Yn dilyn yr helynt yn Steddfod Pontypridd, bydd enw newydd ar gystadleuaeth Y Fedal Ddrama ac mae’r meini prawf yn cael eu haltro hefyd.
Ac mae’r dramodydd Paul Griffiths yn amau gwerth y newid…
Allwch chi ddadlau fod beirniaid Y Fedal Ddrama wedi gwobrwyo’n fwriadol y llais newydd amlwg yn hytrach na’r hen brofiadol gadarn eleni.
Drwy gyfaddef iddynt wobrwyo “llais cyffrous ac yn safbwynt ffresh a newydd i theatr yng Nghymru”, pwy ag ŵyr na chafodd dramodydd mwy profiadol a galluog gam anferthol yn sgil y llanast? Mae’r ffaith bod yr Eisteddfod nid yn unig wedi canslo’r gystadleuaeth yn ei chyfanrwydd, ond hefyd wedi sensro’r Seremoni a’r Feirniadaeth gyhoeddedig, yn awgrymu hynny’n fawr. Os ddim, pam bod angen celu a chanslo’r cwbl? Alla i ddim derbyn na chredu nad oedd y ddrama ddaeth i’r brig yn wael drwyddi, nac yn anghywir nac yn gyfan gwbl annerbyniol.
Ond os am osgoi’r cyhuddiadau neu sgandal o’i bath eto, mae’n rhaid wynebu’r gwir a sicrhau bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud o flaen llaw. Diogelu o’r blaen yn lle gwarchod wedi’r llanast! Yn yr Oes Ddigidol sydd ohoni, lle mae newyddion a sïon a damcaniaethu yn llifo o fewn eiliadau i stori dorri, ymateb yn gwbl agored a diffuant yw’r unig ffordd ymlaen, gan drin eich cystadleuwyr a’ch cefnogwyr yn gwbl deg.
Un o’r prif resymau dros gystadlu’n llenyddol mewn unrhyw Eisteddfod ydi cael gwneud hynny o dan ffugenw. Mae’r gystadleuaeth i fod yn gwbl deg â phawb, ac yn ddiduedd. Dyletswydd yw dewis beirniaid sydd mor annibynnol â phosib o ddalgylch yr Eisteddfod, neu sicrhau nad oes beirdd o’r un timau barddol yn cyd-feirniadu, neu feirniaid drama sydd eisoes yn gyfarwydd â’r gwaith. Anodd eto, yn y cylch dieflig o bawb-yn-nabod-neu’n-perthyn-i’w-gilydd…
Ond dychmygwch newid un o’r Prif Gystadlaethau, er mwyn sicrhau bod yr awdur yn wybyddus i’r beirniaid?! Os edrychwch ar y newid sydd wedi’i gyflwyno ar gyfer Medal y Dramodydd y flwyddyn nesaf yn Wrecsam – Medal i’r ‘dramodydd’ sylwer, yn hytrach nag i’r Ddrama – mae sgrechiadau o bryder i’w clywed yn glir.
Pam bod angen newid teitl y Fedal a’r gystadleuaeth i gychwyn? Pam bod angen newid y gystadleuaeth yn ei chyfanrwydd? Un o fy nhasgau ers yr helynt eleni, yw ymchwilio i hanes cystadlaethau y Ddrama Hir a’r Ddrama Fer yn y Genedlaethol ar hyd y blynyddoedd . (Diolch i Elin yn Siop Yr Hen Bost, ‘Stiniog a Jo yn Cant a Mil, Caerdydd am imi fedru prynu ôl-rifynnau o’r Cyfansoddiadau!). Trwy wneud hynny, mae hi wedi’n nghyffroi i fwyfwy am yr angen i warchod Prif Gystadleuaeth Y Ddrama, rhag newidiadau ffôl a hollol ddisynnwyr, yn enwedig o gofio’r atal a fu.
Calonogol oedd gweld yn y dair-mlynedd-ar-ddeg olaf (ar wahân i ddileu Eisteddfod 2020 oherwydd Covid) bod teilyngdod bob blwyddyn hyd eleni! Mor wahanol i’r hanner can mlynedd cynt, ble gwelwyd atal y wobr (boed hynny yn Dlws, wobr ariannol neu Fedal) bron i 50% o’r blynyddoedd a gynhaliwyd y gystadleuaeth! Felly dwi’n gofyn eto, pam bod angen y newid?
