Mae’r pandemig a’r argyfwng costau byw wedi arwain at argyfwng gwirfoddoli yng Nghymru, yn ôl arolwg newydd.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Gwirfoddoli heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 5), mae Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi datgan bod y sector wirfoddol yng Nghymru dan bwysau enbyd.

Yn ôl arolwg newydd gan y Cyngor, mae 90% o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru’n cael trafferth recriwtio.

Mae’r arolwg diweddar hefyd yn dangos bod dros 80% o gynrychiolwyr o fudiadau gwirfoddol yn dweud eu bod nhw’n cael trafferth cadw gwirfoddolwyr.

Y prif rwystr gafodd ei nodi ar gyfer gwirfoddolwyr newydd oedd diffyg amser, yn ogystal â diffyg ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael.

‘Pobol yn colli allan ar fuddion gwirfoddoli’

Yn ôl Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli edrych ar wefan Gwirfoddoli Cymru.

Mae 19 o gynghorau gwirfoddol sirol ledled Cymru wedi cydweithio â’r Cyngor er mwyn lansio’r platfform i rannu cyfleoedd gwirfoddoli.

“Mae’r cyfuniad o’r pandemig byd-eang a’r argyfwng costau byw wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer y bobol sy’n gwirfoddoli yng Nghymru,” meddai Ruth Marks.

“Dyw rhai pobol heb ddychwelyd ers y pandemig; eraill wedi colli eu hyder.

“Mae’r argyfwng economaidd hefyd yn golygu bod pobol yn gorfod blaenoriaethu gweithgareddau eraill.

“Mae’n golygu bod elusennau a grwpiau gwirfoddol ledled Cymru yn ei chael hi’n anodd iawn, ond mae pobol yn colli allan ar fuddion gwirfoddoli hefyd.

“Mae tystiolaeth yn dangos bod gwirfoddoli yn lleihau unigrwydd, yn gwella iechyd meddwl ac yn helpu pobol i ddysgu sgiliau newydd.

“Os oes gennych ddiddordeb gwirfoddoli gallwch gofrestru ar wefan Gwirfoddoli Cymru am ddim, a dechrau chwilio am gyfle fydd yn gweddu i’ch diddordebau.

“Mae elusennau a mudiadau hefyd yn gallu cofrestru ar y wefan am ddim, gan restru eu cyfleoedd gwirfoddoli, felly mae’n hawdd iawn darganfod cyfleoedd gwirfoddoli yn eich ardal leol.

“Wrth gwrs, gallwch chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli trwy’r Gymraeg hefyd.”

‘Mwynhad mawr o helpu’

Mally Roberts

Mae Mally Roberts o Gapel Garmon yn gwirfoddoli ers pum mlynedd gyda Blind Veterans UK yn Llandudno, elusen sydd yn cynnig cefnogaeth i unrhyw un sydd wedi bod yn y fyddin ac wedi colli eu golwg.

Wedi iddo ymddeol ar ôl 23 o flynyddoedd gyda’r heddlu a naw mlynedd gyda’r Llu Awyr Brenhinol, roedd yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.

“Dw i’n gwneud dau beth yma, dw i’n helpu aelodau i setlo yma a mynd o gwmpas y lle, ac yn eu helpu nhw i fynd allan am dripiau a ballu,” meddai.

“A’r peth arall dw i’n ei wneud ydi tynnu lluniau gan fy mod yn gwneud gradd mewn ffotograffiaeth.

“Dw i’n cael mwynhad mawr o helpu yma.

“Maen nhw’n bobol wych, yn cwyno dim!

“Does yna neb ohonom ni yn gwybod be’ sydd rownd y gornel.

“Dim ond 57 ydw i, ond pwy a ŵyr, ella mewn blynyddoedd y bydda i angen help rywun, ond ar hyn o bryd mi fedra i helpu rhywun arall, ac mae hynna mor bwysig i fi.”

‘Rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned’

Samiya Houston

Mae Samiya Houston o Dorfaen yn 21 oed a hefyd yn gwirfoddoli yn ei chymuned gyda Sight Cymru.

“Ges i fy ngeni gyda nam golwg, felly y rheswm wnes i gysylltu â Sight Cymru i ddechrau oedd fel defnyddiwr gwasanaeth, gan fy mod i eisiau cymorth ganddyn nhw i fynd o gwmpas yn annibynnol, gan ddal y bws a’r trên ar ben fy hun.

“Ar ôl i mi gael cymorth ganddyn nhw, dyma benderfynu gwirfoddoli efo nhw.”

Yn rhan o’i gwaith gwirfoddoli, mae Samiya Houston yn ymweld â mudiadau a busnesau lleol i roi hyfforddiant ymwybyddiaeth colli golwg, a chyflwyno datrysiadau i rai o’r rhwystrau allai pobol eu hwynebu yn y busnesau hynny.

Mae hefyd yn ymweld ag ysgolion cynradd i sgwrsio â phlant am ffyrdd o geisio atal colli golwg.

“Mae gwirfoddoli yn gwneud i mi deimlo mor, mor dda,” meddai enillydd Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn yn Nhorfaen eleni.

“Mae’n rhoi teimlad cynnes i mi tu mewn o wybod mod i’n gallu mynd allan a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, a chodi ymwybyddiaeth am golli golwg.

“Mi fyddwn i bendant yn argymell gwirfoddoli i bobol ifanc eraill; mae’n ffordd dda o fagu hyder, a datblygu nifer o sgiliau eraill hefyd fel gwasanaeth cwsmer a chyfathrebu.

“Hefyd, mae’n beth gwych i roi ar eich CV!”