Mae cyfres o bodlediadau newydd Pod yr Ysgol, sydd wedi cael eu dylunio’n benodol ar gyfer y gweithlu addysg, yn cael ei lansio gan dîm Cefnogi’r Gymraeg Adran Addysg Cyngor Sir Ceredigion.

Daw’r fenter hon mewn ymateb i adborth gan staff y sector addysg uwchradd, oedd yn ei chael hi’n anodd mynychu gwersi Cymraeg ffurfiol wrth weithio.

Er y dywedwyd bod apiau dysgu iaith yn fuddiol, dywedodd llawer o’r dysgwyr y byddai’n well ganddyn nhw wrando ar bodlediadau wrth deithio.

Mae chwe phennod wedi’u cyhoeddi hyd yn hyn, ac mae pob pennod yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar y diwrnod ysgol ac amserlen, megis cyrraedd a gadael yr ysgol, ac amser cinio.

Mae’r podlediadau hyn yn berffaith ar gyfer y rhai sydd am ddysgu geirfa a phatrymau syml sy’n gysylltiedig â bywyd ysgol.

O fis Medi, bydd y podlediadau ar gael ar bob un o’r prif lwyfannau digidol megis Apple Podcasts a Spotify.

Mae’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl gyda chefnogaeth Arfor a Llwyddo’n Lleol.

‘Offeryn dysgu hyblyg a hygyrch’

Dywed y Cynghorydd Wyn Thomas, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar Gyngor Ceredigion, ei fod e wrth ei fodd â lansiad Pod yr Ysgol.

“Gan gydnabod yr heriau gaiff eu hwynebu gan staff wrth fynychu gwersi Cymraeg ffurfiol, roeddem am ddarparu offeryn dysgu hyblyg a hygyrch.

“Mae’r podlediadau hyn yn cynnig ffordd hwylus o ddysgu geirfa ac ymadroddion Cymraeg sy’n ymwneud â bywyd ysgol, gan ei gwneud hi’n haws i’n staff integreiddio’r iaith i’w harferion dyddiol.

“Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Arfor a Llwyddo’n Lleol i ddod â’r prosiect hwn yn fyw, yn ogystal â blaengaredd a gwaith diwyd Tîm Cefnogi’r Gymraeg.”