Mae pwysau parhaus ar wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru, yn ôl adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Mae’r adroddiad, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 6), yn tynnu sylw at beryglon yn ymwneud â gofal brys, pryderon ynghylch staffio, llif cleifion gwael a’r gallu i gael apwyntiadau.

Daw tair thema allweddol i’r amlwg sy’n ymwneud ag anawsterau wrth sicrhau deintydd rheolaidd a chael gofal deintyddol, anhawster wrth gael apwyntiad gyda meddyg teulu, ac anhawster wrth gael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl.

Yn ôl Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, mae angen “arloesi’n barhaus, pennu gweledigaeth a meithrin dealltwriaeth” o fewn y maes gofal iechyd yng Nghymru.

‘Pwysau di-ildio’

Mae canfyddiadau’r adroddiad yn dangos bod pwysau di-ildio ar wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru.

Er bod mentrau ar waith i helpu gwasanaethau gofal iechyd i ymdopi â’r galw cynyddol, dydy eu gwaith yn ystod y flwyddyn hon ddim wedi canfod unrhyw dystiolaeth i ddangos bod y mentrau hyn yn gwneud gwahaniaeth clir a sylweddol i wasanaethau rheng flaen.

Er y gallai cleifion fod wedi bod yn fodlon ar y staff oedd yn darparu eu gofal, doedden nhw ddim yn fodlon ar yr amseroedd aros hir na’r anhawster wrth gael eu trin gan wasanaethau mewn modd amserol, yn ôl yr adroddiad.

Ac er bod staff wedi parhau i ddisgrifio’u brwdfrydedd dros weithio gyda phobol a chefnogi pobol gyda’u gofal, doedden nhw ddim yn fodlon gyda’r pwysau “aruthrol” maen nhw’n eu hwynebu yn eu hamgylcheddau gwaith bob dydd.

Roedd yr ymatebion i’r holiaduron staff yn dangos lefelau isel o forâl ymysg staff, gan gynnwys heriau yn ymwneud â niferoedd staff a galw uchel am wasanaethau.

Ond doedd hi ddim yn ymddangos bod hyn yn effeithio ar brofiadau cleifion o staff.

Llif cleifion gwael

Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at lif cleifion gwael, ynghyd â phwysau dwys dyddiol mewn perthynas â derbyn cleifion a rheoli gwelyau yn ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae Adrannau Achosion Brys ledled Cymru wedi nodi gorlenwi, cleifion yn aros am gyfnodau hir i gael eu brysbennu a’u trin, ac oedi parhaus cyn i gleifion gael eu derbyn i’r gwelyau mwyaf priodol.

Ym maes Meddygaeth Gyffredinol a Deintyddiaeth, mae’r gallu i gael gafael ar wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dal i beri pryder i gleifion.

Fe wnaeth yr adroddiad ganfod fod oedi o ran darparu triniaeth, yn enwedig pan fydd cleifion sydd wedi cael diagnosis ac sydd â chynllun gofal a thriniaeth yn symud o un rhan o’r gwasanaeth i un arall.

Gweithlu’r Gwasanaeth Iechyd yn “ganolog i lywio’r heriau sydd i ddod”

“Yn awr, yn fwy nag erioed ym maes gofal iechyd yng Nghymru, mae angen arloesi’n barhaus, pennu gweledigaeth a meithrin dealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio cystal,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

“Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae gan AGIC rôl glir i’w chwarae wrth ddarparu sicrwydd annibynnol ynghylch ansawdd gwasanaethau gofal iechyd, gan dynnu sylw at arferion da a herio lle nad yw safonau’n cael eu cyrraedd.

“Unwaith eto, mae ein gwaith wedi dangos y pwysau parhaus ar wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru, ac wedi tynnu sylw at risgiau yn ymwneud â gofal brys, lefelau staffio, llif cleifion gwael a’r gallu i gael apwyntiadau.

“Drwy ein gwaith, rydym unwaith eto wedi gweld gweithlu hynod fedrus ac ymrwymedig, sy’n darparu gofal mewn modd tosturiol ac arloesol.

“Gweithlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yw ei ased fwyaf o hyd, ac mae’n parhau i fod yn ganolog i lywio’r heriau sydd i ddod.”