Mae pentrefwyr yn dweud bod ‘coblynnod Nadoligaidd’ wedi gosod arwyddion 30m.y.a. dros nos yn barod at fis Rhagfyr, er mwyn annog gyrwyr i beidio â goryrru drwy bentref yng Nghonwy.

Tra mai’r terfyn cyflymder ar ffordd A5 drwy Lasfryn yw 60m.y.a. o hyd, dywed trigolion y byddan nhw’n addurno coeden Nadolig y pentref gydag arwyddion 30m.y.a. wrth i’r goleuadau ddod ymlaen heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 4).

Mae pentrefwyr yn grac fod Llywodraeth Cymru wedi gosod arwyddion 60m.y.a. ar ddwy ochr pentref Glasfryn ddeunaw mis yn ôl, yn atgoffa gyrwyr fod rhwydd hynt iddyn nhw deithio hyd at y terfyn cyflymder cenedlaethol.

Poeni am golli bywydau

Mae trigolion yn poeni y bydd rhywun yn cael eu lladd ar y ffordd yno yn y pen draw.

Dywed y Cynghorydd Gwennol Ellis ei bod hi’n poeni y gallai cerbyd sy’n goryrru daro’r bws ysgol sy’n cludo plant i Ysgol Cerrigydrudion.

Dywed fod pentrefwyr wedi cyflwyno ymgyrch i Lywodraeth Cymru heb lwyddiant.

“Mae rhai arwyddion 30m.y.a. wedi ymddangos dros nos, efallai mai’r coblynnod Nadoligaidd wnaeth,” meddai.

“Mae’r arwyddion yng nghaeau ffermwyr, felly fedran nhw ddim gwneud unrhyw beth amdano fo, na fedran?

“Mi wnaeth Llywodraeth Cymru osod arwyddion terfyn cyflymder cenedlaethol ddeunaw mis yn ôl naill ochr a’r llall i’r pentref, gan annog pobol i yrru ar 60m.y.a.

“Mi wnaethon nhw ymddangos yn sydyn iawn.

“Ond mae gennym ni lawer o deuluoedd yn byw yn y pentref, yn byw reit ar ymyl y ffordd, felly mae’r bws ysgol yn codi [plant] ar yr A5, a dw i’n ofni y bydd rhywun yn gyrru i mewn i gefn hwnnw ryw ddiwrnod.

“Ond mae’n rhaid i ni fod yn ofalus nad ydyn ni’n codi ofn ar y plant oherwydd, ar ddiwedd y dydd, eu cartref nhw ydy o.

“Ond maen nhw’n poeni am eu bywydau.

“60m.y.a. ydy’r terfyn cyflymder, ond bydd rhai pobol yn gyrru ar 70m.y.a. drwy’r pentref reit heibio i dai pobol.

“Pam fod angen i Lywodraeth Cymru godi’r arwyddion terfyn cyflymder cenedlaethol hyn?

“Dydy o ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl.”

‘Brawychus iawn’

“Mi wnaethon ni ddeffro a hithau’n Rhagfyr 1, ac rydyn ni’n credu bod cynorthwywyr Siôn Corn neu goblynnod Nadoligaidd wedi addurno’r pentref ac wedi codi arwyddion terfyn cyflymder 30m.y.a.,” meddai Euan Robertson, un o drigolion y pentref.

“Mae un arwydd ar das wair, ac mae gennym ni goeden Nadolig yn y pentref a bydd y goleuadau’n dod ymlaen nos Lun. Mae’r addurniadau wedi’u gwneud ar ffurf arwyddion 30m.y.a.

“Mae niferoedd cynyddol o blant yn y pentref.

“Mae maes chwarae’r pentref ar yr A5 hefyd.

“Rydyn ni’n gweld bod ceir yn goddiweddyd yn y pentref, mae ceir yn teithio dros 60m.y.a. mewn ardal sydd, yn ei hanfod, yn ardal breswyl.

“Mae’n frawychus iawn.

“Dw i’n cerdded fy nghŵn ar hyd yr A5 bob bore, ac mae’r traffig yn gwibio heibio, yn aml iawn yn y tywyllwch ac mewn tywydd gwlyb, felly mae’n rhaid i mi wisgo dillad gweladwy iawn a thorch am fy mhen.

“Mae gan y cŵn oleuadau arnyn nhw rŵan, hyd yn oed, i wneud gyrwyr yn ymwybodol.

“Mae gennym ni lorïau yn teithio drwy’r pentref ar gyflymder uchel hefyd, all fod yn frawychus iawn.”

Mae Angharad Roberts yn fam i dri o blant sy’n bump, saith a deg oed, ac mae hi wedi byw yn y pentref ers wyth mlynedd.

“Mae’n ffordd beryglus oherwydd y terfyn cyflymder,” meddai.

“Mae llawer o blant yn byw yn y pentref.

“Mae’n rhaid i ni gerdded dros y ffordd i fynd i’n ceir neu i fynd i’r parc.

“Dydy pobol ddim yn arafu wrth weld plant yn cerdded, ond pan fydd lorïau’n pasio ar gyflymder uchel, mae’r gwynt yn codi o’r lori wrth iddyn nhw basio, ac mae’n ddigon cryf i fynd â phlentyn i mewn i ganol y ffordd.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Ar hyn o bryd, rydym yn diweddaru’r canllawiau ar gyfer terfynau cyflymder lleol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Yn ystod y cyfnod hwn, mae adolygiadau o derfynau cyflymder wedi cael eu gohirio.

“Unwaith fydd y canllaw newydd ar gael, byddwn ni’n adolygu terfynau cyflymder ar draws y rhwydwaith ffyrdd.”