Mae Heddlu’r De wedi arestio dyn 28 oed o Ferthyr ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Mae’n dilyn ymosodiad difrifol ar ddynes feichiog 29 oed yn Aberfan, Merthyr bore ma (dydd Mawrth, 5 Rhagfyr). Mae’r dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Cafodd swyddogion arfog eu galw i Heol Moy yn y pentref toc cyn 9.10 bore ma.

Dywedodd Heddlu’r De bod y ddynes wedi cael ei thrywanu yn yr ymosodiad. Cafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd ond dywed yr heddlu nad yw ei hanafiadau yn peryglu ei bywyd.

Roedd y dyn sy’n cael ei amau o’r ymosodiad wedi ffoi a bu’r heddlu’n chwilio amdano.

Roedd nifer o ysgolion yn yr ardal wedi cau gan gadw disgyblion y tu ôl i ddrysau caeedig.