Mae’r nifer sy’n dysgu Cymraeg ar ap Duolingo wedi cyrraedd tair miliwn am y tro cyntaf, yn ôl ystadegau newydd.

Cynyddodd nifer y dysgwyr gan 38% dros 2023, o gymharu â chynnydd o 26% yn 2022.

Daw’r ystadegau hyn wedi i’r cwmni gadarnhau eu bod nhw’n cymryd saib o ddiweddaru’r cwrs Cymraeg – penderfyniad sydd wedi cael ei ddisgrifio fel un “rhwystredig”.

Mae nifer o wleidyddion wedi rhannu eu pryder ynghylch y penderfyniad, ond mae Duolingo yn dweud eu bod nhw wedi cynnal trafodaethau gyda Jeremy Miles, Gweindiog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, a Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn.

Canfyddiadau

Mae’r adroddiad, sy’n cael ei gyhoeddi bob mis Rhagfyr, yn ddadansoddiad o dueddiadau ac agweddau tuag at ieithoedd yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang, ymhlith 84m o ddysgwyr ieithoedd Duolingo.

Gwelodd y platfform addysg dwf o 63% yn nifer y dysgwyr dyddiol yn 2023, gyda nifer y gwersi gafodd eu cwblhau bellach wedi cynyddu i fwy na 23bn.

Mae biliwn a hanner o oriau bellach yn cael eu treulio yn dysgu ar yr ap am ddim.

Cynyddodd nifer y dysgwyr amlieithog hefyd, gyda thros 32m o bobol bellach yn dysgu mwy nag un iaith.

Y deg iaith fwyaf poblogaidd eleni oedd Saesneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Almaeneg, Japaneg, Coreeg, Eidaleg, Hindi, Tsieinëeg a Phortiwgaleg.

Cymerodd Coreeg le’r Eidaleg yn y chweched safle, ac ymunodd Portiwgaleg â’r deg iaith fwyaf poblogaidd, gan gymryd lle Rwsieg.

Arhosodd dysgu Wcreineg yn gyson trwy gydol y rhan fwyaf o 2023, a’r gwledydd â’r nifer fwyaf o ddysgwyr Wcreineg oedd yr Unol Daleithau, y Deyrnas Unedig, Gwlad Pwyl, Rwsia ac Wcráin.

Cyrhaeddodd Gaeleg yr Alban 1.8m eleni, a hynny bedair blynedd ers lansio’r cwrs.

Am y tro cyntaf yn hanes yr ap, nid y Swedeg yw’r iaith fwyaf poblogaidd ymysg dysgwyr yn Sweden, wrth i’r Sbaeneg gymryd ei lle.

‘Gwych gweld diddordeb cynyddol’

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi’i phlesio gyda’r newyddion am y Gymraeg.

“Mae wedi bod yn wych gweld y diddordeb cynyddol gan bobol sydd eisiau dysgu Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf drwy gyfrwng Duolingo a ffynonellau eraill,” meddai wrth golwg360.

“Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn dysgu’r iaith, mae cyfleoedd niferus ar gael yng Nghymru yn y gwaith neu’n gymdeithasol.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu Cymraeg i gael golwg ar yr amrywiaeth gaiff ei chynnig gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.”

A “Duolingo yw’r cyflwyniad perffaith i unrhyw un sydd eisiau dysgu iaith,” yn ôl Rebeca Ricoy, arweinydd Duolingo yn Ewrop.

“Mae Duolingo yn hollol rhad ac am ddim, felly does dim byd yn stopio unrhyw un rhag rhoi cynnig arni – hen neu’n ifanc,” meddai.

“Mae iaith yn bont rhwng diwylliannau.”

Saib i ddiweddaru’r cwrs

Yn gynharach eleni, cafodd penderfyniad yr ap dysgu ieithoedd Duolingo i roi’r gorau i ddiweddaru’r cwrs Cymraeg ei ddisgrifio fel un “rhwystredig”.

Fodd bynnag, dywed Duolingo y bydd y cwrs Cymraeg yn parhau i fod ar gael ar yr ap, a’i fod eisoes yn un o’r cyrsiau “mwyaf cynhwysfawr” maen nhw’n ei gynnig.

“Bydd y Gymraeg, sydd eisoes yn un o’n cyrsiau mwyaf cynhwysfawr, yn parhau’n rhad ac am ddim i bawb, ac yn parhau i fod yn gyfle i bobol sydd eisiau dechrau dysgu Cymraeg a’r rhai sy’n ceisio gwella eu sgiliau,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.

“Rhwystredig” bod Duolingo yn rhoi’r gorau i ddiweddaru eu cwrs Cymraeg

Y Gymraeg yw un o’r cyrsiau “mwyaf cynhwysfawr” ar yr ap, yn ôl Duolingo