Gallai perchnogion ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn Sir Benfro orfod talu premiwm treth gyngor o 200% cyn bo hir, ar ôl i alwad i gynyddu’r gyfradd gael ei chefnogi gan uwch gynghorwyr.
Roedd rheolau treth lleol newydd wedi’u cyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni, sy’n golygu bod awdurdodau lleol yn gallu gosod a chasglu premiwm treth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor hyd at 300%.
Ar hyn o bryd, mae Sir Benfro’n gweithredu premiwm treth gyngor o 100% ar gyfer ail gartrefi, ar ôl cyflwyno premiwm treth gyngor o 50% ar ail gartrefi yn 2017.
Cafodd premiwm ar gyfer eiddo gwag hirdymor yn y sir ei gyflwyno yn 2019, ar gyfer eiddo fu’n wag ers tair blynedd neu fwy.
Ymgynghoriad cyhoeddus
Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ar unrhyw newidiadau posib i’r premiwm, yn amrywio o 0% i 300%, ei lansio gan Gyngor Sir Penfro yn gynharach eleni.
O blith yr ymatebwyr oedd heb ail gartref, llety gwyliau neu eiddo gwag, roedd 36% eisiau gostyngiad, 21% yn ffafrio peidio newid unrhyw beth, a 38% o blaid cynnydd.
Roedd argymhelliad y dylai aelodau Cabinet y Cyngor Sir, fu’n cyfarfod ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 4), gefnogi cynnydd yn y premiwm ail gartrefi i 150% neu fwy, a chynnydd ar gyfer eiddo gwag i 50% am ddwy flynedd a 150% am dair blynedd neu fwy.
Pobol leol
Fodd bynnag, yn y cyfarfod, fe wnaeth y Cynghorydd Alec Cormack, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Gyllid Corfforaethol, gynnig premiwm o 200% ar gyfer ail gartrefi; 50% ar gyfer eiddo fu’n wag ers dros ddwy flynedd, yn cynyddu i 200% ar gyfer y rhai fu’n wag ers tair blynedd neu fwy.
Disgrifiodd e’r penderfyniad i alw am gyfradd uwch ar gyfer ail gartrefi’n “fwy anodd o lawer” na’r achos dros eiddo gwag, gyda nifer o’r fath berchnogion â chysylltiadau hirdymor â’r sir.
“Ond y cyfiawnhad y tu ôl iddo yw fod ail gartrefi’n lleihau nifer y cartrefi sydd ar gyfer teuluoedd Sir Benfro,” meddai.
Gan gyfeirio at Lanusyllt (Saundersfoot) fel enghraifft, dywedodd y Cynghorydd Alec Cormack fod rhai rhannau o’r sir sy’n boblogaidd ymhlith perchnogion ail gartrefi wedi gweld gostyngiad enfawr yn nifer y teuluoedd â phlant oed ysgol, gan ddweud bod canol y pentref wedi’i ddisgrifio fel “parth di-blant, bron”, gyda nifer y disgyblion yn yr ysgol wedi haneru o gymharu â degawd yn ôl.
Heb y cynnydd yn y dreth ail gartrefi, meddai wrth aelodau, mae disgwyl i filiau treth gyngor blynyddol trigolion llawn amser weld cynnydd “ymhell i mewn i ffigurau dwbwl, fwy na thebyg”, gan gyfeirio at gynnydd posib o 22% yn ddiweddarach, a hynny ar adeg o heriau ariannol digynsail.
‘Gelyniaethu’
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Weithrediadau Tai a Gwasanaethau Rheolaethol, nad yw’r cynnydd yn fater o “elyniaethu perchnogion ail gartrefi nac eiddo gwag”, ond mi gymharodd eu sefyllfa wrth wynebu biliau uwch gyda negeseuon “torcalonnus” gan bobol leol sy’n methu dod o hyd i rywle i fyw.
Cafodd pryderon eu codi gan y Cynghorydd Neil Prior, ddywedodd ei fod e’n ei “chael hi’n anodd” cefnogi’r cynnig ar gyfer premiwm ail gartrefi.
“Yr hyn sydd gennym ni yw sawl ymyrraeth polisi nad ydyn ni’n gwybod beth fydd eu heffaith gyda’i gilydd; ar hyn o bryd, dw i ddim yn credu y galla i gefnogi’r cynnig,” meddai.
Cafodd y cynnig ar gyfer ail gartrefi ei basio o saith pleidlais i un, gyda’r rhan am eiddo gwag wedi’i basio’n unfrydol.
Mae cefnogaeth y Cabinet ar ffurf argymhelliad i gyfarfod llawn y Cyngor ar Ragfyr 14, pan fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud.