Mae adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, gafodd ei gyhoeddi yn yr Eisteddfod, yn garreg filltir bwysig ac allweddol yn hanes polisi cyhoeddus sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
Un o’i brif gryfderau yw ei fod yn ymdrin yn onest â’r sefyllfa fel y mae, ac nad oes ymgais i wyngalchu pethau fel sydd wedi digwydd yn rhy aml mewn adroddiadau o’r fath yn y gorffennol.
Mae holl sail resymegol yr adroddiad hefyd yn gyfystyr â chydnabyddiaeth nad yw’r polisi swyddogol dros y degawdau o drin Cymru fel pe bai’n un uned ieithyddol wedi gweithio.
Parhau i ddirywio mae’r Gymraeg wedi’i wneud yn yr ardaloedd lle mae canran uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol yn ei siarad. Yn y rhan fwyaf o weddill Cymru, mae llawer o’r hyn sy’n ymddangos fel cynnydd yn seiliedig ar ffigurau amheus o uchel am y gallu i siarad Cymraeg ymysg plant. Ar y cyfan, yr unig ardaloedd sydd wedi dangos cynnydd sylweddol yw’r rheini fel rhannau o Gaerdydd lle mae llawer o Gymry wedi symud iddyn nhw o’r gogledd a’r gorllewin.
Gobeithio y bydd yr adroddiad yn rhoi diwedd unwaith ac am byth ar unrhyw amheuon ynghylch yr angen am weithredu penodol dros y Gymraeg yn yr ardaloedd hynny lle mae’n cael ei siarad gan drwch sylweddol o’r boblogaeth.
Mae’r adroddiad yn taro’r hoelen ar ei phen wrth ddweud mai yn yr ardaloedd lle mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg mae’r potensial mwyaf ar gyfer defnydd bob dydd o’r iaith mewn gwahanol gyd-destunau cymdeithasol.
Da oedd clywed y Prif Weinidog, Eluned Morgan, yn cydnabod pwysigrwydd yr ardaloedd hyn wrth siarad yng nghyfarfod lansio’r adroddiad. Roedd hi’n esbonio pa mor bwysig iddi hi fel rhywun gafodd ei magu yn un o rannau mwyaf Seisnig Caerdydd oedd gweld ardaloedd lle’r oedd y Gymraeg yn cael ei siarad fel iaith bob dydd.
Dyma gydnabyddiaeth ar lefel uchaf llywodraeth fod ymrwymiad i barhad yr iaith yn golygu’r angen am ymrwymiad hefyd i gadw ei chadarnleoedd yn Gymraeg.
Fel y dywed yr adroddiad, mae cynnal ardaloedd o’r fath yn gwbl hanfodol er mwyn cefnogi’r Gymraeg fel iaith genedlaethol. Mae’n dilyn felly fod yn rhaid iddyn nhw gael blaenoriaeth haeddiannol. Synhwyrol hefyd yw canolbwyntio mwy o’n hadnoddau prin mewn lleoedd lle maen nhw’n fwyaf tebygol o gael effaith.
Diffinio’r ardaloedd
Sut mae diffinio ardaloedd mwy Cymraeg eu hiaith? Hwn oedd un o’r cwestiynau rhethregol ddefnyddid amlaf yn y gorffennol i daflu dŵr oer ar y syniad o ddynodi statws swyddogol iddyn nhw.
Mae’n wir y gall fod yn anodd a dyrys diffinio ardaloedd o’r fath, ond dydi hynny’n ddim esgus o gwbl dros beidio â wynebu’r her – ac mae ymhell o fod yn amhosibl.
Er nad bwriad y Comisiwn oedd pennu’n fanwl pa ardaloedd y dylid eu dynodi, mae’n amlwg eu bod yn sylweddoli’r angen i roi arweiniad ynghylch hyn.
Ar y cyfan, mae’r canllawiau maen nhw’n eu cynnig yn ddigon synhwyrol, yn enwedig yn y ffordd maen nhw’n cynnig graddau helaeth o hyblygrwydd.
I ddechrau, maen nhw’n awgrymu bod pob ardal o fewn unrhyw sir sydd â chanran benodol neu uwch yn gallu siarad Cymraeg yn cael ei dynodi’n ardal o ‘arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch’. Bydd rhyddid i awdurdodau lleol hefyd ychwanegu ardaloedd cyfagos atyn nhw, hyd yn oed os yw canran y siaradwyr Cymraeg yn is na’r trothwy cenedlaethol.
