Yn dilyn ei erthygl flaenorol ar gynigion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar gyfer dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch, rhai o brif argymhellion y Comisiwn ar yr economi a thai sy’n cael sylw ein colofnydd gwleidyddol yr wythnos yma…


Mae’n ddigon rhesymol fod rhan gyntaf adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, Grymuso Cymunedau, Cryfhau’r Gymraeg yn canolbwyntio ar ddynodi’r ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch’.

Mae hyn oherwydd fod unrhyw gynlluniau ar gyfer diogelu cadarnleoedd y Gymraeg am ddibynnu yn y lle cyntaf ar ddiffinio ardaloedd o’r fath. Prif werth y statws hwn fodd bynnag fydd galluogi gweithredu polisïau penodol ar gyfer yr ardaloedd hynny, yn hytrach nag fel diben ynddo’i hun.

I’r perwyl hwn, mae’r adroddiad yn cynnwys cyfanswm o 57 o argymhellion o dan wahanol benawdau polisi gan gynnwys yr economi, datblygu cymunedol, tai, cynllunio ac addysg ymysg eraill.

Dyma gipolwg bras ar y rhai allai fod fwyaf arwyddocaol…

Economi

Mae’r Comisiwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio a gweithredu ‘strategaeth datblygu economaidd sydd wedi ei theilwra’n benodol ar gyfer anghenion economaidd ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch’.

Er mwyn gweithredu hyn, mae’r Comisiwn yn argymell sefydlu corff i arwain gweithgarwch ym maes datblygu’r economi a’r Gymraeg yn yr ardaloedd hyn. Byddai corff ar ffurf asiantaeth datblygu economaidd yn ei alluogi i weithredu ar draws ffiniau sirol, ac yn wahanol i raglen bresennol ARFOR, ni fyddai wedi ei gyfyngu i siroedd Môn, Gwynedd, Ceredgion a Sir Gâr yn unig.

Gallai hyn fod yn gam pwysig ymlaen, gydag awdurdod tebyg yn Iwerddon, Údarás na Gaeltachta, sy’n gyfrifol am hyrwyddo cymunedau Gwyddeleg y wlad, yn cynnig esiampl defnyddiol ar gyfer Cymru. Er mwyn iddo lwyddo, fodd bynnag, byddai’n rhaid iddo gael y grym a’r adnoddau digonol. Byddai gofyn iddo hefyd gael goruchafiaeth dros ofynion partneriaethau eraill fel Bargen Twf y Gogledd sy’n canolbwyntio ar dynhau’r cysylltiadau rhwng Môn a Gwynedd a Glannau Dyfrdwy a Glannau Mersi.

Yn y cyfamser, mae argymhellion y Comisiwn ar gael y sector cyhoeddus i hybu cyflogaeth leol a busnesau cynhenid yn yr ardaloedd dwysedd uwch yn fesurau y gellid eu gweithredu ar unwaith.

Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod pwysigrwydd datblygu cymunedol trwy bwysleisio’r angen am fuddsoddiad ariannol mewn mentrau cymunedol yn yr ardaloedd Cymraeg. Mae’n galw am drosglwyddo asedau i’r gymuned a sicrhau fod hyn yn llesol i’r Gymraeg. Gellid ychwanegu mai un ffordd o wneud hyn fyddai defnyddio’r mentrau iaith fel cyrff i arwain gweithgarwch o’r fath yn eu hardaloedd.

Amaethyddiaeth a thwristiaeth

Mae argymhellion y Comisiwn ar amaethyddiaeth a thwristiaeth hefyd i’w croesawu, wrth drafod pwysigrwydd y fferm deuluol i’r gymdeithas Gymraeg a’r angen am sicrhau budd cymunedol o’r sector twristiaeth.

Ar yr un pryd, gellid mynd ymhellach a datgan fod gofyn i unrhyw strategaeth sy’n ymwneud â’r economi ymwelwyr fod yn effro i beryglon gor-dwristiaeth hefyd, fel sy’n bla ar yr Wyddfa ac yn Llanberis ar hyn o bryd. Os am gael budd cymunedol o’r diwydiant, rhaid i’r pwyslais fod ar alluogi ac annog Cymry i feddiannu mwy arno yn hytrach na denu mwy o ymwelwyr. Mae Eryri a Llŷn ymhlith cadarnleoedd pwysicaf y Gymraeg ac mewn perygl o gael eu difetha’n llwyr gan or-dwristiaeth ar hyn o bryd. Mae sicrhau economi ymwelwyr fwy cydnaws ynddyn nhw yn gwbl hanfodol.

