Dros y ganrif ddiwethaf, mae artistiaid, cerddorion a llenorion wedi cael eu dylanwadu gan hen gartref Hedd Wyn.
Mae’r Ysgwrn ei hun, a sut cadwodd y teulu’r drws ar agor wedi i Fardd y Gadair Ddu gael ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn gymaint o ran o’r stori â’r bardd ei hun.
Yn ddiweddar, mae arddangosfa newydd barhaol wedi’i gosod ar safle’r hen ffermdy yn Nhrawsfynydd yn dangos dylanwad yr Ysgwrn ar lenyddiaeth, celf a cherddoriaeth.