Bydd noson arbennig yn cael ei chynnal yng nghlwb nos Copa yng Nghaernarfon nos Sadwrn (Rhagfyr 9), i gofio am Gareth Fôn Jones, cyn-brifathro Ysgol Dolbadarn yn Llanberis, fu farw’n 53 oed.

Dafydd Iwan fydd prif berfformiwr y noson, gyda’r canwr lleol Dylan Evans o Lanllyfni yn ei gefnogi.

Bydd elw’r cyngerdd a’r raffl yn mynd i’r Anthony Nolan Trust ac i Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd trwy elusen Awyr Las.

Cafodd Gareth Fôn Jones wybod fis Gorffennaf y llynedd fod MDS (Myelodysplastic Syndrome) wedi dychwelyd arno, yn dilyn trawsblaniad mêr esgyrn fis Medi 2015 ar gyfer yr un cyflwr.

Diolch i waith yr Anthony Nolan Trust yn 2015, roedd modd dod o hyd i roddwr celloedd bonyn yn yr Almaen, ac fe gafodd y rhodd anhygoel o bron i wyth mlynedd o fywyd ychwanegol.

Yn anffodus, bu i frwydr Gareth Fôn Jones ddod i ben ar Fehefin 29 ar Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, lle cafodd y gofal gorau a chanfod gweithwyr iechyd a gwirfoddolwyr anhygoel o gefnogol, hwyliog, gofalus a chariadus, yn ôl ei deulu.

Mae’r noson wedi’i threfnu gan Copa, gyda chefnogaeth Banc Santander Caernarfon sy’n rhoi nawdd cyfatebol o £2,000 ar gyfer yr elusennau.

Mae teulu a ffrindiau yn edrych ymlaen at gael cofio person mor annwyl a hwyliog, a chael casglu arian at ddau achos sydd wedi bod mor agos at eu calonnau ac oedd mor bwysig i Gareth Fôn Jones, medden nhw.

Mae’r raffl yn cynnwys trip i ddau i Amsterdam gan Teithiau Elfyn Thomas, pêl-droed wedi’i harwyddo gan dîm dynion Cymru, talebau a thocynnau anrheg, a dros ddeuddeg o wobrau eraill wedi’u cyflwyno gan fusnesau lleol.

Cefnogaeth Copa

Fe fu Gareth Fôn Jones a Roland Evans yn briod am bedwar mis yn unig.

Fe wnaeth Copa gynnig cynnal y noson er mwyn cofio amdano a chefnogi elusennau lleol.

“Yn amlwg rydym wedi cydweithio efo nhw i gynnal o,” meddai wrth golwg360.

“Rydym yn teimlo bod angen gwneud rhywbeth i gydnabod pasio Gareth, a hel arian i elusennau mor dda.

“Mae Anthony Nolan Trust yn elusen bwysig iawn.

“Trwyddyn nhw gafodd o drawsblaniad o’r blaen.

“Rydym yn awyddus i bobol ddod os maen nhw’n medru.

“Mae raffl efo gwobrau ffantastig ar gael gan fusnesau tref Caernarfon, sydd wedi cynnig.

“Rydym eisiau cyfle i ddathlu bywyd, rili, a chyfraniad yr elusennau, i’w fywyd hefyd.”

Cymeriad

Yn ôl Roland Evans, roedd Gareth Fôn Jones yn gymeriad lleol hoffus.

Roedd ganddo fe yrfa lewyrchus, ac mae ei ferch yn berchen ar fusnes llwyddiannus yn Llundain.

“Mi oedd yn llenwi ystafell efo’i gymeriad,” meddai Roland Evans wrth golwg360.

“Roedd yn ffrindiau efo llwyth o bobol, roedd y rhan fwyaf o bobol Caernarfon yn gwybod pwy oedd o.

“Roedd hefyd yn bositif ofnadwy yn ei olwg ar fywyd, ond yn broffesiynol iawn.

“Roedd yn bennaeth yn Ysgol Dolbadarn, a’r ysgol fel teulu iddo.

