Mae Aelod o’r Senedd Ieuenctid sydd wedi bod yn Nhŷ’r Cyffredin yn ddiweddar yn dweud ei bod hi’n “bwysig iawn i bobol ifanc allu rhannu eu llais”.

Cafodd Cyfarfod Blynyddol Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig ei gynnal yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Gwener, Tachwedd 17, ac fe fu Olivia Smolicz yno’n cynrychioli Sir Gaerfyrddin.

Roedd hi’n falch o gael cynrychioli ei sir yn Llundain, meddai, ar ôl ymuno â thros 200 o Aelodau eraill y Senedd Ieuenctid o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Roedd y Senedd Ieuenctid, sy’n cynnwys pobol ifanc 11-18 oed, wedi defnyddio’r cyfarfod blynyddol i drafod y materion y dylai’r Senedd Ieuenctid roi blaenoriaeth iddyn nhw yn 2024.

Mae Olivia Smolicz, sy’n 17 oed ac yn dod o’r Hendy, wedi bod yn aelod o’r Cyngor Ieuenctid ers pum mlynedd.

Ar ôl clywed amlinelliad o’r dadleuon o blaid ac yn erbyn pob pwnc, cafodd y ddadl ei hagor i’r llawr, a llwyddodd Olivia Smolicz i gyfrannu a lleisio’i barn ar ran Sir Gaerfyrddin cyn defnyddio ei phleidlais i benderfynu pa fater fyddai’n dod yn ymgyrch genedlaethol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Cafodd y cyfarfod ei gadeirio eleni gan Syr Lindsay Hoyle, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, ar y cyd â’r Dirprwy Lefarydd, y Fonesig Rosie Winterton, ac roedd Penny Mordaunt, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin hefyd yn bresennol.

‘Profiad rhagorol’

“Gwnes i fwynhau bod yn Nhŷ’r Cyffredin yn fawr iawn, roedd yn brofiad rhagorol,” meddai wrth golwg360.

“Yn fwy na dim, mi wnes i fwynhau gwrando ar farn pawb a pha mor wahanol oedd barn pawb am y gwahanol bynciau.

“Roedd gallu clywed safbwyntiau pawb yn anhygoel, oherwydd mae wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o’r hyn sy’n digwydd yn y byd.

“Rwy’ mor ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle hwn..”

Prydau ysgol am ddim

Yn dilyn y bleidlais, bydd Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig yn canolbwyntio ar gyllid ac ariannu prydau ysgol am ddim ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae Olivia Smolicz yn croesawu’r penderfyniad hwn.

“Rwy’n meddwl mai’r mater pwysicaf ar hyn o bryd yw’r argyfwng arian,” meddai.

“Dydy ysgolion ddim yn cael digon o arian, ac mae teuluoedd yn cael trafferth.

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod ysgolion yn cael yr arian ychwanegol tuag at brydau ysgol, gan y bydd o fudd i blant a phobol ifanc allu mwynhau’r ysgol, ac o bosib hyd yn oed well mynediad at brydau iach.”

Mentro i’r byd gwleidyddol

Mae’r gwaith mae Olivia Smolicz wedi’i wneud hyd yn hyn wedi ei hysbrydoli i fynd i mewn i’r byd gwleidyddol, ac mae hi’n credu bod clywed llais pobol ifanc yn hynod bwysig.

“Mae ymwneud hyd yn hyn wedi fy ysbrydoli i fynd i fyd gwleidyddiaeth,” meddai.

“Rwyf wedi bod yn meddwl am y peth, ac mae’n rywbeth yr hoffwn ei wneud.

“Rwy’n mwynhau rhoi gwybod i bobol beth yw fy meddyliau a fy marn am y sefyllfaoedd sy’n digwydd yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ac rwy’n mwynhau gwrando ar feddyliau a barn pobol eraill hefyd, a cheisio datrys problemau.

“Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn i bobol ifanc allu rhannu eu llais.

“Er ein bod yn ifanc, mae gennym wybodaeth eithaf eang o hyd o’r hyn sy’n digwydd yn y maes.”