Dydy Llafur “ddim yn sefyll dros bobol ddifreintiedig”, yn ôl Mabon ap Gwynfor.
Fe fu Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd yn siarad â golwg360, gan drafod Llywodraeth Lafur Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Er ei fod o’r farn bod yna “ddealltwriaeth” o’r penderfyniad i benodi Mark Drakeford, cyn-Brif Weinidog Cymru, yn Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol dros dro, dywed fod y ffaith fod y penodiad yn un dros yn awgrymu nad oes syniadau ffres nac “atebion hirdymor” o fewn y Llywodraeth.
“I fi, mae hynny yn arwydd o wendid sylfaenol o fewn y Blaid Lafur,” meddai.
“Does ganddyn nhw ddim syniadau newydd o dan [y Prif Weinidog] Eluned Morgan.”
Cafodd Eluned Morgan ei phenodi’n Brif Weinidog Cymru ddechrau mis Awst, ac ers hynny mae hi wedi bod ar ’daith wrando’ ledled Cymru.
Yn ôl Mabon ap Gwynfor, er bod sôn am restrau aros, ddylai’r ffocws ddim bod ar bobol sydd yn aros hiraf, ond ar y rhai sydd â’r angen mwyaf am driniaeth.
“Maen nhw wedi methu buddsoddi mewn dau begwn o’r Gwasanaeth Iechyd – gofal cynradd, sef buddsoddi mewn meddygon a meddygfeydd, ac wedyn gofalwyr cymdeithasol.
“Dylai hwn fod yn flaenoriaeth i’r llywodraeth, ond dydy o ddim.”
Cyllideb “fregus”
Mewn cyfweliad â’r BBC, dywedodd Eluned Morgan nad yw hi na’i Llywodraeth “yn disgwyl gweld yr un math o sefyllfa [â’r Alban]”, lle mae £500m wedi cael ei dorri o’u cyllideb.
Bydd y sefyllfa’n wahanol yng Nghymru oherwydd eu bod nhw “wedi gwneud y penderfyniadau anodd”, meddai.
Mae disgwyl y bydd yn rhaid torri yn ôl ar rai cyllidebau nad ydyn nhw’n hanfodol.
Yn ôl Mabon ap Gwynfor, ddylai Cymru ddim cael ei “thanariannu” gan San Steffan.
“Yma yng Nghymru, rydym wedi galw hyn allan am flynyddoedd,” meddai.
“A’r ateb sydd wedi bod… ‘Wel, dydy Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ddim yn ein galluogi ni i wario’. Wel, dydi hynny ddim yn wir ddim mwy.
“Yn hanesyddol, bysech chi’n meddwl bod Llafur i’r chwith o’r canol ac yn sefyll dros bobol ddifreintiedig, ond dydyn nhw ddim.
“Mae eu syniadau economaidd nhw yn sefyll dros syniadau neo-ryddfrydol.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.