Mae Gofal Canser Tenovus wedi derbyn cymeradwyaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg ar gyfer eu Cynnig Cymraeg.

Mae’r Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg i sefydliadau sydd â chynllun cryf ar gyfer y Gymraeg, ac mae Tenovus wedi bod yn gweithio ar eu Cynllun Cymraeg nhw dros y flwyddyn ddiwethaf.

Creodd yr elusen weithgor iaith Gymraeg, o’r enw Grŵp Cymraeg, gyda chynrychiolaeth o bob adran i helpu i gyflawni hyn.

Yn ôl Catrin Hallett, cadeirydd Grŵp Cymraeg yr elusen, maen nhw’n “ystyried y Gymraeg a’r Saesneg yr un mor bwysig â’i gilydd, ac yn ymdrechu i wneud cynnydd cyson” tuag at wella’u gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg.

“Mae’r Cynnig Cymraeg wedi ein helpu i wella, ffurfioli a safoni ein cynnig ar draws yr elusen,” meddai.

“Rydym yn ddiolchgar i’r tîm Hybu sydd wedi bod yno i gefnogi ac annog bob cam o’r ffordd.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth i’r bobol rydyn ni’n eu cefnogi a’r rhai sy’n ein cefnogi ni.”

Cwnsela

Un o’r gwasanaethau Cymraeg mae Tenovus yn eu cynnig yw’r gwasanaeth cwnsela.

Mae’r gwasanaeth arbenigol yn darparu lle diogel a chyfrinachol i unigolion siarad am effaith canser, a beth bynnag arall sydd bwysicaf iddyn nhw.

Ers lansio’r gwasanaeth y llynedd, mae 24 o gleientiaid wedi derbyn cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae llawer o’n cleientiaid iaith Gymraeg yn cael gwybod am eu diagnosis yn Saesneg ac yn mynychu apwyntiadau yn Saesneg,” meddai Lisa Channon, cynghorydd Gofal Canser Tenovus.

“Mae’r ffaith ein bod ni fel gwasanaeth yn gallu cynnig y cyfle i unigolion siarad am deimladau preifat a phersonol iawn am effaith canser yn eu hiaith gyntaf yn gwella’r diogelwch emosiynol y gall Cwnsela ei ddarparu, ynghyd â hyrwyddo unigoliaeth a dewis.”


Dyma ‘Gynnig Cymraeg’ Gofal Canser Tenovus:

  • Mae gwasanaethau, fel y Llinell Gymorth a gwasanaethau Cwnsela, ar gael yn Gymraeg.
  • Mae gwybodaeth am eu gwasanethau cymorth, gan gynnwys taflenni gwybodaeth a phecynnau croeso, ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae deunyddiau eraill, fel deunydd codi arian ac ymgyrchoedd, ar gael yn ddwyieithog lle bo’n bosib.
  • Rydym yn croesawu cyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg. Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael drwy ein Llinell Gymorth, byddwn ni’n trefnu bod rhywun yn eich ffonio yn ôl cyn gynted â phosib.
  • Os ydych yn ysgrifennu atom yn Gymraeg, byddwn ni’n ymateb yn Gymraeg.
  • Mae’r tudalennau allweddol ar eu gwefan ar gael yn ddwyieithog, gan gynnwys gwybodaeth am ganser, gwasanaethau, a sut i gysylltu. Mae’r ieithoedd yn ymddangos ar wahân, ac mae modd i’r defnyddiwr symud o un iaith i’r llall ar unrhyw adeg trwy ddefnyddio botwm iaith amlwg, ar frig y dudalen.
  • Maen nhw’n falch fod ganddyn nhw nifer o staff sy’n siarad Cymraeg, ac yn eu hannog nhw i amlygu eu sgiliau i’r cyhoedd gydag adnoddau Iaith Gwaith gan gynnwys bathodynnau, cortynnau gwddf, cardiau busnes.
  • Mae gan Tenovus siaradwyr Cymraeg ar gyfer cyfweliadau’r wasg a chyfryngau.