Mae achos Pontins yn “pwysleisio’n glir bwysigrwydd cryfhau amddiffyniadau cyfreithiol i weithwyr a hyrwyddo undebaeth o fewn y gweithlu,” yn ôl Llŷr Gruffydd.
Daw sylwadau Aelod Plaid Cymru o’r Senedd ar ôl i gwestiwn amserol gael ei gyflwyno gan Gareth Davies, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Ddyffryn Clwyd, yn ystod y cyfarfod llawn heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 6).
Gofynnodd Gareth Davies beth oedd asesiad Llywodraeth Cymru o effaith cau Pontins ym Mhrestatyn ar yr economi leol a thwristiaeth yn y sir.
“Rwy’n rhannu siom aruthrol yr Aelod ynghylch ymddygiad y cwmni a’r ffordd y gwnaethant y cyhoeddiad,” meddai Vaughan Gething, Gweinidog Economi Cymru.
“Nid dyna ddylai ddigwydd. Gwyddom fod cryn dipyn o gyflogaeth, yn ogystal â chyflogaeth dymhorol ychwanegol o’r safle.”
Daw hyn yn dilyn y newyddion bod y safle ym Mhrestatyn wedi cau ar unwaith yr wythnos ddiwethaf, heb unrhyw rybudd blaenorol i staff.
Newid y gyfraith?
Gofynnodd Llŷr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros ogledd Cymru, a ddylai fod yna newid yn y gyfraith er mwyn atal busnesau eraill rhag cau’n ddirybudd.
“Byddai’n dda gennyf glywed gan y Gweinidog a yw’n meddwl, mewn gwirionedd, fod Pontins wedi torri eu cyfrifoldebau statudol o ran diswyddiadau drwy gyhoeddi cau safle Prestatyn heb rybudd priodol ac ymgynghori ymlaen llaw â’r gweithwyr,” meddai.
Fodd bynnag, dywed Vaughan Gething nad oes gan Lywodraeth Cymru’r pŵer i newid y gyfraith, gan nad yw’r mater wedi’i ddatganoli.
Ychwanegodd ei fod yn “hyderus” y byddai’r Blaid Lafur yn gwneud y newidiadau priodol pe baen nhw’n dod i rym yn San Steffan.
“Ym maniffesto’r Ceidwadwyr yn 2019, roedden nhw’n honni y bydden nhw’n newid y gyfraith mewn ffordd gadarnhaol,” meddai.
“Rydym yn disgwyl Bil cyflogaeth nad yw wedi’i wireddu.
“Rwy’n hyderus, yn etholiad cyffredinol nesaf y Deyrnas Unedig, y bydd addewid maniffesto gan fy mhlaid wleidyddol fy hun i wneud newidiadau yn y byd gwaith.
“Edrychwn ymlaen at weld a yw pobl eraill yn barod i ailymrwymo i’r hyn y dywedasant y byddent yn ei wneud yn y gorffennol ai peidio.”
Buddsoddi yn arfordir y gogledd
Dywedodd Vaughan Gething fod ei swyddogion yn aros am ymateb gan Britannia Hotels, perchnogion Pontins Prestatyn, er mwyn canfod pa gymorth ariannol fydden nhw’n fodlon ei gynnig i geisio adfer effaith economaidd cau’r safle.
Fodd bynnag, dywedodd nad oes ganddyn nhw “ddyletswydd gyfreithiol i wneud hynny.”
Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru am barhau i fuddsoddi yn arfordir gogledd Cymru.
“Rydym eisoes wedi darparu £1.75m mewn datblygiad eiddo i gefnogi ailddatblygu hen safle Kwik Save ym Mhrestatyn,” meddai.
“Mae gennym ni gynlluniau pellach ar draws yr arfordir yn y Rhyl; yn ogystal, gwaith rydym ni’n ei wneud ochr yn ochr â’r cyngor.
“Felly, rydym yn gweld dyfodol cadarnhaol i dwristiaeth gogledd Cymru, gan gynnwys yn etholaeth yr Aelod, y byddwn yn parhau i fod eisiau buddsoddi ynddo ac i weithio ochr yn ochr â phartneriaid dibynadwy sydd yma am y tymor hir i fuddsoddi yn ein cymunedau a’r hyn sydd gan ogledd Cymru i gynnig.”