Mynd i’r afael ag allfudo

Ymhlith yr argymhellion pwysicaf mae’r un sy’n ymwneud â mynd i’r afael â cholli pobol ifanc o’r gogledd a’r gorllewin. Yn ogystal â galw am ymchwil benodol er mwyn gwella dealltwriaeth o’r prif dueddiadau sydd ar waith, mae’n trafod yr angen i dargedu a denu pobl i sydd fwyaf tebygol o gefnogi’r economi a’r iaith yn yr ardaloedd Cymraeg. Mae mynd ati i dargedu pobl fel hyn yn holl bwysig, oherwydd gallai mesurau a fyddai’n denu pawb yn ddi-wahân fod yn niweidiol iawn i Gymreictod yr ardaloedd hyn.

Yn ogystal â phwyslais ar gadw’r bobol gynhenid, mae hefyd yn argymell “helpu a chroesawu siaradwyr Cymraeg eraill i ymgartrefu yno”. Mae hyn yn gwbl gydnaws â nod presennol Llywodraeth Cymru o ddyblu’r defnydd o’r Gymraeg. Y lleoedd mae pobol fwyaf tebygol o allu defnyddio’r Gymraeg yw’r ardaloedd hynny lle mae’n cael ei siarad gan drwch o’r boblogaeth. Yn yr un modd, po fwyaf o Gymry a gaiff eu denu i fyw ynddyn nhw, mwyaf fydd y potensial o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ynddyn nhw.

Tai a chynllunio

Mae llawer o’r argymhellion sy’n ymwneud â thai a chynllunio yn faterion sydd eisoes wedi cael eu trafod yn helaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

Does dim rheswm pam na all yr alwad am sicrhau tystiolaeth o anghenion tai lleol ac am hwyluso datblygiadau bach gael eu gweithredu ar unwaith.

Mae pwyso am gryfhau polisïau a chanllawiau cynllunio i roi ystyriaeth ddigonol i’r Gymraeg wedi bod yn frwydr hir, gyda diffyg dealltwriaeth enbyd ymhlith swyddogion ac arbenigwyr cynllunio, hyd yn oed yn yr ardaloedd Cymreiciaf.

Yn hyn o beth, gallai’r dynodiad o ‘ardal o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch’ fod yn werthfawr ynddo’i hun, gan y gallai statws o’r fath danlinellu eu pwysigrwydd. Byddai hefyd yn ffordd o orfodi awdurdodau cynllunio i roi sylw i’r Gymraeg yn union fel mae’n rhaid iddyn nhw gyda dynodiadau fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol neu Barc Cenedlaethol.Un bygythiad gwirioneddol dros y blynyddoedd nesaf yw’r perygl y gall Llywodraeth Cymru ddilyn esiampl llywodraeth Prydain o osod targedau uchel ar gyfer codi tai mewn gwahanol ardaloedd. Os bydd hyn yn digwydd, gallai statws diwylliannol yr ardaloedd dwysedd uwch fod yn ddadl gref dros eu heithrio.

Gallai’r argymhellion ar gynllunio fynd ymhellach a mynnu sicrhau bod asesiadau o effaith datblygiadau newydd ar y Gymraeg yn rhai gwrthrychol sy’n cael eu gwneud gan bobl â rhywfaint o ddealltwriaeth o’r maes. Ar hyn o bryd, y cwbl ydi’r ‘asesiadau’ hyn ydi datganiadau cefnogol i’r datblygwr gan ymgyngoriaethau cynllunio.

Un o’r argymhellion a allai fod fymryn yn fwy dadleuol yng ngolwg rhai yw’r un sy’n awgrymu y gallai’r Gymraeg fod yn ystyriaeth gadarnhaol wrth osod tai cymdeithasol neu wrth lunio Cytundebau 106. Er bod y Comisiwn yn cydnabod y byddai rhaid craffu ar unrhyw gynigion er mwyn “sicrhau nad oes anfantais annerbyniol i’r boblogaeth ddi-Gymraeg”, mae’n syniad sy’n rhaid ei ystyried. Am ormod o flynyddoedd, mae llwch yn cael ei daflu i’n llygaid ynghylch y math o bolisïau gosod sy’n cael eu gorfodi ar dai cymdeithasol, pan ei bod yn amlwg ar lawr gwlad bod ‘teuluoedd â phroblemau’ o Lerpwl neu Fanceinion yn cael eu hanfon i’n hardaloedd gwledig.

