Mae cwrs newydd i berchnogion cŵn yn cynnwys modiwl ar ymddygiad o amgylch da byw.

Nod y cwrs yw addysgu perchnogion cŵn a lleihau nifer yr ymosodiadau ar dda byw, ac mae’r elusen anifeiliaid anwes Groes Las, yr heddlu a Llywodraeth Cymru wedi cydweithio arno.

Bydd y cwrs ar gael i’r heddlu ledled Cymru i ddelio â pherchnogion cŵn sy’n ymosod ar dda byw.

Roedd data yn 2023 yn dangos bod y gost i ffermwyr oherwydd ymosodiadau cŵn ar dda byw wedi cynyddu 50% ers cyn y pandemig.

“Mae cŵn sy’n ymosod ar dda byw yn broblem fawr a gofidus iawn ac rydym am i ffermwyr ddeall ein bod yn cymryd y mater hwn o ddifrif,” meddai Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd Materion Gwledig a Dirprwy Brif Weinidog Cymru.

“Mae cwrdd â rhywun sydd wedi dioddef trosedd o’r math hwn wedi rhoi cyfle i mi drafod y broblem yn fanwl â’r cymunedau yr effeithiwyd arnyn nhw.

“Rydyn ni’n cymryd yr ymosodiadau hyn o ddifrif ac rydyn ni am i bobol ysgwyddo’u cyfrifoldeb am ymddygiad eu cŵn p’un a ydyn nhw’n byw ar fferm neu’n cerdded ger tir fferm.”

‘Effaith ddinistriol’

Rob Taylor, Cydlynydd Bywyd Gwyllt a Throseddau Gwledig Cymru, sydd wedi addasu a threfnu’r cwrs.

Nod ei swydd yw cryfhau’r ymateb i droseddau Bywyd Gwyllt a Gwledig ledled y wlad, ac mae arian wedi’i neilltuo i estyn y contract am bedair blynedd arall.

“Fel prif swyddog yr Heddlu yn y Deyrnas Unedig ar atal cŵn rhag ymosod ar dda byw, rwy’n gweld yn rhy aml yr effaith ddinistriol y mae hyn yn ei chael, nid yn unig ar yr anifeiliaid, ond ar y ffermwr a pherchennog y ci hefyd, yn ariannol ac yn emosiynol,” meddai.

“Mae hon yn broblem anodd delio â hi ond yn ogystal â newidiadau mawr eu hangen i’r gyfraith, rydym yn gweld bod cwrs i addysgu perchnogion anghyfrifol yn hanfodol i allu symud ymlaen a lleihau nifer y troseddau.

“Rwyf hefyd yn croesawu’r estyniad i’r swydd cydlynydd gwledig yma yng Nghymru.

“Bydd yn rhoi cyfle imi adeiladu ar y sylfeini cryf a’r gweithgarwch yr ydym eisoes wedi’u datblygu gyda’n partneriaid, trwy Strategaeth Troseddau Bywyd Gwyllt a Gwledig Cymru.”

‘Problem fawr’

Ychwanega Kerry Taylor, Rheolwr Addysg y Groes Las, eu bod nhw’n “cydnabod fod perchenogion anghyfrifol a phroblemau sy’n codi o ddiffyg rheolaeth ar gŵn yn gallu bod yn broblem fawr mewn cymunedau, gan achosi gofid i drigolion ac i berchnogion anifeiliaid anwes eraill”.

“Mae bod yn berchennog cyfrifol ar gi yn agwedd bwysig o ran gallu rheoli ci’n effeithiol ac mae hynny’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles y ci,” meddai.