Mae Cymdeithas yr Iaith yn profi “adfywiad” ar hyn o bryd, yn ôl eu Swyddog Cyfathrebu.

Wrth siarad â golwg360, fe fu cynnydd diweddar yn y niferoedd sy’n mynychu ralïau ac mae’r ymgyrch am Ddeddf Eiddo yn profi llwyddiant.

Cymdeithas yr Iaith ydy’r mudiad protest hynaf yn Ewrop, ac yn ôl Owain Meirion, mae’n “bosib dehongli hynny fel peth da neu’n beth drwg”.

“Efallai’i fod o’n awgrymu nad ydyn ni wedi cyrraedd ein nodau ni,” meddai.

“Dyn ni wedi bodoli ers 60 mlynedd, ac mae yna bethau dyn ni dal angen eu hennill!

“Os oes newid, mae hynny’n beth da, ond dydy o heb fod yn ddigon.

“Os rhywbeth, mae’r Gymraeg mewn sefyllfa wannach nag oedd hi pan gafodd Tynged yr Iaith ei darlledu yn 1962.”

‘Sbardun, nid methiant’

Ond yn ôl Owain Meirion, nid methiant ond sbardun cynnydd pellach ydy sefyllfa’r Gymraeg ar hyn o bryd.

“Mae’r frwydr angen bod yr un mor gryf â fuodd o erioed,” meddai.

“Mae pobol wastad yn cyfeirio at ‘Oes Aur’ Cymdeithas yr Iaith. Dwi’n credu bod hynny’n eithaf tocsig, ac yn awgrymu bod y brwydrau i gyd wedi bod yn barod, wedi’u hennill – bod popeth yn y gorffennol.

“Ond mae diwygiadau mawr wedi bod ym maes tai’n ddiweddar, yn enwedig o ran gwneud y stwff Deddf Eiddo’n brif ffrwd; mae cael Plaid Cymru’n cefnogi hynny’n beth mawr.”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn brwydro i gael Deddf Eiddo, fyddai’n sicrhau’r hawl gyfreithiol i gartref digonol, ers y 1980au.

Mae’r Gymdeithas yn credu y byddai deddf o’r fath, fyddai’n gosod dyletswydd ar yr awdurdodau i gyflenwi tai ac yn rhoi’r grym i gymunedau lleol reoli eu marchnadoedd tai lleol, o fudd eithriadol i gymunedau’r Fro Gymraeg.

Y “fuddugoliaeth fwyaf” ers ennill y sianel

Ddydd Sadwrn (Hydref 12), fe gyhoeddodd Cynhadledd Plaid Cymru y bydden nhw’n cefnogi cyflwyno Deddf Eiddo gerbron y Senedd am y tro cyntaf erioed.

Mae arwyddocâd i’r newid hwn, yn ôl y Gymdeithas, ynghŷd â mesurau tebyg sy’n targedu ail dai a llety gwyliau gafodd eu cyflwyno gan gynghorau ledled Cymru’n ddiweddar.

Ymhlith yr ymdrechion yma mae Cyfarwyddyd Erthygl Pedwar Cyngor Gwynedd, sydd wedi gwneud cael caniatâd cynllunio cyn troi tŷ yn ail gartref neu’n llety gwyliau yn orfodol ers dechrau mis Medi eleni.

“Dywedodd Ffred Ffransis wrtha’ i mai’r stwff treth Cyngor ac ail dai, a defnyddio Erthygl Pedwar yng Ngwynedd, ydy buddugoliaeth fwyaf y mudiad iaith ers ennill yr ymgyrch am sianel yn 1982,” meddai Owain Meirion.

“Dw i’n credu bod gwirionedd i hynny o ran sicrhau dyfodol i’r Fro Gymraeg, a bod pobol yn medru parhau i fyw mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith.”

Mae’r newidadau’n arwyddocaol ar lefel wleidyddol ehangach hefyd, meddai, gan ychwanegu bod llwyddiant yr ymgyrch “wedi dechrau newid y cysyniad yma y dylen ni adael i’r farchnad sortio popeth, a bod ymyrraeth y Llywodraeth yn y farchnad dai’n medru gweithio”.

“Dw i’n meddwl y byddai gweithredu ar gynigion y Ddeddf Eiddo yn un o’r pethau mwyaf y byddai’r Gymdeithas wedi’u hennill erioed.”

Digartrefedd

Mae’r ymgyrch dros Ddeddf Eiddo hefyd yn gysylltiedig ag ymdrechion i ddod â digartrefedd i ben, ac wedi’i gefnogi gan yr elusen Shelter.

Mae’n adlewyrchiad o gysyniadaeth gyffredinol Cymdeithas yr Iaith, sef ‘Cymdeithasiaeth’, yn ôl Owain Meirion.

“Mae hyn yn gyfieithiad o socialism, ond yn un sy’n dadlau bod y gair socialism yn golygu rhwybeth hynod Brydeinig, top-i-lawr.

“Mae ‘Cymdeithasiaeth’ yn groes i hynny, ac yn cyfeirio at drefn wleidyddol sy’n dechrau yn y gymdeithas ac yn gweithio i fyny. Mae gymaint o’n polisïau ni’n treiddio o hynny.

“Mae’r stwff fyddai’r Ddeddf Eiddo’n ei alluogi, o ran perchnogaeth leol ar eiddo a sicrhau bod penderfyniadau mawr ar dai’n digwydd yn y gymuned – mae hynny i gyd yn adlewyrchu hynny.”

Adfywiad

Ydy’r mudiad iaith yn profi adfywiad, felly?

“Roedd yna gyfnod rhwng canol yr ’80au a chanol y 2010au lle’r oedd y Gymdeithas yn stryglo i gael 200 o bobol i rali!

“Ond gyda’r ymgyrchoedd ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yma, dyn ni wedi cael 1,000, yn agos i 1,000 sawl gwaith, sy’n rhyfedd iawn.

“Dw i’n siwr y medri di alw hynny’n ‘adfywiad’ Cymreictod, ochr yn ochr ag ymchwydd YesCymru a chanlyniadau etholiadol Plaid Cymru.

“Cyd-ddigwyddiad sawl peth gwahanol ydy hynny.

“Mi wnaeth y pandemig ffocysu sylw pobol ar bwysigrwydd diwygio’r farchnad dai ar gyfer dyfodol y Gymraeg.

“Mae Mabon ap Gwynfor [Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd] wedi bod yn barod iawn i ddweud pethau radical ac i arwain ralïau hefyd.

“Mae fel bod ymchwydd cenedlaethol wedi bod.

“Dwi wir yn gobeithio bod rhyw fath o adfywiad wedi digwydd.”