Dylai’r canlyniadau PISA diweddaraf fod yn “agoriad llygaid” i’r Llywodraeth Lafur, yn ôl Plaid Cymru.

Cafodd y canlyniadau PISA ar gyfer 2022 eu cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 5), sef profion sgiliau pobol ifanc 15 oed ar draws 79 o wledydd a rhanbarthau.

Mae’r canlyniadau yn dangos bod perfformiad Cymru wedi gostwng i’w lefel isaf erioed mewn profion Mathemateg, Darllen a Gwyddoniaeth.

Cymru hefyd oedd y wlad ddatganoledig sgoriodd isaf yn y Deyrnas Unedig ar gyfer y tri maes.

Y canlyniadau

Mae’r canlyniadau’n dangos bod perfformiad Cymru yn cyfateb i wledydd fel yr Unol Daleithiau a Norwy o ran sgoriau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn 2022.

Mae Jeremy Miles, Gweinidog Addysg Cymru, yn dweud bod cynlluniau ar waith i ailgydio yn y cynnydd a wnaed cyn y pandemig mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.

Darllen

Cymru wnaeth waethaf yn y profion darllen, gyda sgôr o 466, y tu ôl i Loegr (496), yr Alban (493) a Gogledd Iwerddon (485).

Mathemateg

Cymru sgoriodd isaf eto mewn mathemateg, gyda sgôr o 466.

Lloegr oedd ar y blaen (492), ac yna Gogledd Iwerddon (475) a’r Alban (471).

Gwyddoniaeth

Lloegr oedd ar y blaen unwaith eto mewn gwyddoniaeth (503), ac yna Gogledd Iwerddon (488), yr Alban (483) a Chymru (473).

‘Dylai pob plentyn gael cyfle cyfartal’

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r modd mae cyfraddau tlodi plant yn cael eu trin yng Nghymru, sydd, meddai, wedi cyfrannu at y canlyniadau, gan arwain at absenoldeb uchel yn ysgolion Cymru.

“Dylai canlyniadau PISA a gyhoeddwyd heddiw fod yn agoriad llygaid i Lywodraeth Cymru,” meddai Heledd Fychan, llefarydd addsg Plaid Cymru.

“Mae gormod o bobol ifanc yng Nghymru yn byw mewn tlodi, mae absenoldebau disgyblion yn annerbyniol o uchel ac mae llawer o ysgolion yn wynebu diffyg sylweddol yn eu cyllidebau.

“Er gwaethaf y gwaith caled ac ymroddiad y gweithlu sydd dan bwysau, mae’r bwlch cyrhaeddiad disgyblion yn ehangu ac ni allwn anwybyddu’r cysylltiad rhwng tlodi a chanlyniadau siomedig heddiw.

“Dylai pob plentyn, waeth beth yw ei gefndir, gael cyfle cyfartal i lwyddo mewn bywyd.

“Mae angen mwy nag esgusodion gan y Gweinidog Addysg mewn ymateb i’r canlyniadau hyn.

“Roedd gan Gymru argyfwng recriwtio cyn Covid yn y sector addysg, a methodd Gweinidogion â gafael arno.

“Ni fydd parhau a thoriadau i addysg yn gwneud dim i roi Cymru ar lwybr tuag at droi o gwmpas yn ein canlyniadau PISA.”

Galw am fwy o athrawon ac arian

Mae’r Ceidwadwyr hefyd wedi beirniadu’r Llywodraeth Lafur, gan ddweud bod angen rhoi’r dechrau mewn bywyd mae pobol ifanc Cymru yn ei haeddu iddyn nhw.

“Dydy’r canlyniadau heddiw ddim yn sioc pan mae gennym Lywodraeth Lafur gyda chyn lleied o barch at ddyfodol ein plant wnaethon nhw dorri’r gyllideb addysg eleni,” meddai llefarydd.

“Dylai pob llywodraeth fod yn rhoi’r offer i ddisgyblion ac athrawon wneud eu gorau a ffynnu.

“Ar ôl 25 mlynedd o Lafur yn rhedeg ysgolion Cymru mae gennym fwlch cyrhaeddiad sy’n ehangu, cyllid yn cael ei wario ar brosiectau bach fel mwy o wleidyddion ac, yn anffodus, unwaith eto mae Cymru ar waelod tablau cynghrair rhyngwladol.

“Mae angen i’r Gweinidog Addysg Llafur gael gafael ar ei adran a rhoi’r dechrau mewn bywyd y maen nhw’n ei haeddu i’n pobol ifanc.

“Gall o ddechrau drwy gael 5,000 yn fwy o athrawon yn ôl i’n hystafelloedd dosbarth ar ôl blynyddoedd o ostyngiad yn y niferoedd a’r arian sydd ei wir angen i gefnogi niferoedd cynyddol mewn addysg brif ffrwd.”

‘Y pandemig wedi amharu ar y cynnydd’ – ymateb y Gweinidog Addysg

Mae Jeremy Miles yn dweud ei fod wedi ymrwymo i ddod ag arweinwyr addysg o bob cwr o Gymru ynghyd i arwain ymateb ar draws y system-gyfan i gefnogi addysgu a dysgu a chodi safonau mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.

“Cyn y pandemig, gwelwyd cynnydd cadarn mewn safonau llythrennedd a rhifedd yng Nghymru,” meddai.

“Yn anffodus, mae’n amlwg bod y pandemig wedi amharu ar y cynnydd hwn.

“Rydyn ni eisoes wedi dechrau codi safonau mewn darllen a mathemateg, a wnawn ni ddim gadael i’r canlyniadau hyn ein bwrw oddi ar ein hechel.

“Fis diwethaf, fe wnaethon ni lansio cynlluniau llythrennedd a rhifedd i helpu i gefnogi’r dysgu a chodi safonau yn y meysydd allweddol hyn.

“Rwy hefyd wedi cyhoeddi’r adroddiad cenedlaethol cyntaf ar berfformiad ein plant o ran darllen a rhifedd a byddaf yn gwneud hyn bob blwyddyn i gadw llygad ar yr adferiad.

“Fe wnaethon ni gefnogi ein hysgolion a’n dysgwyr drwy’r pandemig, a byddwn yn sefyll gyda’n gilydd ac yn eu cefnogi nawr.”

Ers 2022, mae ysgolion yng Nghymru wedi dechrau gweithredu diwygiadau mawr hirdymor, gyda’r Cwricwlwm i Gymru newydd yn cael ei addysgu a’i gyflwyno i bob dysgwr ym mhob ysgol erbyn 2026/27.

“Mae ein diwygiadau addysg hirdymor bellach wedi dechrau ar ôl blynyddoedd o gynllunio ac, fel y dywedodd yr OECD, mae gwella addysg yn cymryd amser,” meddai Jeremy Miles.

“Rydyn ni wedi cymryd y cyfle sy’n codi ‘unwaith mewn cenhedlaeth’ i chwyldroi ansawdd addysg yng Nghymru ac rwy’n hyderus y bydd hyn yn arwain at fanteision enfawr i’n pobol ifanc.”