Cafodd tri digwyddiad eu cynnal yn Aberteifi i gefnogi Palesteina dros y penwythnos.

Un nod ar y diwrnod oedd annog pobol i gynnal boicot a chadw draw oddi wrth gynnyrch o Israel sy’n cael ei werthu yn archfarchnad Tesco yn y dref.

Yn ôl y protestwyr, mae Tesco yn gwerth afocado, dêts a Sabra Hummus o’r wlad, ac maen nhw’n dweud bod y cyfan yn gynnyrch o Balesteina sydd wedi’i ddwyn oddi arnyn nhw gan Israel.

Dyma gip ar y digwyddiadau gafodd eu cynnal (Lluniau: Jill Gough).