Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyflwyno cwyn yn erbyn Adran Addysg Cyngor Ceredigion tros gynlluniau i gau pedair ysgol wledig, gan “danseilio nifer o gymunedau Cymraeg a’u gwagio o fywyd ifanc”.
Mae papurau ar gyfer cyfarfod Cabinet Cyngor Ceredigion ddydd Mawrth nesaf (Medi 3) yn gofyn iddyn nhw roi caniatâd i swyddogion yr awdurdod gychwyn proses o ymgynghoriad statudol ar gynnig i gau pedair o ysgolion pentrefol cynradd Cymraeg y Sir, wedi’u cyhoeddi ar wefan y cyngor.
Yr ysgolion sydd dan fygythiad yw Ysgol Llangwyryfon, Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn, Ysgol Syr John Rhys ym Mhonterwyd ac Ysgol Craig yr Wylfa yn y Borth.
Mae’r pedair ysgol ar Restr Ysgolion Gwledig y Cod Trefniadaeth Ysgolion (2018), ac yn destun rhagdyb o blaid cynnal ysgolion gwledig.
Cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith ddoe (dydd Mercher, Awst 28) y bydden nhw’n cyflwyno cwyn yn syth i’r Ysgrifennydd Addysg yn Llywodraeth Cymru pe bai’r cynlluniau’n mynd rhagddynt, gan ddadlau nad yw’r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau addysgol ac yn mynd yn erbyn y Cod Trefniadaeth Ysgolion.
Daeth cwyn debyg ym Môn yn 2019, pan fu’n rhaid i Gyngor Ynys Môn atal y broses o geisio cau dwy ysgol gynradd yn y sir.
Disgwyl i ysgolion “gyfiawnhau eu bodolaeth”
Dywed Fred Ffransis, ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, fod “Cyngor Ceredigion am danseilio nifer o gymunedau Cymraeg a’u gwagio o fywyd ifanc”, ond fod yr “holl broses yn gwbl groes i fersiwn 2018 o’r Cod Trefniadaeth Ysgolion sy’n gosod rhagdyb o blaid cynnal ysgolion gwledig”.
“Mae proses y Cyngor o adolygu’r ysgolion hyn yng nghyd-destun arbedion ariannol yng ngwariant y Cyngor, ac felly’n rhagdyb ymarferol yn erbyn cynnal yr ysgolion,” meddai.
“Mae gofyn i’r ysgolion gyfiawnhau eu bodolaeth er eu bod yn llwyddo’n addysgol.
“Ar ben hynny, mae’r Cod yn datgan yn eglur fod yn rhaid ystyried pob opsiwn arall tra bo cynigion ar gam ffurfiannol – hynny yw, cyn gwneud cynnig – ond mae gofyn i’r Cabinet awdurdodi ymgynghoriad ffurfiol ar gynnig pendant cyn bod pobol yn codi opsiynau eraill.
“Petai’r Gweinidog yn caniatáu i’r Cyngor weithredu fel hyn, byddai’r Cod a rhagdyb o blaid ysgolion gwledig yn golygu dim.”
Apelio i wrthod yr argymhelliad
Ychwanega Ffred Ffransis fod Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio swyddogion y Cyngor ar ddechrau’r haf eu bod nhw ar drywydd oedd yn groes i’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, gan wneud cais i gael cyfarfod er mwyn trafod yr opsiynau yn agored.
Er i’r Cyngor ymateb gan nodi eu bod nhw am ystyried y mater, doedd dim ymatebion i’r ceisiadau.
“Byddai wedi bod yn well gennym ni fod y materion hyn wedi cael eu trafod yn agored gan geisio cytundeb am y ffordd ymlaen, ond mae’r swyddogion wedi mynnu bwrw ymlaen gydag ymgynghoriad am eu cynnig negyddol nhw i gau ysgolion,” meddai Ffred Ffransis.
“Apeliwn ar aelodau’r Cabinet i wrthod yr argymhelliad ac yn hytrach galw am drafodaeth agored.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Ceredigion.