Mae ffigurau cadarnhaol diweddar Llywodraeth Cymru ar y farchnad lafur yn “cuddio gwahaniaethau yng Nghymru”, yn ôl economegydd blaenllaw.

Mae’r Athro Max Munday o Brifysgol Caerdydd hefyd yn mynnu bod y bwlch parhaus o ran gweithgarwch economaidd Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn “bryder go iawn”.

Cafodd y ffigurau diweithdra ac anweithgarwch economaidd y cyfnod rhwng Mehefin y llynedd a Mehefin eleni eu cyhoeddi’r wythnos ddiwethaf (dydd Mercher, Hydref 9).

Caiff y bobol hynny sydd heb fod mewn cyflogaeth, ond sydd wedi bod yn chwilio am waith dros y bedair wythnos flaenorol, eu galw’n “ddi-waith”.

Mae anweithgarwch economaidd yn wahanol i ddiweithdra, ac yn cynrychioli’r gyfran o’r boblogaeth sydd heb fod yn chwilio am gyflogaeth yn y mis blaenorol.

Felly mae’n cynnwys y nifer sy’n byw â salwch hirdymor neu anableddau sy’n eu rhwystro rhag gweithio, y rheiny sydd â chyfrifoldebau gofalu llawn amser yn y cartref, yn ogystal â’r rheiny sydd wedi ymddeol yn gynnar.

Mae nifer y bobol rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru sy’n ddi-waith wedi gostwng i 3.1% yn yr adroddiad diweddaraf, i lawr 0.3% ers y cyfnod rhwng Mehefin 2022 a Fehefin 2023.

Ar draws y Deyrnas Unedig, 3.7% o’r boblogaeth oedd yn ddiwaith rhwng Mehefin 2022 a Mehefin 2023, ac eto rhwng Mehefin 2023 a Mehefin 2024.

Nid yw’r un gostyngiadau i’w gweld ar lefel y Deyrnas Unedig, felly.

Mae hyn yn golygu bod diweithdra’n parhau i fod yn is yng Nghymru na’r cymedr ar draws y Deyrnas Unedig, a bod y bwlch rhwng y ddau ffigwr yn tyfu.

‘Pryderon’

Ond mae’r Athro Max Munday yn rhybuddio na ddylid bod yn rhy obeithiol am y canlyniadau hyn.

“Er bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi cwympo’n is na chyfradd y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, mae ystadegau eraill ddylai fod yn achosi pryderon parhaus am economi Cymru,” meddai.

“Er y byddai’n bosib teimlo’n galonogol am gyfraddau diweithdra sy’n debyg i rai gweddill y Deyrnas Unedig, mae’n rhaid cofio bod y rhifau hyn yn medru cuddio gwahaniaethau y tu mewn i Gymru, a bod y gwahaniaethau hyn yn dueddol o awgrymu gwahaniaethau o ran mynediad at gyfleoedd economaidd.”

Mae data’r arolwg yn awgrymu bod gwahaniaethau sylweddol yn bodoli rhwng rhanbarthau Cymru.

Mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd yn uwch yn y canolbarth a’r de-orllewin (21.5% o’r boblogaeth rhwng 16 a 64 oed) nag yn y gogledd (19.3%).

Mae gwahaniaethau o ran ethnigrwydd ac anabledd hefyd.

Roedd 8.3% o’r boblogaeth Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn ddi-waith rhwng Mehefin 2023 a Mehefin 2024, o gymharu â 2.8% ymhlith pobol wyn Cymru.

Yn ogystal, mae’r data yn awgrymu bod pobol ag anableddau rhwng 19 a 24 oed yn fwy tebygol o lawer o fod y tu allan i’r farchnad lafur na’u cyfoedion sydd heb anableddau.

Anweithgarwch economaidd yn “bryder go iawn”

Mae Dr Max Munday hefyd yn pwysleisio goblygiadau cyfraddau anweithgarwch economaidd Cymru.

“Mae cyfraddau anweithgarwch economaidd cymharol uchel Cymru’n bryder go iawn,” meddai.

“Er bod y gyfradd hon wedi tueddu tuag i lawr hyd at 2022, mae’r bwlch rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig yn gyffredinol wedi bod yn hynod barhaus.”

Rhwng Mehefin y llynedd a Mehefin eleni, roedd 20.6% o boblogaeth Cymru rhwng 16 a 64 oed yn anweithgar yn economaidd.

Mae hyn yn ostyngiad o 0.2% o’r flwyddyn flaenorol, ond yn dal i fod ymhell y tu ôl i’r 17.8% ar draws y Deyrnas Unedig i gyd.

Salwch hirdymor oedd y rheswm pennaf dros anweithgarwch economaidd unwaith yn rhagor eleni.