Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod amharodrwydd Prif Weinidog Cymru i siarad yn erbyn codi Yswiriant Gwladol i gyflogwyr yn “ychwanegu at bryderon” fod cynnydd ar y ffordd.
Wrth siarad â BBC Breakfast heddiw (dydd Mawrth, Hydref 15), fe wnaeth Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wrthod diystyru y bydd cynnydd mewn Yswiriant Gwladol yn y Gyllideb.
Wrth gael ei herio gan Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn y Senedd, dywedodd Eluned Morgan nad yw hi’n gwybod beth fydd yn cael ei gynnwys yng Nghyllideb Llywodraeth San Steffan fis yma.
Y sefyllfa
Yn ei gyfweliad, fe wnaeth Syr Keir Starmer osgoi cwestiynau ynglŷn ag a oedd addewid maniffesto Llafur i beidio codi trethi i “weithwyr” yn cynnwys Yswiriant Gwladol cyflogwyr.
Roedd maniffesto Llafur ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol fis Gorffennaf yn cynnwys peidio codi Yswiriant Gwladol, y dreth incwm na’r Dreth ar Werth (VAT).
Ddoe (dydd Llun, Hydref 14), dywedodd y Canghellor Rachel Reeves fod yr addewid i beidio codi Yswiriant Gwladol yn berthnasol i gyflogai, yn hytrach na’r swm sy’n cael ei dalu gan gyflogwyr.
Gallai cynyddu Yswiriant Gwladol i 13.8% ar gyfraniadau pensiwn cyflogwyr godi gymaint â £17bn y flwyddyn, yn ôl sefydliad ariannol yr IFS.
Ar hyn o bryd, mae cyflogwyr yn talu Yswiriant Gwladol ar gyfradd o 13.8% ar gyflog pob gweithwyr sy’n ennill dros £175 yr wythnos.
Fe fu sôn y gallai cyfradd yr Yswiriant Gwladol sy’n cael ei dalu gan gyflogwyr gynyddu fis nesaf er mwyn llenwi bwlch o ariannol o £22bn mae Llafur yn dweud iddyn nhw ei ganfod ar ôl dod i rym yn Llundain.
Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr yn dadlau y byddai cynyddu Yswiriant Gwladol i gyflogwyr yn gwneud y Deyrnas Unedig yn llai apelgar i fuddsoddwyr, ac y byddai’n cael effaith negyddol ar dwf yr economi a chyfraddau cyflogaeth.
‘Wna i ddim cymryd gwersi gennych chi’
Wrth siarad yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw, cyfeiriodd Andrew RT Davies at gynnydd mewn Yswiriant Gwladol i gyflogwyr fel “treth ar gyflogaeth”, a holodd Eluned Morgan a yw hi’n credu y byddai cynnydd yn arwain at fwy o ddiweithdra yng Nghymru.
“Dw i ddim am gymryd gwersi gan Lywodraeth Dorïaidd wnaeth adael y llywodraeth gyda’r cyfraddau trethi uchaf mewn 70 mlynedd; wna i ddim cymryd gwersi gennych chi,” meddai’r Prif Weinidog wrth ateb.
Yn dilyn cynhadledd fuddsoddi’r Deyrnas Unedig ddoe, dywedodd ei bod hi wedi pwysleisio sefydlogrwydd Cymru i fuddsoddwyr.
“Llafur mewn grym ac yn ennill mwyafrifoedd am 122 o flynyddoedd. Dyna rydych chi’n ei alw’n sefydlogrwydd. Dyna pam ddylai pobol ddod i fuddsoddi yma,” meddai.
“Rydych chi’n siarad am gyfraddau diweithdra; mae yna wastad waith i wneud ar hynny, ond roeddwn i’n falch o weld cyhoeddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr wythnos ddiwethaf yn awgrymu bod diweithdra ymysg pobol ifanc yng Nghymru wedi gostwng 3.2% i 6.2% – y ffigwr cyfatebol ar gyfer y Deyrnas Unedig yw 11%.
“Os oes yna faes dw i eisiau gweld cynnydd, yna diweithdra ymysg pobol ifanc yw hwnnw, ac rwy’n falch o weld bod yr ystadegau wedi gostwng.”
‘Dw i ddim yn gwybod beth sydd yn y Gyllideb’
Soniodd Andrew RT Davies fod economi’r Deyrnas Unedig yn tyfu’n gynt nag unrhyw wlad G7 arall pan ddaeth cyfnod y Ceidwadwyr mewn grym i ben dros yr haf, bod chwyddiant lawr i 2% bryd hynny a bod cyfraddau diweithdra ar lefel is na fu.
“Y pwynt rwy’n ei wneud i chi Brif Weinidog yn eithaf syml – fe wnaeth eich cydweithwyr, pan oedden nhw’n rhan o’r wrthblaid, ddweud y byddai unrhyw gynnydd mewn Yswiriant Gwladol gan gyflogwyr yn dreth ar gyflogaeth,” meddai Andrew RT Davies.
“Ydych chi’n cytuno gyda’r hyn ddywedodd [Ysgrifennydd Busnes a Masnach San Steffan] Jonathan Reynolds a’r [Canghellor] Rachel Reeves pan oedden nhw yn yr wrthblaid, y byddai cynyddu’r Yswiriant Gwladol yn arwain at golli swyddi, treth ar gyflogaeth ac atal buddsoddiadau hanfodol rydyn ni eu hangen yma yng Nghymru? Ie neu na?”
Yn ei hateb, dywedodd Eluned Morgan ei bod hi’n “jôc” sôn am y twf cyflymaf yn yr economi.
“Os ydych chi’n tyfu o sail weddol isel mae’n eithaf rhwydd, a dyna le’r oeddech chi.
“Agenda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yw gweld twf economaidd, a dyna pam fod y gynhadledd [fuddsoddi] ddoe’n gwbl hanfodol.
“Roedd yna bobol o bob rhan o’r byd yn ysu i fuddsoddi mewn gwlad sydd â sefydlogrwydd nawr ar ôl anhrefn blynyddoedd y Torïaid.
“Twf economaidd sy’n mynd i wneud gwahaniaeth, dyna sy’n mynd i godi’r trethi fydd wedyn yn caniatáu i ni wario ar y gwasanaethau cyhoeddus rydyn ni i gyd yn awyddus i’w cefnogi.
“Dw i ddim yn mynd i ddweud wrthych chi beth sydd yn y Gyllideb – dw i ddim yn gwybod beth sydd yn y Gyllideb.
“Mae’n bwysig bod Rachel Reeves yn atebol am hynny.”
‘Ychwanegu at bryderon’
Dywedodd Andrew RT Davies wedyn nad yw’n “ddim syndod i neb” nad yw Eluned Morgan yn fodlon siarad yn erbyn y cynnydd posib.
“Bydd hyn yn ychwanegu at bryderon ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig fod cynnydd ar ei ffordd yn y Gyllideb, oherwydd bod y Prif Weinidog Keir Starmer wedi gwrthod ei ddiystyru,” meddai.
“Rhaid peidio â chodi’r dreth hon ar swyddi, a dylai Llywodraeth Cymru ailgyflwyno’r rhyddhad ar gyfraddau busnes i gyd-fynd â’r hyn sydd ar gael mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.”