Ers gwawr seicoleg fodern yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae beirniaid crefydd wedi arfer y cysyniad o dafluniad seicolegol (psychological projection) i ymosod ar ein crefydda. Mynnan nhw mai tafluniad o’n dyheadau yw’r ‘hwn’ rydym yn ei alw’n ‘Dduw’. Ar y gorau, adlewyrchiad o fympwyon pobol ydyw, ar y gwaethaf, cynnyrch ein hofnau: masgot ein rhagfarnau. Gan fod angen ‘Duw’ ar rywrai ym mhob oes a chyfnod, ym mhob oes a chyfnod crëwyd ‘Duw’ i ateb y galw. Ein creadigaeth ni yw ‘Duw’, felly, ffrwyth ein dychymyg ydyw, hynny ie, a dim ond hynny. Yn A History of God (Vintage, 1999), meddai Karen Armstrong (g. 1944) am Sigmund Freud (1856-1939):

“…(He) certainly regarded belief in God as an illusion that mature men and women should lay aside. The idea of God was not a lie but a device of the unconscious which needed to be decoded by psychology. A personal god was nothing more than an exalted father-figure: desire for such a deity sprang from infantile yearnings for a powerful, protective father, for justice and fairness and for life to go on forever. God is simply a projection of these desires, feared and worshipped by human beings out of an abiding sense of helplessness. Religion belonged to the infancy of the human race; it had been a necessary stage in the transition from childhood to maturity. It had promoted ethical values which were essential to society. Now that humanity had come of age, however, it should be left behind.”

Daeth eto’r Adfent; cyfnod o ymbaratoi – paratown i ddathlu Emaniwel – Duw gyda ni. Mae’r Adfent yn gyfle i ystyried at beth yn union yr ymbaratown. Ai paratoi a wnawn i Emaniwel – Duw gyda ni yng nghanol ein bywyd fel y mae, yn ei fateroliaeth, yn ei boen, ac yn ei ofid; Duw yma gyda ni, ac y mae Ef yma i aros. Neu, a ydym eleni eto fyth yn paratoi at yr hyn yr hoffem i Emaniwel fod? Duw gyda ni, a hynny ar ein telerau ni – Duw gyda ni, at ein gwasanaeth, yn ôl y gofyn.

Wrth wraidd ein ffydd mae’r tensiwn oesol cyfoes, bythol newydd rhwng, ar y naill law, yr hyn yr hoffem i Dduw fod, ac ar y llaw arall yr hyn oll yw Duw. Un o bennaf orchmynion yr Hen Destament yw ymwrthod â delwau (e.e. Deuteronomium 5:8 a Habacuc 2:18) – duwiau o bren a charreg, aur ac arian – mân dduwiau a grëwyd gennym i ddiwallu mân ddyheadau ein byw a’n bod. Er nad ydym bellach – modern fel ag yr ydym – yn creu i’n hunain dduwiau bach o aur, arian, pren a cherrig, nid oes gwadu ein parodrwydd i greu a chynnal duwiau bach sydd yn ein hamddiffyn rhag anferthedd yr unig wir Dduw.

Un o hanfodion Adfent yw tywyllwch. Mewn amrywiol draddodiadau bellach, caiff torch yr Adfent ei ddefnyddio, â channwyll newydd ynghyn gyda phob Sul i nodi ein bod, fesul cam golau, yn nesáu at ddyfodiad Goleuni’r Byd – Emaniwel. Y Sul cyntaf yn Adfent (Rhagfyr 3 eleni), caiff cannwyll y Proffwydi – cannwyll Gobaith – ei gynnau. Yr ail Sul, cannwyll Bethlehem – Paratoad. Cannwyll y Bugeiliaid ar y trydydd Sul – Llawenydd. Y pedwerydd Sul? Cannwyll yr Angylion – cannwyll cariad. Noswyl Nadolig, y gannwyll wen – y gannwyll sy’n cynrychioli Crist ei hun.

Tybed, os nad oes modd nodi Adfent eleni, trwy gynnau’r canhwyllau i gyd nawr; cynnau pob un ar wahân i gannwyll Crist – cannwyll Gobaith, a Pharatoad, Llawenydd a Chariad. Cynnau’r pedwar cyn dechrau’r Adfent, a fesul Sul, diffodd y naill ar ôl y llall, gan ganiatáu i dywyllwch yr Adfent ddyfnhau o’n cwmpas, a thynhau ei afael arnom. Diffoddwn bob cannwyll yn ei dro, gan ystyried o ddifri beth yw Gobaith a sut allwn, fel unigolion ac fel eglwysi, fod yn gyfrwng i’r Gobaith hwnnw.

Sut mae paratoi at y Nadolig? Ydi’n ffyrdd cyfredol o baratoi yn sicrhau na fyddwn byth yn barod? Sut mae canfod ffrydiau o lawenydd yn nirgel fannau ein bywyd beunyddiol? Diffoddwn gannwyll cariad i ddysgu o’r newydd mai mewn cariad, ac er mwyn cariad, y caoff pawb eu creu, ac wrth garu yr ydym yn rhannu ym mywyd Duw, y Duw sy’n gariad.

Yr Adfent hwn, caiff y canhwyllau eu cynnau a’u diffodd, y naill ar ôl y llall, fesul Sul hyd nes i ni, ar noswyl Nadolig, deimlo’r tywyllwch yn drwm amdanom, ac yng nghanol y tywyllwch hwnnw gynnau cannwyll Crist, a’r fflam yn ennyn ynom sanctaidd dân (R.R.Morris 1852-1935 CFf.584).