Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion bwyd rhai o wynebau cyfarwydd Cymru a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Bethan Morgan sy’n rhannu ei atgofion bwyd yr wythnos hon. Mae Bethan yn rhedeg cwmni cig a salami Moch Coch gyda’i phartner Rhun ym mhentref Talog, Caerfyrddin. Roedden nhw wedi dechrau’r cwmni yn 2021 a nawr maen nhw’n gwerthu eu cig mewn marchnadoedd a siopau bwyd ar draws Cymru. Maen nhw’n magu eu moch yn yr awyr agored ar eu fferm bioamrywiaeth ac wedi dechrau cadw lloi a defaid hefyd…


Yr atgofion cyntaf sydd gen i ydy llysiau o’r ardd, yn enwedig corn ar y cobyn – ro’n i hoff iawn o hwnnw. Dw i’n cofio mynd allan i gasglu mefus gwyllt, llys ac eirin ysgaw.  Ro’n i’n mwynhau fforio a dysgu pa blanhigion oedden ni’n gallu bwyta a pha rai oedd yn wenwynig. Roedd mynd am dro ar y traeth yn golygu casglu cocos i swper – dw i’n cofio roedd tipyn o dywod mewn ‘na hefyd! Fel trît bydden ni’n eistedd o flaen y tân yn bwyta hanner pomgranad, roedd hyn yn sbeshial iawn.

Mae llysiau mas o’r ardd yn blasu mor dda. Mae Dad yn arddwr brwd iawn ac roedd Mam yn gwneud llawer o bethau ei hun fel gwin cartref a llysiau wedi eu piclo. Atgof cynnes iawn sydd gen i ydy cael mynd i’r fferm gyferbyn a chasglu llaeth. Weithiau byddwn yn cael gweld lloi oedd newydd eu geni hefyd. Mae bwyta Paella efo bwyd môr yn dod ag atgofion o fod yn blentyn ar wyliau yn Sbaen bob tro.

Asennau byr cig eidion wedi’u coginio’n araf
Llun: Bethan Morgan

Os dw i eisiau pryd o fwyd cysurlon dw i’n coginio asennau byr cig eidion wedi’u coginio’n araf a’u gweini gyda salad gwyrdd ffres a reis. Bydd y cig eidion yn dod o’r fferm organig leol sy’n hynod o flasus. Mae’n rysáit ar gyfer nosweithiau mewn gyda’r partner a’r tân wedi ei gynnau. Dw i’n defnyddio’r stoc wedyn i wneud cawl ramen gyda nwdls sydd yn hyfryd hefyd.

Porc Char Sui ym mwyty Barbican yng Nghaerfyrddin sy’n defnyddio porc Moch Coch

Cyri Thai gwyrdd ydy fy mhryd delfrydol a fy hoff le fyddai bwyty Thai da. Ond ar gyfer achlysuron arbennig dw i’n hoffi gwneud y cyri fy hun. Mae ffeindio’r cynhwysion mewn siopau yn gofyn am ychydig o ymdrech ond mae’n werth yr amser. Mae bwyty’r Barbican yng Nghaerfyrddin yn defnyddio ein porc ni i wneud Porc Char Sui. Dw i’n hoffi’r ffordd mae’r blasau Asiaidd yn cyfuno efo’r porc.

Os dw i’n gwneud bwyd i bobl eraill fel arfer mi fydda’i yn gwneud cig oen ni’n hunain, wedi ei goginio’n araf. Falle rhost traddodiadol gyda thato dauphinoise neu o bosib tagine gyda flatbreads. Mae’r ddau yn mynd lawr yn grêt bob tro.

Cig a salami Moch Coch

Ry’n ni’n hoffi cael charcuterie fel appetiser pan ydan ni adre gyda theulu a ffrindiau, ac yn ei fwynhau gydag olifau a nibls bach eraill. Mae’n edrych yn fendigedig ynghanol y bwrdd ac yn hawdd a chyflym iawn i roi at ei gilydd pan dach chi’n disgwyl gwesteion.

Coppa moch coch

www.mochcoch.wales