Byddai codi ail ganolfan les yng Ngheredigion yn gyfle i adnabod problemau iechyd a lles cyn iddyn nhw godi, yn ôl cynghorydd sir.
Yn dilyn agoriad llwyddiannus Canolfan Lles Llanbedr Pont Steffan – y gyntaf o’i math yn y sir – yn gynharach eleni, mae’r Cyngor Sir yn awyddus i glywed barn trigolion am y posibilrwydd o agor ail ganolfan, gan rannu eu barn ynghylch pa wasanaethau a gweithgareddau hoffen nhw eu gweld yn cael eu cynnig yn Aberteifi.
Mae cyfle i drigolion ddweud eu dweud ar-lein tan Ragfyr 31, ac mae modd cwlbhau’r arolwg ar-lein, tra bod copïau papur ar gael yng Nghanolfan Hamdden Teifi, llyfrgell y sir yn Aberteifi, Canolfan Gofal Integredig Aberteifi, a Llyfrgell Llandysul.
Ar gyfer fformatau eraill, cysylltwch â Gwasanaethau i Gwsmeriaid Clic ar 01545 570 881 neu clic@ceredigion.gov.uk.
Bydd cyfle hefyd i drafod mewn grwpiau ffocws.
Mae’r astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal gan Alliance Leisure ar ran y Cyngor, ac yn cael ei hariannu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru drwy Raglen y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac fel rhan o Raglen Gyfalaf ehangach Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru.
‘Mynd at wraidd y broblem’
Mae Catrin M S Davies, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid gyda Chyngor Sir Ceredigion, yn teimlo bod mynd at wraidd y broblem yn bwysig.
“Efallai bod modd adnabod problemau cyn bod nhw’n dod, a rhoi help llaw,” meddai wrth golwg360.
“Prevention is better than cure, fel mae’r Sais yn ei ddweud.
“Y peth arall sy’n bwysig wrth ddarparu’r canolfannau lles yma yw fod pobol yn gallu cael help yn gynnar yn y broses cyn bo ti’n mynd i’r sefyllfa lle rwyt ti mewn peryg o gael trawiad oherwydd gorbwysau neu rywbeth.
“Efallai bod modd gwneud y llefydd yma’n ddeniadol i ti ymarfer a hoffi ymarfer corff, neu ddod i sesiynau bwyta’n iach a phob math o bethau.
“Er enghraifft, mae Llanbed yn rhedeg sesiynau ar y menopôs, maen nhw’n rhedeg sesiynau ar gyflyrau fel Alzheimer.
“Efallai bod modd adnabod problemau cyn bo nhw’n dod, a rhoi help llaw.
“Hefyd, i bobol ddod at ei gilydd a chwrdd â phobol eraill sydd yn yr un sefyllfa, fel bo nhw’n gallu helpu ei gilydd – ymyrraeth gynnar ac ymyrraeth agos at y gymuned yn hytrach na phell i ffwrdd.”
Blaenoriaeth fel awdurdod lleol
Yn ôl Catrin M S Davies, mae gwella iechyd a lles trigolion yn flaenoriaeth i’r awdurdod lleol.
Mae hyn ar lefel gorfforol, emosiynol a meddyliol, ac mae canolfannau lles yn gallu edrych ar y person cyfan mewn sawl ffordd.
“Bydd y Canolfannau Lles yn chwarae rhan sylweddol wrth gyflawni ein Hamcanion Llesiant, drwy alluogi trigolion i gael mynediad at wasanaethau sy’n gwella eu lles corfforol, emosiynol a meddyliol,” meddai.
“Mae’n rhan o strategaeth gorfforaethol y sir i edrych ar lesiant ac addysg a phethau felly yn y darlun mawr os wyt ti’n edrych ar y person cyfan.
“Mae’r canolfannau lles yn dod mewn i’r rheini.
“Maen nhw’n fwy na beth fyddai’r hen ganolfan hamdden ers talwm, ble byddet ti efallai yn mynd i wneud gwaith corfforol.
“Efallai byddai e’n apelio at bobol sydd eisiau gwneud ymarfer corff.
“Mae’r canolfannau lles yn cynnig llawer mwy na’r elfen hamdden – maen nhw’n cynnig sesiynau hamdden er mwyn pobol sydd wedi cael trawiad ar y galon, pobol sy’n cael ei anfon yna gan feddygon.
“Mae hyd yn oed yr elfen hamdden o’r lle wedi trawsnewid, gyda phobol yn dod am ddeuddeg wythnos i wneud sesiynau ymarfer corff ysgafn i ddod dros drawiad neu helpu gydag adfer o strôc.
“Mae llawer o waith fel yna yn mynd ymlaen yn Llanbed.
“Er enghraifft, mae yna gegin yna ti’n gallu’i llogi, neu mae staff yn gallu ei defnyddio i ddysgu sesiynau coginio.
“Rydym yn gwybod fod yna lawer iawn o bobol sydd ddim yn gwybod sut i goginio unrhyw fath o fwyd, ond yn sicr bwyd rhad.
“Os galli di goginio dy hunan, mae’n rhatach na phrynu bwyd sydd wedi ei goginio yn barod.
“Mae yna sgôp i fynd ar draws bywyd person, i helpu mewn nifer o ffyrdd gwahanol, nid jest bod gyda nhw le i wneud pêl-droed neu wneud circuits neu chwarae sboncen…
“Mae’n rhan o’r strategaeth o edrych ar y person cyfan, a thrio edrych ar bob un o ofynion edrych ar ôl person.”
Syniadau
Bydd yr arolwg yn hollbwysig o ran cael barn a syniadau newydd gan drigolion y sir.
“Mae’r hyn sydd ei angen ar bobol yn wahanol ar draws y sir, felly mae’n bwysig bod pob Canolfan Lles wedi’i chynllunio i ddiwallu’r anghenion lleol hynny,” meddai Catrin M S Davies wedyn.
“Mae cysylltu â thrigolion y sir a chlywed beth maen nhw am ei gael o’r gwasanaeth yn rhan bwysig o’r broses ddatblygu, a byddwn yn annog cymaint o bobol â phosibl i gwblhau’r arolwg.
“Rydym wastad eisiau clywed beth sydd gan drigolion i’w ddweud.
“Mae dwy ffordd – ti eisiau clywed eu hymateb i’r syniadau sydd gyda ni, os ydyn nhw’n meddwl bod nhw’n syniadau da neu ddrwg.
“Hefyd mae’n bosib fod gan bobol syniadau, ac maen nhw’n gallu gwella beth rydym yn ei gynnig neu ein syniadau ni.
“Does dim y fath beth â syniad gwael neu gwestiwn twp.
“Yn aml, mae pethau’n codi nad wyt ti ddim wedi meddwl amdano fe.
“Pan wyt ti’n datblygu strategaeth neu ddatblygu syniad, rwyt ti’n gallu mynd i lawr twnnel y syniad yna.
“Os wyt ti’n clywed gan bobol eraill, mae’n agor y peth lan eto.
“Mae pobol yn gallu dweud pethau sy’n gwneud i ni feddwl o’r newydd, a dod ag elfen ffres mewn iddo fe.”