Mae dyn wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio dynes yn Aberfan ddydd Mawrth (Rhagfyr 5).

Daw’r cyhuddiad yn erbyn Daniel Mihai Popescu yn dilyn digwyddiad ar Heol Moy.

Bydd yn mynd gerbron ynadon ym Merthyr Tudful fore Iau (Rhagfyr 7).

Mae’r ddynes 29 oed wedi cael mynd adref o’r ysbyty.

Cefndir

Wrth i’r newyddion am yr ymosodiad dorri, dywedodd Heddlu’r De fod yr ymosodiad wedi digwydd yn Heol Moy yn y pentref toc cyn 9.10yb.

Roedd adroddiadau bod y ddynes 29 oed wedi’i thrywanu a’i chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd, ond nad oedd ei bywyd mewn perygl.

Aeth y dyn sydd bellach wedi cael ei gyhuddo ar ffo, a bu’r heddlu’n chwilio amdano am gyfnod wrth i ysgolion lleol gau eu drysau er mwyn cadw’r plant a staff yn ddiogel wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad.

Roedd swyddogion arfog wedi’u hanfon i’r lleoliad, ac roedden nhw’n cynghori pobol i gadw draw o’r ardal.

Plismon arfog

Aberfan: Arestio dyn 28 oed mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol

Mae’r dyn o Ferthyr wedi’i arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i ddynes 29 oed gael ei thrywanu yn y pentref
Heddwas

Heddlu arfog yn ymateb i ‘ymosodiad difrifol’ yn Aberfan

Mae dynes 29 oed wedi’i thyrwanu a’i chludo i’r ysbyty