Gwobrwyo sawl dramodydd am lunio braslun
Y newid mwyaf yw’r ffaith mai ‘comisiwn o £3,000’ yw’r atyniad bellach ac nid y mymryn o fedal i’r dramodydd (neu ‘ddramodwyr!’). Wedi mynd mae’r ddau neu dri beirniad annibynnol, ac yn eu lle mae’r ‘consortiwm’ o aelodau o’r cwmnïau theatr bresennol a doethion dramatig yr Eisteddfod Genedlaethol. O ba Goleg, dywedwch?! Wedi’i anwybyddu hefyd mae un o reolau aur yr Eisteddfod, sef bod pawb yn cystadlu dan ffugenw, er mwyn sicrhau bod yn hollol ddiduedd. Pan welais y cymal ‘Gellid cyflwyno Dramâu nad ydynt eisoes wedi cael eu cyflwyno i unrhyw un o aelodau’r Consortiwm’ fe suddodd fy nghalon. A dyna ddileu’r elfen gyfrinachol, gan y bydd rhai o aelodau’r ‘consortiwm’ yn gwybod yn iawn pwy yw’r dramodwyr, ac yn gallu rhannu hynny wrth drafod, er mwyn gwthio’u prosiectau sydd eisoes ar waith. Pa mor wahanol ydi’r broses newydd hon, i’r broses arferol o dendro am waith? Neu am gomisiwn? Nid cystadleuaeth Eisteddfod yw hi bellach.
Ac nid ‘drama’ sy’n rhaid ei chyflwyno. Fe gewch chi gystadlu drwy ‘gyflwyno naill ai braslun o hyd at 2500 o eiriau, sy’n cynnwys amlinelliad stori […], proffil cymeriadau, arddull y darn ac enghraifft o 3 golygfa wedi ei deialogi’. Dychmygwch osod y fath amodau yng nghystadlaethau Y Goron, Y Gadair neu’r Fedal Ryddiaith!
A dyma’r drydedd ‘amod arbennig’ pryderus; ‘Gellid cyflwyno fel cyd-ysgrifennwr, gan rannu’r wobr ariannol a’r profiad sydd ynghlwm â’r wobr’. Gobeithio bod gan Betsan Moses [Prif Weithredwr yr Eisteddfod] angle-grinder go bwerus wrth ei desg, yn barod i hollti’r Fedal yn ddau, pedwar neu ddeg rhan gyfartal?! A beth sy’n arbed dosbarth cyfan rhag cystadlu fel cywaith? A beth am ddramodydd di-Gymraeg a’i gyfieithydd? Ta, ai dyna yw’r gobaith? Ai Prif Gystadleuaeth Y Ddrama yw’r lle cywir i arbrofi gyda’r fath ddelfryd?
Mae’n amlwg ymhle mae blaenoriaeth y rhai sydd wedi’u dewis i newid y gystadleuaeth eleni! Yn sicr ddim efo ni’r dramodwyr druan, ond efo’r cwmnïau theatr fydd yn cael dewis darn o waith i siwtio arddull eu cwmni; neu brosiect sydd eisoes ar y gweill. Faint o fri a pharch a thegwch ddaw yn sgil y fath beth?
Mae’r anwybodaeth am yr hanes a’r helynt a fu, yn boenus o amlwg, a dylai’r siambyls eleni fod yn rhybudd ddigon clir, pam na ddylid newid. Petai’r pwerau allanol heb ymyrryd eleni, efo gwaith y dramodydd buddugol, a dewis y beirniaid wedi’i barchu, yna fyddai dim angen am y llith dwrdio yma! Annibyniaeth yw’r achubiaeth. Cadw egos a pholisïau artistig y cwmnïau theatr unigol ymhell o reolaeth enillwyr y gystadleuaeth hon. Siawns na all pawb call weld hynny? Os ydi’r cwmnïau theatr am arbrofi a chreu cyfle am brosiectau cyd-weithio, neu ehangu’r cylch cystadlu i gynnwys yr holl rywogaethau gwarchodedig, yna crëwch gystadleuaeth newydd – i ddramodwyr newydd, ar ffurf Medal y Dysgwyr. Gyda llaw, pryd mae’r Fedal honno am gael ei hail-enwi yn Fedal y Siaradwyr Cymraeg newydd?!