Mae perchnogion siopau yn Rhuthun yn dweud y gallai gwaith adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd ar sgwâr y dref arwain at gau busnesau, gan fod llai o gwsmeriaid o gwmpas.

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Ddinbych wrthi’n gwneud gwaith ar Sgwâr San Pedr ar ôl derbyn arian codi’r gwastad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yn rhan o’r gwaith, maen nhw’n gwario £10m ar wella mannau cyhoeddus, sy’n cynnwys adnewyddu adeiladau a chofebion hanesyddol.

Bydd yr arian yn arwain at welliannau i Sgwâr San Pedr a gwaith ar ddialau Tŵr Cloc Rhuthun.

Mae’r gwaith hefyd yn cynnwys gwneud gwelliannau i Barc Cae Ddol a chreu mynedfa newydd i Garchar Rhuthun.

‘Effeithio’n sylweddol ar fasnach’

Fodd bynnag, mae perchnogion siopau yn dweud bod cwsmeriaid yn osgoi’r ardal yn sgil y gwaith adeiladu.

Mae Lois Mead wedi bod yn rhedeg siop goffi a bar coctêls annibynnol ers dwy flynedd, ond mae hi’n dweud nad yw ei busnes, Asudres Bar and Lounge ar Sgwâr San Pedr, yn y golwg o Stryd Clwyd, Stryd y Ffynnon na Stryd y Farchnad yn sgil ffensys.

Dywed Lois Mead fod 40% yn llai o fasnach yn dod iddyn nhw, a bod y Cyngor yn dweud nad oes ganddi hawl i iawndal.

“Aeth y ffensys fyny ddydd Gwener, Awst 16; maen nhw’n mynd i fod yn gweithio yna tan fis Tachwedd, ond wnaeth neb ddweud wrthym ni nes i’r gwaith ddechrau,” meddai.

“Maen nhw wedi rhoi ffensys a rhwydi fyny.

“Mae’r ffens yn mynd yn ar draws y dref ac yn blocio fi’n llwyr.

“Dydych chi methu gweld drwy’r ffens; fedrwch ddim gweld o’i amgylch o.

“Dydych chi methu gweld fy siop o’r un ffordd arall, oni bai am y ffordd mae’r siop arni – dydych chi methu hyd yn oed gweld bod y ffordd yn bodoli.

“Mae wedi effeithio’n sylweddol ar fasnach, o tua 40%. Dylen ni fod wedi cael gwybod.

“Mae’r Cyngor yn dweud eu bod nhw wedi dilyn gweithdrefnau cyhoeddus a chynnal ymgynghoriad.

“Ond doedden ni ddim yn gwybod y byddai’r gwaith yn para tri mis, na’i fod y mynd i gael effaith mor negyddol.

“Dw i ar y pwynt lle dw i’n colli gymaint o arian, dw i ddim yn gwybod sut dw i am gynnal y busnes am dri mis.

“Dw i’n flin. Dw i wedi cwyno wrth y cyngor.

“Mae fy musnes i reit yn nhop y dref. Pan wnes i agor, doedd yna ddim byd arall o’m cwmpas i, dim ond fi a’r siop drws nesaf.

“Ers hynny, mae busnesau eraill wedi agor.

“Rydyn ni wedi bod yn trio dod â bywyd yn ôl i’r sgwâr, ac mae hynny wedi mynd.

“Mae o wedi lladd pethau.”

‘Cyfnod pryderus iawn’

Mae Jayne Bedford, sy’n rhedeg siop ecogyfeillgar Naturally Ethical, drws nesaf, yn cytuno.

“Dw i’n hapus bod y gwaith yn cael ei wneud, ond a fydd busnesau bychain iawn fel ni’n elwa?” meddai.

“Mae’n edrych fel bod y sgwâr wedi cau.

“Ers i hyn ddechrau, dw i’n gwneud 40% yn llai.

“Fedrwch chi weld bod llai o lawer o gwsmeriaid.

“Mae’n gyfnod pryderus iawn.

“Mae gen i dal filiau i’w talu tra bo hyn yn digwydd.”

‘Rhaid bod yn amyneddgar’

Ond mae’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn rhedeg Swyddfa’r Post ar y sgwâr ac yn anghytuno â’r perchnogion.

“Mae’r un fath yn wir efo fy musnes i, y swyddfa bost,” meddai.

“Mae’r ffensys yn gorchuddio’r cloc. Dydy o ddim yn gorchuddio’r stryd.

“Mae unrhyw welliant i ganol ein tref yn mynd i olygu gwaith adeiladu, a dyna sy’n digwydd efo’r cloc ar y funud.

“Rydyn ni wedi derbyn y cyllid i wneud gwelliannau i gyflwr y sgwâr, ac yn amlwg mae’n rhaid i ni fod yn amyneddgar wrth i’r gwaith gael ei gwblhau.

“Rhaid i ni gymryd ychydig o boen er mwyn cael gwell canol i’n tref yn y pen draw.”

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn cais am ymateb.