Mae swyddogion arfog yn ymateb i “ymosodiad difrifol” yn Aberfan, Merthyr fore heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 5).

Dywed Heddlu’r De fod yr ymosodiad wedi digwydd yn Heol Moy yn y pentref toc cyn 9.10yb.

Mae adroddiadau bod dynes 29 oed wedi’i thrywanu ac wedi’i chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd. Dywed Heddlu’r De nad yw ei hanafiadau’n rai sy’n bygwth ei bywyd.

Mae’r dyn sy’n cael ei amau o’r ymosodiad yn dal ar ffo, ac mae’r chwilio amdano yn parhau.

O ganlyniad, mae nifer o ysgolion yn yr ardal yn cadw plant y tu ôl i ddrysau caëedig.

Mae swyddogion arfog wedi’u hanfon i’r lleoliad, ac maen nhw’n cynghori pobol i gadw draw o’r ardal fel eu bod yn gallu delio gyda’r digwyddiad.

Dywed Gerald Jones, Aelod Seneddol Llafur Merthyr Tudful a Rhymni, ar X (Twitter gynt) ei fod wedi siarad â’r heddlu am y digwyddiad yn Aberfan.

“Efallai y byddwch yn gweld mwy o bresenoldeb yr heddlu yn yr a byddwn yn annog pawb i gydweithredu â swyddogion heddlu wrth iddyn nhw ddelio â’r digwyddiad,” meddai.