Mae Cyngor Gwynedd yn annog pobol i baratoi ar gyfer effeithiau tywydd garw er mwyn amddiffyn eu hunain, eu teuluoedd a’u heiddo.

Mae’n debyg y bydd stormydd yn dod yn fwyfwy cyffredin oherwydd effeithiau newid hinsawdd, ac mae’r Cyngor yn annog pobol i wneud y defnydd gorau o adnodd ar-lein sy’n dod â gwybodaeth ac arweiniad defnyddiol ynghyd.

Nod www.gwynedd.llyw.cymru/gaeaf ydi cynnig siop-un-stop i drigolion Gwynedd gael cyngor am baratoi ar gyfer y gaeaf, beth i’w wneud os ydi tywydd garw yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol, a manylion am y gefnogaeth sydd ar gael i gadw’n gynnes.

Ymysg y wybodaeth ar y dudalen mae manylion am:

  • Ffyrdd Gwynedd sy’n cael eu graeanu a threfniadau biniau halen yn y sir.
  • Sut i adrodd am broblemau fel coeden wedi syrthio, problemau dŵr ar y ffordd neu oleuadau stryd sydd wedi torri.
  • Gwasanaethau’r Cyngor allai fod wedi’u heffeithio yn ystod tywydd garw.
  • Dolenni defnyddiol i awdurdodau ac asiantaethau allweddol megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, y rhwydwaith trydanol a’r bwrdd iechyd lleol.
  • Cymorth i wresogi eich cartref gan gynnwys manylion am gefnogaeth ariannol posib i bobl daclo tlodi tanwydd.

Mae’r Cyngor hefyd yn annog aelodau o’r cyhoedd i gadw golwg ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor – a chyfrifon partneriaid allweddol megis y Swyddfa Dywydd, y gwasanaethau brys a Traffig Cymru – yn ystod cyfnodau o dywydd garw, er mwyn bod yn ymwybodol o’r rhybuddion a’r newyddion diweddaraf.

Mae’r Cyngor yn annog y rhai hynny nad ydyn nhw’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i wrando ar fwletinau newyddion ar orsafoedd radio lleol yn ystod cyfnodau o dywydd garw.

‘Heriau’

Yn ôl y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol Cyngor Gwynedd, sy’n gyfrifol am faes cynllunio argyfwng, mae’r gaeaf yn dod yn gyflym ac rydym wedi cael tywydd garw yn barod.

“Mae’n teimlo fel petai’r gaeaf yn dod yn gynt bob blwyddyn, a ninnau eisoes wedi profi tywydd garw dros yr wythnosau diweddar yn sgil stormydd Ciarán a Debi,” meddai.

“Heb os, mae’r tywydd wedi oeri dros y dyddiau diwethaf hefyd.

“Mae heriau yn aml ynghlwm a’r gaeaf, ond gallwn ni i gyd leihau’r effaith trwy gymryd camau bychan i fod yn barod amdano.

“Os nad ydych wedi ystyried y mater yn barod, mae’n amser da i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pa gymorth sydd ar gael pe bai tywydd stormus neu oer yn taro, ac i feddwl beth allwch chi ei wneud i baratoi.”

‘Gwybodaeth ddefnyddiol’

Mae Menna Trenholme yn dweud ei bod yn bwysig fod pobol yn gwybod pa gymorth sydd ar gael, fel tudalen ar wefan y Cyngor a’r cyfryngau cymdeithasol, pe bai’r tywydd yn gwaethygu.

“Rydw i’n falch iawn fod y dudalen hon ar wefan y Cyngor yn dod â llawer o wybodaeth ddefnyddiol i bob un ohonom at ei gilydd mewn un lle, er enghraifft gwybodaeth am y lonydd sy’n cael eu graeanu, sut i roi gwybod i’r Cyngor am broblemau oherwydd tywydd garw neu sut i gael gwybod am rybuddion llifogydd,” meddai.

“Mi fyddwn i’n annog unrhyw un i daro golwg ar y cyngor defnyddiol a chefnogaeth ymarferol sydd ar gael ar dudalen www.gwynedd.llyw.cymru/gaeaf ac arbed y manylion fel ffefryn rhag ofn y byddwch ei angen yn y dyfodol.

“Rydw i hefyd yn annog pobol sy’n defnyddio gwasanaethau fel Facebook a X (Twitter gynt) i chwilio am gyfrifon defnyddiol i’w dilyn, fel eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’w ffôn, llechen neu gyfrifiadur.”

Ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/gaeaf i weld y wybodaeth i helpu trigolion Gwynedd i baratoi am y gaeaf.