Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried cyflwyno cymhelliant ariannol ar gyfer mewnfudwyr sgiliau uchel, yn ôl ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae’r adroddiad yn nodi bod mewnfudo yn ffordd o wrthbwyso poblogaeth sydd yn heneiddio’n gyflym.
Er mwyn cymell mewnfudwyr sgiliau uchel a’u teuluoedd i aros yng Nghymru, awgryma’r ymchwil y dylid ad-dalu’r Gordal Iechyd Mewnfudo.
Rhaid i fudwyr dros dro sy’n dod i’r Deyrnas Unedig dalu’r gordal blynyddol, fel rheol, er mwyn cyfrannu at y gyllideb gofal iechyd.
Mae disgwyl y bydd y gordal yn codi i £1,035 y flwyddyn o 2024.
Ynghyd â mynd i’r afael â phoblogaeth sy’n heneiddio, mae disgwyl y byddai’r cam yn helpu i lenwi’r bwlch sgiliau yng Nghymru.
Yn ôl yr adroddiad, mae cyfradd swyddi gwag Cymru mewn sectorau allweddol (25%) yn uwch nag yn unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig.
Opsiwn sy’n “haeddu archwiliad”
Dywed Dr Larissa Peixoto Gomes, prif awdur yr adroddiad, mai 0.4% fyddai’r gost i gyllideb Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru pe baen nhw’n ad-dalu’r Gordal Iechyd Mewnfudo.
“Yng nghyd-destun cyllideb gyffredinol Cymru, byddai’r swm o arian i’w ad-dalu’n fach er gwaetha’r toriadau cyllidebol cyffredinol,” meddai.
“Ond byddai cymell mwy o fewnfudo sgiliau-uchel i Gymru yn helpu iechyd sylfaen drethi Cymru yn y dyfodol a chynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus.”
Ychwanega nad yw ad-dalu wedi cael ei ystyried fel opsiwn polisi hyd yma, ond ei bod hi’n credu ei fod yn haeddu archwiliad pellach.
“Mae’r adroddiad yn dangos bod mewnfudo sgiliau-uchel yn llenwi bylchau sgiliau yn economi Cymru, ond bod swyddi gweigion ar restr prinder sgiliau Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn parhau i fod yn uchel iawn,” meddai.
“Mae gan Gymru’r potensial i fod yn gartref deniadol i lawer o weithwyr a theuluoedd, a gallai hyn ddangos ewyllys da gan Lywodraeth Cymru i gael gwared ar rwystr ariannol arall i drethdalwyr a aned dramor sydd am gyfrannu at Gymru.”
Mynd i’r afael â heriau Cymru
Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd yn codi’r gordal, a dydy mewnfudo ddim wedi’i ddatganoli yn llawn.
Er hynny, fel mae’r adroddiad yn ei nodi, mae gan Lywodraeth Cymru’r pwerau i arloesi mewn rhai agweddau ar fewnfudo.
Mae eu cyfrifoldebau datganoledig yn cynnwys datblygu polisïau economaidd o amgylch mewnfudo, mynd i’r afael â phrinder sgiliau, a mynd i’r afael â phoblogaeth sy’n heneiddio.
Awgrym yr adroddiad yw y byddai ad-dalu gordal y rheiny sy’n ymgeisio am swyddi sgiliau uchel yn cymell mwy o fewnfudwyr i weithio yn y maes, ac o ganlyniad yn mynd i’r afael â rhai o’r materion dan sylw.