ohonom [gael ein hamddifadu] hefyd.”