Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Glenys Kinnock, cyn-Weinidog Llafur a gwraig Neil Kinnock, cyn-arweinydd y Blaid Lafur, fu farw dros y penwythnos yn 79 oed.

Rhannodd ei theulu’r newyddion brynhawn ddydd Sul (Rhagfyr 3), gan ganmol ei gwaith gwleidyddol.

Dywed ei theulu ei bod wedi marw’n dawel yn ei chwsg yn ystod oriau mân fore Sul yn ei chartref yn Llundain, ar ôl bod yn byw â chyflwr Alzheimer ers 2017.

Bu’n Aelod o Senedd Ewrop am bymtheg mlynedd, gan gynrychioli Cymru rhwng 1994 a 2009, pan wnaeth Gordon Brown, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar y pryd, ei phenodi’n Weinidog Ewrop, oedd wedi rhoi sedd am oes iddi yn Nhŷ’r Arglwyddi a’r hawl i ymuno â’r Llywodraeth.

Dywed ei theulu ei bod yn “sosialydd democrataidd balch” ac yn “ymgynghorydd dros gyfiawnder ac yn erbyn tlodi ar hyd ei hoes”.

Hanes

Cafodd Glenys Kinnock ei geni yn Swydd Northampton yn 1944, ond cafodd ei haddysg yng Nghaergybi yn Sir Fôn.

Graddiodd hi mewn Addysg a Hanes ym Mhrifsygol Caerdydd yn 1965, ac aeth yn ei blaen i weithio fel athrawes yn y brifddinas.

Fe wnaeth hi gyfarfod â’i gŵr, Neil Kinnock, yn y brifysgol a phriododd y pâr yn 1967.

A hithau’n Aelod o Senedd Ewrop, roedd hi hefyd yn aelod o’r grŵp gwleidyddol Plaid Sosialwyr Ewrop (PES).

Roedd hi’n Aelod o Bwyllgor Datblygu a Chydweithrediad Senedd Ewrop, ac yn ddirprwy aelod o’r Pwyllgor ar Ryddid a Hawliau Dinasyddion, Cyfiawnder a Materion Cartref.

Roedd hi’n gyd-lywydd Cynulliad Seneddol ar y Cyd Affrica, Caribïaidd a’r Môr Tawel-Undeb Ewropeaidd rhwng 2002 a 2009, ac yn llefarydd Llafur ar Ddatblygu Rhyngwladol yn Senedd Ewrop.

‘Dynes ysbrydoledig iawn’

Un gafodd ei dylanwadu’n fawr gan Glenys Kinnock a’i gyrfa yw Rhianon Passmore, yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Islwyn, sef hen etholaeth San Steffan Neil Kinnock.

“Roedd Glenys a Neil yn ysbrydoliaeth anferth i mi pan ddechreuais ddod yn ymwybodol o wleidyddiaeth,” meddai wrth golwg360.

“Ro’n i’n ddeuddeg pan es i i Greenham Common am y tro cyntaf, ac roeddwn i’n mynd gyda fy mam.

“A dyna pryd wnes i glywed Glenys yn siarad, cyn i mi glywed Neil.

“Roedd hi’n hollol ffantastig.

“Roedd hi’n siaradwr gwych, ac efallai nad ydy pobol yn deall fod Glenys yr un mor dda â Neil yn ei hawl hi hun.

“I fi, fel merch ifanc, roedd gweld dynes gref yn sefyll yno ar y podiwm yn annerch y dorf ac ysgogi’r bobol yno, yn ffantastig.

“Wnaeth e fy ngyrru i ymlaen i geisio ffeindio allan mwy yn nhermau gwleidyddiaeth a beth oedd fy ngwerthoedd gwleidyddol.

“O’r adeg yna ymlaen, wnes i ddilyn Glenys a Neil i bob man.

“Roedd e’n gyfnod ffantastig yn yr 1980au a’r 1990au, ac roedd hi’n ddynes ysbrydoledig iawn.

“Roedd ei gweld hi yn siarad am ei gwerthoedd sosialaidd – pan mai ychydig iawn o ferched oedd mewn gwleidyddiaeth heblaw am Margaret Thatcher – yn gyfnod ysbrydoledig iawn yng ngwleidyddiaeth.”

‘Arloeswr’

Mae nifer o wleidyddion eraill o Gymru wedi bod yn talu teyrnged i Glenys Kinnock, gan gynnwys y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, sy’n dweud ei bod hi wedi “gadael marc anghredadwy” ar ei bywyd.

“Roedd Glenys yn fwy na chydweithiwr; roedd hi’n ffrind annwyl, cymar ac yn fentor wnaeth fy arwain trwy’r byd cymhleth o wleidyddiaeth Ewropeaidd,” meddai.

“Roedd ei hymrwymiad diwyro i gyfiawnder cymdeithasol, ei chred ddiwyro ym mhŵer addysg a’i hangerdd diwyro dros rymuso menywod a phlant yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom.

“Roedd ei chyfraniadau i Senedd Ewrop yn aruthrol, yn amrywio o hyrwyddo hawliau menywod i eiriol dros ddatblygiad economaidd yn Affrica.

“Roedd Glenys yn arloeswr, yn fenyw o sylwedd, uniondeb, a llonyddwch rhyfeddol a bydd fy atgofion ohoni yn cael eu hedmygu gan edmygedd dwfn am byth.

“Cwsg mewn hedd fy ffrind annwyl.”

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford hefyd wedi talu teyrnged iddi.

“Treuliodd Glenys Kinnock oes mewn gwasanaeth i’n gwlad a’n plaid,” meddai.

“Ffurfiodd ddeuawd aruthrol gyda Neil, ond roedd yn rym llwyr yn ei hun.

“Cafodd ymrwymiad oes Glenys i’r Blaid Lafur ei ddylanwadu gan iddi gael ei magu mewn cymuned Gymraeg ym Môn.

“Mae fy meddyliau gyda Stephen, Rachel, Neil a’r teulu Kinnock cyfan heddiw.”