Mae Aelod Seneddol Ynys Môn yn galw am eglurder ynghylch safle Wylfa a dyfodol ynni ar Ynys Môn.
Mae Llinos Medi, gafodd ei hethol dros Blaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf, wedi beirniadu cyn-wleidyddion am gynnig “gobaith ffug” i gymunedau.
Mae hi’n galw ar Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig am ymrwymiad ac amserlen glir o ran dyfodol safle Wylfa a strategaeth ynni ehangach ar gyfer Cymru.
Daeth ei sylwadau yn ystod dadl ar Fil Ynni Prydain Fawr ddoe (dydd Iau, Medi 5), wrth iddi dynnu sylw at botensial ynni’r ynys a beirniadu’r ansicrwydd ynghylch dyfodol Wylfa.
Roedd hi’n feirniadol o’r Llywodraeth Geidwadol flaenorol am chwarae “gêm wleidyddol” a chynnig “gobaith ffug” i gymunedau o ran dyfodol safle ynni niwclear yr ynys.
Mynegodd hi bryderon am ddiffyg buddsoddiad mewn prosiectau ynni yng Nghymru, gan nodi bod y wlad ond yn derbyn 1.63% o ddyraniad yr ocsiwn cytundeb-er-gwahaniaeth diweddaraf, heb fod yr un cytundeb wedi’i ddyfarnu i brosiectau gwynt oddi ar y lan yng Nghymru.
Mi wnaeth hi ganmol llwyddiant prosiect llanw HydroWing, oedd wedi sicrhau 10MW yn yr ocsiwn, gan dynnu sylw at bwysigrwydd prosiect cymunedol Morlais ger Caergybi.
Ond mae hi wedi annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau perchnogaeth leol a chymunedol o brosiectau ynni, gan alw am ddatganoli Ystad y Goron i Gymru fel sy’n digwydd yn yr Alban.
Yn y pen draw, meddai, yr unig ffordd y gallai potensial ynni naturiol “enfawr” Ynys Môn a gweddill Cymru gael ei wireddu yw pe bai adnoddau naturiol Cymru’n cael eu rheoli gan gymunedau yng Nghymru.
‘Ynys ynni’
“Caiff Ynys Môn ei hadnabod fel yr ynys ynni oherwydd ei photensial ynni naturiol cyfoethog, ei llanw pwerus a rhagweladwy, a hanes balch o gynhyrchu niwclear yr ynys,” meddai Llinos Medi yn Nhŷ’r Cyffredin.
“Fe fu safle Wylfa’n gêm wleidyddol ers dros ddegawd.
“Yn 2019, roedden ni mor agos at y llinell derfyn, ond roedd diffyg cefnogaeth wleidyddol i’r safle gan y Llywodraeth ar y pryd.
“Mae’r gymuned wedi gweld gobaith ffug Wylfa Newydd, ac mae ansicrwydd o ran y safle o dan y Llywodraeth Lafur hon.
“Dywed taflen ffeithiau’r Llywodraeth ar gyfer y Bil y bydd swyddogaethau Great British Energy yn cynnwys ‘archwilio sut y bydd Great British Energy a Great British Nuclear yn cydweithio’.
“Dydy pobol Ynys Môn ddim eisiau rhagor o ystyried; maen nhw eisiau ymrwymiad clir ac amserlenni.
“Dw i’n annog y Llywodraeth i roi ateb clir i Ynys Môn ynghylch dyfodol safle Wylfa, ac amserlen glir.
“Roeddwn i’n falch fod prosiect llanw HydroWing wedi ennill 10MW yn yr ocsiwn cytundeb-er-gwahaniaeth yn ddiweddar.
“Bydd y dechnoleg hon yn cynhyrchu ynni i brosiect cymunedol Morlais oddi ar arfordir Caergybi.
“Fodd bynnag, dderbyniodd Cymru ddim ond 1.63% o ddyraniad cyfan yr ocsiwn, a doedd dim cytundebau wedi’u dyfarnu i brosiectau gwynt oddi ar y lan yng Nghymru.
“Cawson ni addewid y byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan a Llywodraeth Lafur yng Nghymru o fudd i Gymru.
“Dydy hyn ddim eto wedi cael ei weld.
“Byddai ymrwymiad i GBE ehangu ynni perchnogaeth gymunedol yn lleol ac yn gymunedol, ochr yn ochr â datganoli Ystad y Goron, yn sicrhau bod perchnogaeth ac elw o brosiectau ynni yn nwylo pobol Cymru ac fe allai helpu i ostwng biliau.
“Dw i’n annog y Llywodraeth hon i sicrhau bod y penderfyniadau hynny’n cael eu rhoi mewn dwylo lleol, ond i beidio â rhuthro’r penderfyniadau ar baneli solar mawr, oherwydd mae diogelwch bwyd yn hanfodol, a gallai colli tir amaethyddol gwerthfawr olygu dirywiad yn economi Ynys Môn.
“Yn y pen draw, all potensial ynni naturiol enfawr Ynys Môn a gweddill Cymru ddim ond cael ei wireddu go iawn os ydy rheolaeth o adnoddau naturiol Cymreig yn nwylo cymunedau Cymru, gyda chefnogaeth buddsoddiad cyhoeddus digonol i ateb ein nodau hinsawdd ac economaidd.”