Mae Gweinidog Addysg Ôl-16 newydd Cymru wedi datgelu cynlluniau ar gyfer cronfa frys i brifysgolion, yn sgil pryderon am amcangyfrifon sy’n awgrymu diffyg ariannol o ryw £100m.
Cafodd Vikki Howells ei holi yn y Senedd am adroddiadau ynghylch cynllun achub prifysgolion yn Lloegr, gan gynnwys achubiad o £1bn a chynnydd mewn ffïoedd, yn ogystal â thoriadau i gyrsiau a staff.
“Dw i’n ymwybodol fod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y gronfa frys hon maen nhw am droi ati,” meddai dan bwysau am gynlluniau Llywodraeth Cymru.
“Bydd gan [gorff cyllido] Medr eu harian eu hunain i gefnogi ein sefydliadau yma yng Nghymru.”
Mae Medr, sy’n gorff newydd gafodd ei sefydlu ym mis Awst, bellach yn goruchwylio’r holl addysg ac ymchwil ôl-16, gan gynnwys colegau a sefydliadau chweched dosbarth, yn wahanol i’w rhagflaenydd Hefcw.
Pwysleisiodd Vicki Howells y bydd y gronfa frys, nad yw hi wedi nodi ffigwr ar ei chyfer, yn ceisio trawsnewid y sector yn ogystal ag achub prifysgolion sydd mewn trafferthion ariannol.
‘Mae’r cloc yn tician’
“Er ein bod ni’n gwybod fod hon yn adeg anodd, a bod angen i’r sector ddod o hyd i ffyrdd o leihau costau, dydyn ni ddim yn credu bod unrhyw sefydliad Cymreig mewn perygl o fethu,” meddai Vicki Howells.
Doedd Cefin Campbell, llefarydd addysg Plaid Cymru, ddim mor sicr wrth iddo rybuddio am argyfwng ariannu sy’n wynebu prifysgolion Cymru.
“Dw i’n credu, pe na bai’r Llywodraeth [yng Nghaerdydd] yn gweithredu ar frys, y gallen ni golli’r sefydliadau arbennig hyn – nifer ohonyn nhw.”
“O gofio’r twll ariannol sy’n wynebu llawer o’n prifysgolion yng Nghymru, sydd o gwmpas ryw £100m, mae’r pwysau’n tyfu arnoch chi fel llywodraeth i gydweithio â’n prifysgolion i ddod o hyd i atebion fydd yn gwarchod swyddi, myfyrwyr a’n heconomi ehangach.”
Wrth alw am eglurder ynghylch safbwynt Llywodraeth Cymru, daeth rhybudd gan y cyn-ddarlithydd.
“Gadewch i ni fod yn glir – mae prifysgolion Cymru’n wynebu heriau difrifol, ac mae’r cloc yn tician.”
‘Pryderus’
Dywedodd Vikki Howells, sy’n gyn-bennaeth cynorthwyol Chweched Dosbarth Ysgol Uwchradd St Cenydd yng Nghaerffili, nad yw’r pwysau’n unigryw i Gymru, a’u bod nhw “ledled y Deyrnas Unedig a hyd yn oed yn rhyngwladol”.
Cyfeiriodd at y ffaith fod arian Llywodraeth Cymru’n cyfateb i ryw 10% o’r cyfanswm, gan ychwanegu bod nifer o’r ffactorau sy’n tanio’r pwysau ariannol ar brifysgolion y tu allan i reolaeth gweinidogion.
Pwysleisiodd fod prifysgolion yn awtonomaidd, “felly byddan nhw’n gwneud eu penderfyniadau eu hunain, ond gyda mewnbwn a chyfeiriad gen i a Medr”.
Rhybuddiodd Tom Giffard, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, fod nifer y bobol sy’n mynd i’r brifysgol wedi gostwng i’w lefel isaf ers pymtheg mlynedd.
Taflodd oleuni ar ystadegau “difrifol” sy’n dangos bod 33% o bobol 18 oed yng Nghymru wedi gwneud cais i fynd i’r brifysgol eleni, o gymharu â 41.9% ar draws y Deyrnas Unedig.
Tair ‘C’
Rhybuddiodd Tom Giffard am gwymp o 1% yn nifer y bobol sy’n ceisio prentisiaeth, gan ddweud ei bod hi’n destun pryder fod llai a llai o bobol yn dewis y naill lwybr neu’r llall.
Fe wnaeth y cyn-gynorthwydd dosbarth mewn ysgol gynradd Gymraeg godi pryderon bod blaenoriaethau Medr yn rhy eang, a bod yna ddiffyg targedau a swyddi heb eu llenwi.
Cyfeiriodd Vikki Howells, gafodd ei phenodi fis diwethaf, at grantiau nad oes angen eu had-dalu ar gyfer myfyrwyr o’r aelwydydd tlotaf, ond roedd hi’n derbyn bod angen gwella cyfranogiad.
Mewn datganiad i’r Senedd ddoe (dydd Mawrth, Hydref 15), amlinellodd y gweiniog ei blaenoriaethau ar gyfer addysg ôl-16, gan gynnwys canolbwyntio ar dair ‘C’: cydweithredu, cydweithio a chymuned.
Wrth annog pobol i ymateb i ymgynghoriad ar gynllun strategol Medr, disgrifiodd hi’r corff newydd hyd braich fel cam mawr tuag at weledigaeth o sector ôl-16 mwy trefnus.
Pedwaredd ‘C’
Fe wnaeth John Griffiths, aelod o feinciau cefn Llafur sy’n cynrychioli Dwyrain Casnewydd, dnnu sylw at alwadau Colegau Cymru am strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol.
Rhybuddiodd Heledd Fychan o Blaid Cymru am niferoedd disgyblion mewn chweched dosbarth yn gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, a diffyg darpariaeth chweched dosbarth ym mhob ysgol mewn rhai siroedd.
Fe wnaeth Mike Hedges o’r Blaid Lafur, oedd yn ddarlithydd ym Mhontypridd am 27 o flynyddoedd, groesawu penodiad y gweinidog ac, “yn bwysicach”, creu’r swydd ei hun.
Fe wnaeth Rhys ab Owen, Aelod Annibynnol o’r Senedd, rybuddio bod pedwaredd ‘C’, Cymraeg, ar goll o ddatganiad y gweinidog, wrth iddo godi pryderon fod 99% o hyfforddiant colegau trwy gyfrwng y Saesneg.
Fe wnaeth Adam Price, cyn-Aelod Seneddol a chyn-arweinydd Plaid Cymru, feirniadu’r penderfyniad i gau campws yng Ngholeg Sir Gâr, gan ddod â bron i gan mlynedd o addysg bellach yn Rhydaman i ben.