Mae’n bwysig cynnal adolygiad o lyfrgelloedd “er mwyn cyrraedd gofynion pobol leol”, yn ôl un o gynghorwyr Conwy.
Daw sylwadau Aaron Wynne ar ôl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fod yn holi barn defnyddwyr am eu gwasanaethau, er mwyn llunio strategaeth ar gyfer llyfrgelloedd.
Mae’r Cyngor yn gofyn i ddefnyddwyr lenwi holiadur er mwyn holi eu barn am lyfrgelleodd y sir, dysgu mwy am sut maen nhw’n cael eu defnyddio, ac er mwyn gallu cynllunio at y dyfodol.
Mae dau holiadur – un ar gyfer oedolion ac un arall ar gyfer plant a phobol ifanc – ym mhob un o ddeg llyfrgell y sir, ac yn y llyfrgell deithiol hefyd.
Mae’n rhaid mynd i lyfrgell i lenwi’r holiadur gan nad ydy o ar gael ar-lein.
Cynllun strategol
Mae Aaron Wynne, cynghorydd ward Llanrwst a Llanddoged ar Gyngor Conwy, yn teimlo ei bod hi’n bwysig fod unigolion yn lleisio’u barn yn y cymunedau lle mae’r llyfrgelloedd er mwyn cyfrannu at y cynllun strategol.
“Mae cael barn defnyddwyr y llyfrgell yn bwysig oherwydd byddwn ni’n llunio ein cynllun strategol llyfrgelloedd Conwy dros y misoedd nesaf yma,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n gwybod sut mae trigolion y sir eisiau cael mynediad i’w llyfrgelloedd, a beth maen nhw’n disgwyl cael allan o’u llyfrgell leol.
“Mae gennym ddeg llyfrgell yn y sir, felly mae gennym bron iawn un ym mhob cymuned.
“Mae’n bwysig bod pobol yn cael cyfle i leisio eu barn a’n bod ni’n medru llunio ein gwasanaeth ni o’u cwmpas nhw.
“Does gennym ni ddim cynlluniau ar hyn o bryd, ond mae’r ymgynghoriad yma’n ein helpu ni i lunio strategaeth llyfrgelloedd y sir, ond hefyd mae’n un o’r gofynion Safonau Llyfrgelloedd Cymru.
“Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i ni wneud; mae’n rhaid i ni ei wneud, mae’n ofynnol cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma.
“Mae hefyd yn ein helpu ni i lunio’r gwasanaeth yn fewnol, i wneud yn siŵr bod ni’n cyrraedd gofynion pobol leol.
“Does gennym ddim cynllun yng nghefn ein meddwl yn barod, rydym jest yn disgwyl barn y bobol a beth maen nhw’n disgwyl yn eu llyfrgell leol.
“Byddwn yn annog rhywun sy’n defnyddio’r llyfrgell yn rheolaidd eu bod nhw’n mynd mewn a gofyn i’r llyfrgellydd am gopi o’r ymgynghoriad, a’u bod nhw’n cymryd rhan a gwneud hynny cyn diwedd y flwyddyn a chyn bod cynghorwyr yn cael cyfle i’w drafod yn y flwyddyn newydd.”
Gwasanaethau i bobol o bob oed
Gan fod pobol o bob oed yn defnyddio’r llyfrgelloedd, dywed Aaron Wynne ei bod hi’n bwysig cael barn trawstoriad o oedrannau.
“Mae gwahanol grwpiau o bobol yn defnyddio’r llyfrgelloedd, ac mae’n wych gweld bod gymaint o bobol ifanc yn defnyddio’r llyfrgelloedd hefyd,” meddai.
“Wrth gwrs, mae gwahanol grwpiau o bobol yn defnyddio’r llyfrgelloedd mewn gwahanol ffyrdd, ac eto mae grwpiau gwahanol o bobol yn disgwyl gwahanol bethau o’r llyfrgell.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n cael amrediad barn pobol y sir, ein bod ni’n cael barn pobol ifanc, barn pobol oedran gweithio, a chael barn pobol hŷn ac oedran ymddeol hefyd.
“Byswn yn annog unrhyw un sy’n defnyddio’r llyfrgell yn aml, pa bynnag oed, i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a lleisio’u barn.”