Cafodd uwch gynghorwyr rybudd y byddai angen i dreth y cyngor yn Sir Benfro gynyddu gan ffigurau dwbwl – ynghyd â thoriadau difrifol – er mwyn “mantoli”, neu hyd yn oed gan fwy nag 20% pe na bai’r premiwm ail gartrefi a phremiymau eraill yn cael eu defnyddio.
Cafodd y darlun llwm ei gyflwyno i aelodau Cabinet y Cyngor Sir yn eu cyfarfod ddydd Llun (Rhagfyr 4) wrth gyflwyno adroddiad ar Amlinelliad o Gyllideb Ddrafft Cyngor Sir Penfro ar gyfer 2024-25 a’r Amlinelliad o Gynllun Ariannol Tymor Canolig Drafft 2024-25 i 2027-28 gan y Cynghorydd Alec Cormack, yr Aelod Cabinet dros Gyllid Corfforaethol.
Dywed y Cynghorydd Alec Cormack fod y darlun terfynol yn ddibynnol ar setliad Cyllid Allanol Cyfun Llywodraeth Cymru, ac mae disgwyl manylion hwnnw ar Ragfyr 20.
Y llynedd, derbyniodd Sir Benfro setliad Cyllid Allanol Cyfun uwch na’r disgwyl o 7.9%, yn erbyn 3.5% disgwyliedig, gyda disgwyliad o 3.1% y llynedd, yn ebryn cefnlen o lai o gyllid gan lywodraeth ganolog a phwysau ariannol ar Lywodraeth Cymru.
“Dw i’n siŵr fod pob un o’r 60 cynghorydd yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi anrheg Nadolig cynnar i ni eleni, ond dw i’n credu ei bod hi’n annhebygol iawn y bydd hynny’n digwydd,” meddai’r Cynghorydd Alec Cormack, gan ychwanegu, “O ystyried yr ansicrwydd, dw i ddim yn argymell amlinelliad penodol o gyllideb i’r Cabinet heddiw.”
Dywedodd fod Sir Benfro’n wynebu bwlch cyllidebol o £27.1m, gyda setliad Cyllid Allanol Cyfun disgwyliedig o 3.1%.
“Yn seiliedig ar y rhagfynegiad diweddaraf, mae angen cynnydd o 22.65% yn nhreth y cyngor er mwyn mantoli’r gyllideb, hyd yn oed gydag arbedion yn y gyllideb,” meddai, gan ychwanegu y gellid defnyddio premiymau treth gyngor, megis ail gartrefi ac eiddo gwag, i ostwng hyn, ond ei bod hi’n dal yn debygol y byddai’n ffigurau dwbl.
Darlun mwy llwm eto
Fe baentiodd e ddarlun hyd yn oed yn fwy llwm ar gyfer y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, gydag £80.8m dros y cyfnod o bedair blynedd, a byddai’r Cyngor yn methu creu cyllideb gytbwys o fewn ychydig blynyddoedd pe na bai cynnydd yn nhreth y cyngor.
Dywedodd mai lefelau isel hanesyddol o dreth gyngor – gyda Sir Benfro yr isaf o blith y 22 awdurdod lleol yng Nghymru – sydd ar fai.
“Oherwydd bod gennym ni’r dreth gyngor isaf yng Nghymru, rydyn ni’n wynebu’r broblem fwyaf; ers blynyddoedd, fe fu gennym ni lai o arian i’w wario nag eraill, felly rydyn ni wedi bod yn torri’n ôl ar wariant yn fwy nag eraill, mae gennym ni lai o swmp i’w dorri nag eraill.
“Rhaid i ni godi’r lefel i gyfartaledd Cymru; yr opsiwn fel arall yw ein bod ni’n gwneud mwy a mwy o doriadau bob blwyddyn.
“Mae ein treth gyngor 13% islaw’r cyfartaledd, ac mae hynny o ganlyniad i nifer o flynyddoedd o osod y lefel isel yma o dreth gyngor; bob blwyddyn, rydym yn derbyn llai o arian, yn gwneud toriadau na fu’n rhaid i eraill eu gwneud.”
Dywedodd fod pob awdurdod lleol yng Nghymru’n wynebu eu heriau eu hunain, ond fod rhai Sir Benfro “wedi’i gwaethygu gan dan-gyllido drwy dreth y cyngor”.
“Dw i wir yn teimlo bellach ein bod ni ar ymyl y dibyn,” meddai.
“Dw i wir yn teimlo na allwn ni barhau fel ydyn ni; bydd yr arbedion costau y gall fod yn rhaid i ni eu penderfynu ym mis Mawrth yn effeithio’n sylfaenol ar wasanaethau trigolion.”
Byddai’r Cyngor llawn yn penderfynu ar osod cyllideb y Cyngor.
“Bydd hon yn gyllideb anodd iawn, iawn drwyddi draw; bydd yn rhaid i bob un o’r 60 cynghorydd balu’n ddwfn o ran yr hyn yw’r cyfaddawd cywir.”
‘Poeni am y dyfodol’
“Oherwydd fod gennym ni dreth gyngor mor isel, mae ein ffordd allan ohoni’n teimlo’n ddyfnach,” meddai’r Cynghorydd David Simpson, arweinydd y Cyngor.
“Mae [awdurdodau lleol] ar frig y raddfa ar gynnydd o ryw 10%, sy’n cyfateb i’n 15% ni; dyna’r math o ffigurau sy’n rhaid i ni edrych arnyn nhw.
“Mae’n rhaid bod gan bob adran doriadau, mae pawb yn poeni am y dyfodol, nid dim ond eleni ond y flwyddyn nesaf a’r flwyddyn wedyn, a blynyddoedd wedyn.
“Rydyn ni’n gwneud penderfyniadau heddiw fydd yn effeithio ar y Cyngor am flynyddoedd i ddod.
“Fydd dim byd ar ôl heb dynnu oddi ar wasanaethau statudol; ai dyna ydych chi ei eisiau?
“Rhaid i ni fynd â’n cydwybod; gobeithio fod gan yr ‘wrthblaid’ feddwl agored o ran sut maen nhw’n pleidleisio – dros y deunaw mis diwethaf, maen nhw wedi pleidleisio ‘blanced’ os ydyn nhw’n gwrthwynebu.”
Ymgynghoriad cyhoeddus
Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar y gyllideb wedi’i lansio gan y Cyngor, gyda Ionawr 3 yn ddyddiad cau.
Mae’n cynnwys opsiynau fel cynyddu treth y cyngor, yn amrywio o 7.5% i 25%.
“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n clywed gan gynifer o bobol â phosib yn Sir Benfro,” meddai’r Cynghorydd Alec Cormack.
“Fel cynghorau eraill, rydyn ni unwaith eto’n wynebu pwysau cyllidebol sylweddol, ac mae’n hanfodol deall blaenoriaethau cymunedau ac aelwydydd er mwyn ein helpu ni i wneud y dewisiadau anodd angenrheidiol wrth osod cyllideb 2024-25.”