Mae’r elusen Marie Curie yn galw am gryfhau cefnogaeth gymunedol ar gyfer gofal lliniarol wrth i gleifion ddod i ddiwedd eu hoes.
Mewn ymchwiliad diweddar gafodd ei ariannu gan yr elusen, fe ddaeth i’r amlwg fod gormod o bobol hŷn yn marw heb y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw a’u teuluoedd.
Daeth i’r amlwg fod un ym mhob naw o bobol (11%) fu farw yn yr ysbyty wedi bod yno lai na 24 awr, a bod 46% o bobol wedi marw yn yr ysbyty heb deulu na ffrindiau’n bresennol.
Oherwydd hyn, mae Marie Curie yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun ar gyfer eu Datganiad Ansawdd ar ofal lliniarol a diwedd oes, gan ddatgan nad yw’r cynllun presennol yn ddigon da.
Elusen diwedd oes flaenllaw yw elusen Marie Curie, sy’n ymroddedig i ofalu am bobol â salwch angheuol a cheisio darparu’r gofal arbenigol a chefnogi teuluoedd a gofalwyr.
Yn 2019, roedd amcangyfrif fod angen gofal lliniarol ar 30,000 o bobol yng Nghymru; erbyn 2022, roedd y ffigwr wedi cynyddu i 32,000 o bobol.
Yn 2022, mewn Datganiad Ansawdd, fe wnaeth y Llywodraeth amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes.
Ond yn ôl yr elusen, mae’r dyfyniadau a’r data yn y briffio hwnnw “yn dangos bod ffordd bell i fynd cyn i hyn ddod yn realiti i bawb”.
Canfyddiadau’r ymchwil
Cafodd yr ymchwil ei hariannu gan Marie Curie drwy’r cynllun Diwedd Oes Gwell, sy’n brosiect cydweithredol rhwng Marie Curie, Sefydliad Cicely Saunders King’s College Llundain, Ysgol Feddygol Caerefrog Hull ym Mhrifysgol Hull, a Phrifysgol Caergrawnt.
Yn ôl y canfyddiadau, mae gormod o bobol yn marw mewn poen a heb y cymorth gwirioneddol sydd ei angen arnynt.
Roedd un ym mhob naw o bobol (11%) fu farw yn yr ysbyty wedi bod yno lai na 24 awr, sy’n adlewyrchu bod gormod o bobol sy’n agos at farwolaeth yn gorfod mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys prysur gan nad oes mynediad at ofal priodol gartref neu mewn cartref gofal.
Cafodd mwy nag un ym mhob tri o bobol eu heffeithio’n ddifrifol gan boen (36%) neu ddiffyg anadl (40%) yn ystod wythnos olaf eu bywyd, ac roedd llawer yn teimlo’n bryderus ac yn isel.
Mae’r ymchwil yn dangos bod cleifion a theuluoedd yn dioddef pan fo gwasanaethau’n cael eu cydlynu’n wael a diffyg amser gan weithwyr proffesiynol, wrth i bron i hanner (47%) fod yn anhapus gydag o leiaf un agwedd ar y gofal gafodd aelod o’u teulu.
Fe wnaeth un ym mhob pymtheg gwyno’n ffurfiol.
Yn aml, doedd gan staff mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol ddim digon o amser i ddarparu gofal digonol i bobol oedd yn marw.
Hefyd, atega’r ymchwil fod gofalwyr di-dâl yn ymgymryd â rolau gofal hanfodol heb gefnogaeth.
Er bod nifer yn ymgymryd â rolau gofal hanfodol, roedd nifer o’r ymatebwyr yn teimlo nad oedd ganddyn nhw’r wybodaeth, y sgiliau na’r mynediad at gymorth proffesiynol oedd ei angen.
Yn ôl yr Athro Katherine Sleeman, prif ymchwilydd y cynllun Diwedd Oes Gwell, mae’r “ymchwil wedi dangos, er bod rhai pobol, yn enwedig y rhai sy’n cael mynediad at ofal lliniarol arbenigol, wedi adrodd profiadau cadarnhaol o ofal o ansawdd uchel, disgrifiodd llawer yr anawsterau o gael mynediad at wasanaethau”.
“Mae llawer o bobol yn marw gartref gyda diffyg anadl, poen ac anghenion iechyd meddwl, ac roedd eu gofalwyr di-dâl yn teimlo’n anfodlon a heb gefnogaeth,” meddai.
“Roedd darparu a chydlynu gofal yn cymryd cryn amser gyda chanlyniadau ariannol ac emosiynol sylweddol.
“Os ydym am ddarparu mwy o ofal diwedd oes yn y gymuned, rhaid i gyllid a chomisiynu ymateb i’r patrwm galw hwn.”
Profiad un teulu
Dywed Ann Hutchings o Benarth fod gan ei mam ddementia ac y bu farw heb deulu yn yr ysbyty ym mis Mai 2020 o ganlyniad i Covid-19.
“Roedd pethau’n effeithio arna i i’r fath raddau na allwn ymdopi yn gorfforol nac yn feddyliol,” meddai.
“Doeddwn i ddim eisiau iddi fynd i’r ysbyty, oherwydd roeddwn i’n gwybod pe bai hi’n mynd i mewn, roedd hi’n debygol iawn na fyddai hi’n dod allan.
“Ar Fai 1, 2020, tua 4yp, daeth y meddyg ar y ffôn a dywedodd na fyddai’n hir, a diolchais iddyn nhw am roi gwybod i mi.
“Fe wnaeth hyn roi’r sicrwydd i mi nad oedd hi wedi bod ar ei phen ei hun.”
Ers hynny, mae Ann Hutchings wedi derbyn cefnogaeth gan linellau cymorth profedigaeth a chydymaith Marie Curie – rhywbeth mae’n dweud sy’n amhrisiadwy ac sydd wedi ei helpu drwy ei galar.
Yn ôl Jon Antoniazzi, Cyfarwyddwr Cyswllt Polisi a Materion Cyhoeddus Marie Curie Cymru, mae clywed am y trafferthion mae pobol yn eu hwynebu yn ystod yr wythnosau olaf “mor drist”.
“Mae ôl-effeithiau gofal diwedd oes gwael yn cael effaith ddofn ar y person sy’n marw, yn ogystal â’u hanwyliaid,” meddai.
“Yn rhwystredig, er gwaethaf ei bwysigrwydd, mae gofal diwedd oes yn parhau i gael ei anwybyddu a nawr mae’r diffyg cymorth ar lefel dyngedfennol.
“Er bod gan Lywodraeth Cymru uchelgais sydd i’w groesawu o ran gwella gofal lliniarol a gofal diwedd oes, mae gwir angen i ni weld yr uchelgais hwn yn troi’n gynllun cadarn a gweithredoedd cadarn.
“Mae gwir angen i Lywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd gyfranogi wrth ddatrys argyfwng gofal diwedd oes a gwella cefnogaeth i deuluoedd a gofalwyr pobol â salwch terfynol.
“Bydd gofalwyr yn dioddef, a bydd adnodd hanfodol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael ei roi dan fwy o straen.”