Mae’r Comisiwn yn iawn hefyd i roi’r pwyslais ar ardaloedd di-dor ac ar seilio’r canrannau cyffredinol sy’n gallu siarad Cymraeg mewn ardaloedd cymharol helaeth yn hytrach na fesul ward neu gymuned unigol.
Er eu bod yn gadael y gwaith o bennu’r ganran i Lywodraeth Cymru, maen nhw’n awgrymu 40% fel trothwy. Mae’r ganran hon yn ymddangos yn ddigon synhwyrol gan y byddai’n galluogi cynnwys y rhan fwyaf o’r ardaloedd lle mae mwyafrif y boblogaeth frodorol yn gallu siarad Cymraeg. Byddai hefyd yn galluogi cynnwys rhan helaeth a di-dor o orllewin Cymru, ac yn cynrychioli’r rhaniad gwirioneddol sy’n dal i fod rhwng y Gymru fwy Cymraeg a gweddill Cymru.
O fewn yr ardal hon, gellid amcangyfrif (yn fras iawn) y byddai ychydig dros 200,000 o siaradwyr Cymraeg yn byw, gan ffurfio tua 55% o leiaf o gyfanswm ei phoblogaeth, o gymharu â chanran o tua 12% yng ngweddill Cymru.
Yn wir, yr hyn sy’n drawiadol ydi mor debyg ar fap yw siâp y Gymru fwy Cymraeg heddiw i’r hyn oedd ganrif a mwy yn ôl, er cymaint mae’r canrannau o’i mewn wedi gostwng.
Byddai codi’r trothwy i 50%, er yn ymddangos yn rhesymegol ar yr olwg gyntaf, yn arwain at glytwaith tameidiog, yn enwedig ar hyd a lled y de-orllewin. Byddai defnyddio 50% hefyd yn ei gwneud yn fwy anodd dadlau dros hyblygrwydd gan fod y ffigur yn cynrychioli gwahanfur sylfaenol rhwng mwyafrif a lleiafrif.
Yn yr un modd, gallai rhoi trothwy is – o 25%, dyweder – hefyd olygu patrwm tameidiog o ardaloedd. Yn waeth fyth, gallai trothwy rhy isel danseilio holl ddiben y syniad o ardaloedd dwysedd uwch.
Gwrthod dwy haen
Yn ôl yr adroddiad, cafwyd ymatebwyr yn galw ar i’r Comisiwn gyflwyno dwy haen o ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol, gyda rhai yn awgrymu 70% fel trothwy ar gyfer yr haen uwch.
Braidd yn wan yw rhesymau’r Comisiwn dros wrthod hyn, a gellir dychmygu eu bod yn bennaf seiliedig ar dybiaeth y byddai’n haws perswadio Llywodraeth Cymru i dderbyn y cynnig symlach o un haen. Hawdd dychmygu hefyd y gallai fod gwahaniaeth barn ymhlith aelodau’r Comisiwn ar y mater.
Mae’n gwbl wir y byddai’r haen ddwysaf wedi’i chyfyngu i’r gogledd-orllewin. Mae hyn yn anochel, gan fod Cyfrifiad 2021, fel Cyfrifiad 2011 o’i flaen, wedi amlygu’r gogledd-orllewin fel prif ardal graidd y Gymraeg. Ar y llaw arall, camarweiniol yw honiad y Comisiwn na fyddai fawr o gydlynedd tiriogaethol iddi. O fewn yr ardal hon, sy’n cynnwys talp helaeth o Wynedd (gogledd Meirionnydd, Llŷn ac Eifionydd a’r rhan fwyaf o Arfon), a de a chanolbarth Môn, mae canran heb fod ymhell o dri chwarter ei phoblogaeth yn gallu siarad Cymraeg. Mae hefyd fwlch ieithyddol sylweddol rhyngddi â’r ardaloedd o’i chwmpas, sef gweddill yr ardaloedd dwysedd uwch, lle mae oddeutu hanner y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg.
Mewn gwirionedd, mae’r ardal graidd yn fwy cydlynol yn ieithyddol na’r ardal ehangach gan fod llai o amrywiaeth o’i mewn, gyda mwyafrif llethol y boblogaeth gynhenid yn gallu siarad Cymraeg beth bynnag fo’u hoedran. Ar y llaw arall, yn yr ardaloedd sydd â 40%-60% yn gallu siarad Cymraeg, mae amrywiaeth helaeth rhyngddyn nhw a’i gilydd, gyda’r boblogaeth frodorol yn colli gafael ar yr iaith mewn rhai, a disodli diwylliannol yn brif broblem mewn eraill.