“Roedd o mor falch o’r tîm a beth roedden nhw wedi cyflawni yn y fan yna.

“Roedd y Gymraeg yn ofnadwy o bwysig iddo, roedd wrth ei fodd yn magu Cymreictod yn yr ysgol ac ymysg y plant yn fan’no.

“Roedd hefyd yn dad i Sioned, mae ei ferch o wedi bod yn llwyddiannus iawn yn Llundain.

“Mae ganddi gwmni ei hun, ac maen nhw’n datblygu gwaith ymchwil ar hyn o bryd.

“Roedd yn falch iawn ohoni hi.”

Tŷ Castell

Wrth wella o’i salwch, prynodd Gareth Fôn Jones fwyty Tŷ Castell yng Nghaernarfon, a hithau’n bistro llewyrchus yn y dref.

Roedd wedi bod yn freuddwyd ganddo adfywio’r adeilad er pan oedd e yn ei ugeiniau, ac fe wnaeth hynny.

“Roedd mentro yn rhywbeth roedd yn gwneud fwyfwy ers iddo gael canser yn 2015,” meddai Roland Evans.

“Ddaru Gareth brynu Tŷ Castell ar ôl cael trawsblaniad i’r esgyrn yn Medi 2015.

“Gwnaeth o brynu’r lle fis Medi 2016.

“Roedd hwnnw yn brosiect iddo ganolbwyntio arno tra bod o’n gwella.

“Llwyddiant Tŷ Castell i Gareth oedd fod o’n ei helpu fo i ddod drwy ganser, ond hefyd roedd yn brosiect newydd ac roedd yn llwyddiant gan fod o wedi adfywio adeilad yng nghanol tref Caernarfon oedd wedi bod yn wag ers 25 o flynyddoedd.

“Roedd Gareth yn dweud ei fod wedi edrych ar y lle yn ei ugeiniau, a dweud bod o eisiau gwneud bistro yn fan’no pan oedd yn hŷn.

“Yn amlwg, dyna wnaeth fynd ymlaen i wneud.

“Roedd y ffaith fod Gareth efo’r weledigaeth o ailwneud adeilad yng Nghaernarfon mewn ardal oedd ddim rili efo llawer yn digwydd yna ar y pryd a bod o’n fodlon mentro a symud ymlaen efo’i weledigaeth o greu bistro.

“Roedd yn arwydd o ddewrder a’i fentergarwch.”

Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd

Gwnaeth Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd i Gareth deimlo’n gyffyrddus, gan hyd yn oed ddathlu Pride Caernarfon gyda fo oherwydd ei fod rhy wael i fynd.

“I ddechrau efo’i roedd yn mynd yna dwywaith yr wythnos bob wythnos i gael traws lifiad gwaed lle’r oedd yn dod i adnabod y criw yn y fan yno’n dda iawn,” meddai.

“Wrth iddo ddirywio o ran ei iechyd, mi roedd yn cael cyfnodau o aros yno.

“Yn amlwg, roedd yn cael gofal gwych yn y cyfnod hwnnw.

“Roedden nhw’n gofalu amdano a dod mewn i siarad efo fo a rhoi cyfeillgarwch iddo fo.

“Roedd yn teimlo mor gyffyrddus a chartrefol yno.

“Roedd gwirfoddolwyr a staff yn gwneud hynny.

“Roedd Pride Caernarfon ar un penwythnos, ac roedd wedi gobeithio cael mynd i fan’no a methu.

“Daeth un o’r staff â bunting i mewn a sbectols Pride.

“Roedden nhw wedi gwneud sbloets sydyn iawn, oherwydd doedd o ddim yn dda erbyn hynny.

“Roedd hyn yn cael ei werthfawrogi yn ofnadwy.”

Manylion y digwyddiad

Mae mynediad i Copa o 7yh ymlaen ar Ragfyr 9.

Pris mynediad yw £15 ar y drws neu trwy Eventbrite, a bydd y gig yn cychwyn am 8 o’r gloch, gyda DJ yn cloi’r noson.

Bydd modd prynu tocynnau raffl ar y noson yn Copa hyd at 9yh.