Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n galw ar y sector cyhoeddus i ddod ynghyd i greu dyfodol natur bositif fel rhan o weledigaeth ‘Natur a Ni’ ar gyfer Cymru yn 2050.

Daw’r alwad wrth i arweinwyr gwleidyddol ddod ynghyd ar gyfer cynhadledd COP28.

Mewn llythyr agored, mae Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi annog sefydliadau’r sector cyhoeddus i gydweithio, ymateb ac ymrwymo i weithredu ar y weledigaeth gyffredin hon ar gyfer y dyfodol.

Y weledigaeth

Mae gweledigaeth ‘Natur a Ni’ yn nodi her ysbrydoledig i ddod o hyd i atebion i argyfwng natur a’r hinsawdd.

Cafodd ei chreu gan gynulliad dinasyddion yn cynnwys lleisiau miloedd o bobol ledled Cymru oedd wedi rhannu’r math o ddyfodol maen nhw am ei weld ar gyfer ein hamgylchedd naturiol.

Mae’r weledigaeth yn disgrifio Cymru yn y dyfodol, lle mae byd natur a chymdeithas yn ffynnu gyda’n gilydd ar sail ymrwymiad ar y cyd i ddiogelu ac adfer byd natur.

Mae’n gweld mynediad mwy cyfartal i fannau gwyrdd, seilwaith gwyrddach a chysylltiadau cryfach â’n hardal leol ac o ble daw ein bwyd.

Mae hefyd yn nodi camau allweddol y gall y llywodraeth a’r sector cyhoeddus ehangach eu cymryd i alluogi pobol i chwarae rhan fwy wrth greu’r dyfodol hwn.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • dangos arweiniad
  • cynnwys pobol yn fwy wrth wneud penderfyniadau
  • rhannu gwybodaeth yn well i hysbysu a grymuso pobol i weithredu.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, oedd wedi cefnogi menter ‘Natur a Ni’ arweiniodd at y weledigaeth, bellach wedi cyhoeddi eu hymrwymiad i wireddu’r weledigaeth hon yn y llythyr agored.

Mae’r llythyr yn nodi sut y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio ac yn rhannu eu tystiolaeth, yn gofalu am y tir sy’n eiddo iddo, ac yn cynnwys pobol i gyflymu camau gweithredu dros fyd natur.

Maen nhw hefyd yn dweud bod yn rhaid gwneud ymdrech ar y cyd i gyflawni’r nodau hyn ac y dylai ein cynlluniau busnes ar y cyd roi gwell ystyriaeth i fyd natur.

‘Llawer i’w ddathlu, ond angen mynd cam ymhellach’

“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod her iddo’i hun o ran a ydym yn mynd yn ddigon pell i gyflawni’r weledigaeth,” meddai Clare Pillman.

“Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae angen i ni gydweithio fel Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru fel y gallwn gyd-ddylunio atebion mwy cynhwysol ac integredig i oresgyn yr heriau dybryd hyn, a gallwn ystyried y weledigaeth hon yn symbol o obaith ar gyfer y dyfodol.

“Mae llawer ohonom yn gweithio tuag at newid yn barod, ac mae gan Gymru lawer i’w ddathlu.

“Ond mae angen i ni fynd gam ymhellach ar y cyd ar gyfer byd natur, ac ar gyfer llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

“Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain – rhaid i ni i gydweithio gyda phobol Cymru dros natur a throsom ni.”

Cafodd y llythyr ei anfon yn uniongyrchol at Brif Weithredwyr sefydliadau sector cyhoeddus Cymru, ac mae ar gael i’w ddarllen ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

I ddarllen gweledigaeth Natur a Ni ac i gael rhagor o wybodaeth am Natur a Ni ewch i www.naturani.cymru.