Fe fydd Richard Lewis, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys yn destun rhaglen S4C heno (nos Fawrth, Rhagfyr 5), wrth iddo egluro’i uchelgais i ddileu trais yn y cartref yn ei ardal heddlu.

Gallai gymryd cenhedlaeth gyfan i wireddu’r uchelgais, meddai, ond mae’n teimlo ei fod yn brosiect sy’n werth dechrau arno ar unwaith.

Dros y ddeunaw mis diwethaf, mae’r gyfres dair rhan Y Prif wedi cael mynediad arbennig er mwyn dilyn y Prif Gwnstabl wrth ei waith.

Pan gafodd ei benodi i’r swydd yn 2021, ei her oedd trawsnewid perfformiad y llu sy’n gyfrifol am blismona dwy ran o dair o Gymru.

Ers hynny, mae wedi dod i’r amlwg fel ffigwr dadleuol sy’n barod i herio’r drefn wrth ymgymryd â’r her.

Prif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys, Dr Richard Lewis

Tasg amhosib?

Mae’r Prif Gwnstabl 48 oed wedi dod yn adnabyddus am osod targedau uchelgeisiol o fewn ei lu – yn eu mysg mae’r nod o waredu trais yn y cartref yn llwyr o ardal Dyfed-Powys.

Mae’n cyfaddef iddo wynebu amheuaeth a beirniadaeth o fewn ei lu ei hun ynglŷn â’r uchelgais heriol.

“Mae pobol yn dweud wrtha i bod hi’n dasg amhosib i gael gwared ar gam-drin domestig yn llwyr,” meddai.

“Pam wyt ti’n dweud hynny’? maen nhw’n gofyn. ‘Chi’n gwneud fy ngwaith i’n amhosib.’

“Dydyn nhw ddim yn meddwl bod e’n realistig, dydyn ni byth yn mynd i lwyddo i’w gyflawni e, mai pie in the sky yw e.”

Ond mae’n cydnabod fod yr ymdrech o gyflawni’r nod am gymryd amser.

“Efallai y bydd yn cymryd cenhedlaeth,” meddai.

“Mae’n brosiect fydd yn cymryd blynyddoedd, ac mae’n brosiect sy’n werth dechrau nawr, a ni yw’r llu cyntaf i ddweud yn gyhoeddus mai dyma yw ein nod.”

Hawlio’r penawdau

Yn ystod ei gyfnod yn arwain, mae’r Prif Gwnstabl wedi hawlio’r penawdau fwy nag unwaith yn sgil ei farn ddadleuol.

Ym mis Chwefror, bu’n gyfrifol am sbarduno ymateb chwyrn ar y wefan gymdeithasol Twitter (X erbyn hyn), wedi iddo drydar ei bod hi’n bryd gwahardd Delilah rhag cael ei chanu mewn gemau rygbi rhyngwladol yn Stadiwm Principality, oherwydd ei hanfodion misogynistaidd.

Cafodd y neges ei gweld gan 3.5m o bobol, gan sbarduno dros 10,000 o ymatebion.

“Dwi’n deall nad yw pawb yn mynd i gytuno, ond roedd rhai o’r ymatebion hynny dros ben llestri mewn gwirionedd,” meddai Richard Lewis.

Er gwaetha’r negeseuon negyddol dderbyniodd e ar-lein – a chael ei frandio’n “warth” gan rai – mae’n gadarn nad yw’n difaru postio’r neges honno.

“Mae’n hawdd iawn mewn swydd fel fy swydd i i guddio i ffwrdd mewn swyddfa, i beidio â siarad â neb, i ddweud dim byd,” meddai.

“Dw i mewn sefyllfa lle dw i’n gallu tynnu sylw at bwnc pwysig – trais yn y cartref.

“Os yw un person yn gweld y trydariad hwnnw yn cefnogi dioddefwyr cam-drin domestig, ac os yw un person o ganlyniad yn galw’r heddlu, yna mae’n werthchweil cael 10,000 o bobol yn gweiddi yn fy wyneb.”

Ym mhennod gyntaf y gyfres dair rhan, mae Dr Richard Lewis ar batrol i asesu’r heriau sy’n wynebu Heddlu Dyfed Powys cyn dechrau’r gwaith o drawsnewid y llu.

Yn yr ail bennod, cawn ddilyn ymdrechion y Prif Gwnstabl i daclo’r broblem gyffuriau, ac yn y bennod olaf mae’n dod wyneb yn wyneb â phroblemau plismona trais domestig.

  • Y Prif, nos Fawrth, Rhagfyr 5, 9 o’r gloch