Mae’n debygol y bydd pwysau’n parhau am gydnabyddiaeth bellach i’r brif ardal graidd, gan mai dim ond yma y bydd rhai o’r argymhellion yn ymarferol neu’n fwyaf perthnasol. Mae’n debygol iawn hefyd mai o fewn yr ardal hon y byddai fwyaf o gefnogaeth iddyn nhw.
Bydd hyn yn arbennig o wir os bydd rhagor o ardaloedd yn cael eu cynnwys yn y dynodiad dwysedd uwch sylfaenol (40%) a argymhellir. Er mai sicrhau gweithredu argymhellion presennol y Comisiwn yw’r flaenoriaeth ar hyn o bryd, ni ddylid cau’r drws ar amrywio polisi o fewn rhanbarth eang yr ardaloedd dwysedd uwch.
Arweiniad gwleidyddol
Mae pwysigrwydd cenedlaethol cymunedau Cymraeg i hyfywedd a dyfodol yr iaith y tu hwnt i unrhyw amheuaeth bellach. Dylai fod yn fater o synnwyr cyffredin nad oes gobaith am unrhyw gynnydd gwirioneddol os na ellir dal gafael ar yr hyn sydd gennym eisoes.
Er hyn, mae angen mwy na dadleuon deallusol sydd wedi’u seilio ar hanfodion elfennol cymdeithaseg iaith. Mae angen hefyd arweiniad gwleidyddol sy’n ysbrydoli’r ymdeimlad o werth cadarnleoedd y Gymraeg fel etifeddiaeth amhrisiadwy sy’n rhaid ei diogelu. Nid dim ond am eu bod yn hanfodol i hyfywedd y Gymraeg, ond hefyd am fod y Gymraeg yn rhan annatod o hunaniaeth a diwylliant y tiroedd a’r cynefinoedd hynny.
Law yn llaw â dyfarnu’r statws a argymhellir i’r ‘ardaloedd dwysedd uwch’, mae angen meithrin ymwybyddiaeth o falchder yn yr ardaloedd hynny o fod yn rhan o’r Gymru fwy Cymraeg. Dylai cynnal a chodi’r niferoedd a’r canrannau sy’n siarad Cymraeg ynddyn nhw fod yn gymaint rhan o falchder bro ag yw gwella eu heconomi a’u hamgylchedd, cynnal eu gwead cymdeithasol neu gadw eu strydoedd yn lân.
Yr hyn sydd yn y fantol yn ein hardaloedd Cymreiciaf yw llinyn arian di-dor etifeddiaeth ddiwylliannol sydd wedi datblygu dros ganrifoedd. Pan fo hwnnw’n cael ei dorri, mae’n ergyd i holl naws a hunaniaeth yr ardaloedd hynny yn ogystal ag i’r iaith. A thrwy hynny yn ergyd i hunaniaeth genedlaethol Cymru gyfan yn ogystal.
Hyd yn oed pe bai’r Gymraeg ar gynnydd sylweddol mewn rhannau eraill o Gymru, fyddai hynny ddim yn mynd yn agos at ddad-wneud difodiant o’r fath. Yn union fel mewn cadwraeth natur, mae gwarchod tir a chynefin yn elfen gwbl hanfodol o ddiogelu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg hefyd.
Gweithredu’r argymhellion
Gobeithio y bydd gwaith y Comisiwn yn ein symud gam yn nes at ddeall a gwerthfawrogi pwysigrwydd cynefinoedd y Gymraeg a sicrhau dyfodol iddyn nhw.
Does dim disgwyl i unrhyw gomisiwn swyddogol gynnwys yr holl atebion, a phrif linyn mesur ei lwyddiant fydd y graddau y bydd ei argymhellion yn cael eu gweithredu. Bwriadaf roi sylw pellach i’r argymhellion ar gyfer gwahanol feysydd polisi penodol mewn colofn arall maes o law.
Does dim amheuaeth, fodd bynnag, fod argymhelliad pwysicaf yr adroddiad, sef dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch, yn cynrychioli cam hollbwysig ymlaen. Y flaenoriaeth bellach yw sicrhau gweithredu buan ar hyn.