Mae Cynghorydd Plaid Cymru o Bwllheli am weld Cyngor Gwynedd yn gosod cynsail a gwneud datganiad clir mewn cyfnod o ryfel fod Gwynedd yn lle “sy’n arddel heddwch, parch a chefnogaeth” drwy alw am gadoediad parhaol rhwng Israel a Gaza.
Bydd y Cynghorydd Elin Hywel yn cyflwyno rhybudd o gynnig yng nghyfarfod y Cyngor llawn ddydd Iau (Rhagfyr 7), gan alw am gefnogaeth yr holl gynghorwyr.
“Mae safbwynt y cynnig yn glir – condemniad llwyr o weithgaredd treisgar a rhyfelgar yn erbyn sifiliaid.”
‘Cwbl warthus’
Yn ôl Elin Hywel, mae bai ar y ddwy ochr yn rhyfel Israel-Gaza, ac mae methiant Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan i gondemnio’r hyn sy’n digwydd yn annerbyniol.
“Does dim all gyfiawnhau gweithredoedd Hamas sy’n ymosod ar bobl gyffredin Israel gan gymryd gwystlon ac yna gwrthod eu rhyddhau yn syth,” meddai.
“Ac mae ymateb anghymesur Israel yn erbyn trigolion cyffredin Palestina yn cyfateb â chosb gyfunol, sy’n dor-cyfraith rhyngwladol.
“Mae’r dioddefaint yn hollgynhwysol.
“Dwi’n teimlo’n gryf bod methiant ein llywodraethau yng Nghaerdydd a Llundain i gondemnio’n glir y fath golledion i fywydau yn gwbl warthus. Mae’n gosod cynsail dychrynllyd o’r hyn a ystyrir yn dderbyniol mewn cyfnod o ryfel.
“Mae methiant ein llywodraethau i roi arweiniad wedi annog gwrthdaro ac anghydfod yn ein cymunedau.”
Cadoediad
Ym marn Elin Hywel, mae angen i Gyngor Gwynedd arwain y ffordd drwy ddatgan eu bod yn galw am gadoediad.
“Cyfrifoldeb Cyngor Gwynedd yw llenwi’r gwagle trwy gynnig arweiniad clir i warchod lles ein cymunedau drwy annog heddwch, parch a chefnogaeth i bawb sydd wedi eu heffeithio gan yr hyn sy’n digwydd yn Gaza,” meddai.
“Mae’n fraint cael galw am heddwch o safle diogel ac mae cynnal heddwch yn waith caled, ond mae Gwynedd yn barod i wneud y gwaith yma.
“Rhaid cael rhaglen gynhwysfawr o gymorth i Gaza o Gymru.
“Dwi’n galw am gefnogaeth fy nghyd-gynghorwyr yng Ngwynedd i ddatgan yn swyddogol ein bod ni’n galw am gadoediad parhaol a di-droi nôl yn Gaza.
“Ac erfyn ar Lywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan a’r gymuned ryngwladol i ddychwelyd at y bwrdd trafod a dod o hyd i ddatrysiad teg a chyfiawn i holl drigolion Palestina ac Israel.
“Erfyniwn am ddatrysiad heddychlon.”
Mae Dyfrig Siencyn, arweinydd Plaid Cymru yng Ngwynedd, hefyd yn credu bod angen cadoediad er mwyn amddiffyn pobol ddiniwed.
“Mae’n dristwch o’r mwyaf gweld a chlywed cymaint o straeon a delweddau am bobl ddiniwed yn cael eu lladd a’i niweidio yn Gaza ac Israel,” meddai.
“Erfyniwn am gadoediad parhaol a chaniatáu rhyddhau gwystlon yn ddiogel a sicrhau bod cymorth dyngarol yn cyrraedd trigolion ar fyrder.
“Rydym yn sefyll yn gadarn gyda thrigolion Israelaidd a Phalestinaidd yng Ngwynedd a Chymru gyfan gan estyn llaw o gariad a gofal iddynt yn ystod y cyfnod cythryblus yma.”
Gwynedd
Yn ôl Elin Hywel, mae gan Wynedd gysylltiadau agos â Phalesteina ac Israel, ac mae’n cael cryn effaith ar bobol yma.
“Rydyn ni’n ymwybodol bod trigolion Palesteina ac Israel wedi ymgartrefu yma yng Ngwynedd a bod nifer o drigolion Gwynedd â chysylltiadau agos â nhw.
“Rydym am chwarae ein rhan i sicrhau bod Gwynedd a Chymru’n groesawgar, yn lleoliad diogel ac yn ymdrin yn deg â phawb.
“Yng nghanol y fath gythrwfl, rydym yn cydymdeimlo a chyd-alaru â’r rhai sydd wedi eu heffeithio yma yng Ngwynedd a thu hwnt.”
Cefndir
Mae mwy na 15,000 o Balestiniaid yn Gaza wedi eu lladd gan fyddin Israel, yn ôl y weinidogaeth iechyd sy’n cael ei rhedeg gan Hamas yn Gaza.
Mae 40% o’r rhai sydd wedi eu lladd yn blant.