Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn barod i gael gwared ar y diwydiant arfau, er ei bod hi’n Genedl Noddfa a bod cysylltiad uniongyrchol rhwng arfau a dioddefaint, yn ôl Cymdeithas y Cymod.
Mae’r Gymdeithas, gafodd ei sefydlu gan wrthwynebwyr cydwybodol yn 1914, yn beirniadu Llywodraeth Cymru am ragrith eu safbwynt.
Maen nhw’n honni nad yw’r Llywodraeth yn gwneud digon i ymyrryd yn y fasnach arfau, a bod ganddyn nhw gyfrifoldeb i reoli’r diwydiant.
Daw’r cyhuddiad yn dilyn datganiad David Lammy, Ysgrifennydd Tramor San Steffan, yr wythnos hon fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig am atal trwyddedau gwerthu rhai arfau i Israel.
Mae hyn yn sgil “risg amlwg” y gallai Israel fod yn defnyddio’r arfau hyn i weithredu yn erbyn cyfraith ryngwladol yn y rhyfel yn Gaza.
Dydy Cymdeithas y Cymod ddim yn credu bod yr ymateb hwn, nac ymateb Llywodraeth Cymru, wedi bod yn ddigonol.
Mae’r Gymdeithas yn amau na fydd y gwaharddiad yn cael effaith ar offer milwrol sy’n cael ei ddefnyddio gan fyddin Israel sydd wedi’u cynhyrchu yn ffatri Teledyne Technologies ym Mhowys.
Mae’r offer hyn, medden nhw, yn cael ei werthu ar fasnach ryngwladol sy’n cynnwys gwladwriaeth Israel.
‘Gêm wleidyddol’
“Mae newid safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ar y wyneb, yn newyddion calonogol, ond yn fwy na dim yn gêm wleidyddol,” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas y Cymod.
“Rydym wedi galw ar y Deyrnas Unedig i beidio â gwerthu arfau i Israel ymhell cyn i’r rhyfel ddechrau yn Gaza.
“Ac nid yw’r newid yma yn mynd yn ddigon pell, gyda dim ond 30 o 350 o drwyddedau arfau wedi’u hatal.
“O ran yr arfau sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru, dydyn ni ddim yn gwybod yn union a ydyn nhw wedi’u gwahardd, ond nid yw’n debygol oherwydd, gydag achos Teledyne Technologies, rhannau o declynnau arfau mwy rydym yn eu creu ym Mhowys.
“Ac o edrych ar y polisi, mae arfau fel hyn wedi cael eu heithrio o’r cytundeb – gweler achos F-35.”
Teledyne, JCB ac Elbit
Fis Mawrth eleni, fe wnaeth y Gymdeithas gyhuddo o leiaf dri o fusnesau sy’n weithredol yng Nghymru o fod ynghlwm â masnachu arfau sy’n cael eu defnyddio’n uniongyrchol gan fyddin Israel yn Gaza, sef Teledyne Labtech Powys, JCB yn Wrecsam, ac Elbit Systems, sy’n treialu dronau yn Aberporth.
Mae Teledyne Technologies wedi cefnogi rhaglen awyrennau milwrol F35 Lockheed-Martin ers 2004.
Er bod tystiolaeth fod Israel yn defnyddio awyrennau F35 wedi’u cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig yn y rhyfel yn Gaza, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi eu heithrio nhw o’r gwaharddiad, a hynny yn sgil eu pwysigrwydd honedig i ddiogelwch y Deyrnas Unedig a chynghreiriaid yn NATO.
“Yn bendant, mae gan Lywodraeth Cymru ran mewn ymyrryd yng ngwerthiant arfau; mae’r Llywodraeth yn parhau i fod yn Genedl Noddfa, ond nid yw’n barod i gael gwared ar ddiwydiant arfau sydd â chysylltiad uniongyrchol gyda ffoaduriaid,” meddai Cymdeithas y Cymod.
“Mae’n rhaid i ni edrych ar fuddsoddi mewn diwydiannau gwyrdd a chyfeillgar.”
Cenedl Noddfa
Mae Llywodraeth Cymru wedi anelu ers 2019 at ddod yn Genedl Noddfa.
Amcan y cynllun hwn ydy gwella safon y cymorth mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn ei dderbyn wrth gyrraedd Cymru ac ymgartrefu yma.
Yn ôl yr elusen Amnest Rhyngwladol, mae rhyfel a gwrthdaro arfog yn un o’r prif resymau pam fod ffoaduriaid yn gadael eu mamwlad – gwledydd fel Syria, Irac ac Affganistan, lle mae’r Deyrnas Unedig wedi ymyrryd yn filwrol dros yr ugain mlynedd diwethaf.
Ar y cyfan, dydy polisi masnach ddim wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, ond yn ôl dogfen polisi gafodd ei chyhoeddi gan y Llywodraeth fis Gorffennaf eleni, “mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wrth negodi cytundebau masnach, ac mae gan y Senedd gymhwysedd i basio deddfau sy’n ymwneud ag arsylwi a gweithredu rhwymedigaethau rhyngwladol”.
Mae’r Llywodraeth hefyd yn datgan mai un o amcanion eu polisi masnach yw sicrhau eu bod, “wrth wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru” yn ystyried “a allai gwneud rhywbeth o’r fath wneud cyfraniad cadarnhaol at lesiant byd-eang”.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.