Mae llawer o’r argymhellion hyn yn hynod berthnasol i’r ffrae sy’n digwydd ar hyn o bryd ynghylch cynllun i godi tai cymdeithasol ym mhentref Botwnnog ym mhen draw Llŷn. Mae’r cyngor cymuned lleol yn mynnu nad oes dim mwy na phedwar o deuluoedd lleol ar y rhestr aros am dai, ac yn amau y bydd llawer o’r tai yn cael eu gosod i ddeithriaid di-Gymraeg. Mewn ardal o’r fath, lle mae ffigurau Cyfrifiad 2021 yn awgrymu fod fwy neu lai bawb o’r boblogaeth gynhenid yn gallu siarad Cymraeg, byddai’n hollol resymol rhoi amod yn y mwyafrif o achosion fod tenantiaid tai cymdeithasol yn gallu siarad Cymraeg.

Gweithredu’r argymhellion

Does dim amheuaeth fod llawer o’r argymhellion a grybwyllir uchod yn cynnig camau pwysig ymlaen. Y cwestiwn mawr ydi sut mae sicrhau bod y rhain yn cael eu gweithredu.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi dangos cefnogaeth arwynebol i’r adroddiad, a geiriau digon cadarnhaol gan y Prif Weinidog Eluned Morgan, mae ei argymhellion yn annhebygol o fod yn flaenoriaeth i’r llywodraeth. I ddechrau, ychydig iawn o bresenoldeb na rhagolygon sydd gan y Blaid Lafur yn y rhan fwyaf o’r ardaloedd ‘dwysedd uwch’. Mae’n golled hefyd nad yw Jeremy Miles, y gweinidog a gomisiynodd yr adroddiad a chefnogwr pybyr i’r Gymraeg, yn y cabinet bellach.

O ganlyniad, bydd rhaid sicrhau bod pwysau cryf am weithredu’r mesurau hyn yn dod gan bob mudiad a sefydliad sy’n ymwneud â hyrwyddo’r Gymraeg. Bydd angen argyhoeddi’r llywodraeth na fydd unrhyw gefnogaeth i’r iaith yn dda i ddim heb ymrwymiad i ddiogelu ei chynefinoedd daearyddol yn ogystal.

Gall gweithredu’r argymhellion hyn ddibynnu llawer ar Blaid Cymru hefyd. Mae’n debygol iawn y bydd mewn sefyllfa gref iawn ar ôl yr etholiad nesaf i fynnu cyflwyno camau o’r fath os bydd yn dymuno gwneud hynny.

Mae’n bosibl na fydd yn gwbl unfryd ar y mater. Gall fod ofnau ymysg cnewyllyn yn eu plith y gallai pwyslais rhy amlwg ar ardaloedd Cymraeg fod yn rhwystr i un o’i negeseuon canolog ei bod yn “blaid i Gymru gyfan”.

Ar y llaw arall, does dim amheuaeth y bydd mwyafrif llethol ei chefnogwyr yn benderfynol o weld camau cadarn yn cael eu cymryd i ddiogelu’r Gymru Gymraeg.

Rhaid cofio mai cadarnleoedd y Gymraeg yw cadarnleoedd Plaid Cymru hefyd, a byddai gwrthod cyfle i hyrwyddo buddiannau’r ardaloedd hyn yn anfaddeuol yng ngolwg llawer o’i chefnogwyr. Byddai’n werth i’w gwleidyddion gofio y bydd unrhyw Seisnigeiddio pellach yn y gorllewin yn fygythiad uniongyrchol i oruchafiaeth Plaid Cymru yno hefyd.

Rhaid deall bod amddiffyn hynny sydd ar ôl o’r Gymru Gymraeg yn gwbl hanfodol i ddyfodol ein hunaniaeth fel cenedl. Mae’n debyg mai’r amser delfrydol i weithredu argymhellion y Comisiwn fyddai sawl degawd yn ôl. Gan nad yw’r dewis hwnnw ar gael inni, mae’n fwy fyth o gyfrifoldeb arnom i sicrhau nad yw’r cyfle olaf hwn yn cael ei golli.