Bydd y premiwm ail gartrefi yn Sir Benfro’n gostwng o’r 200% presennol i 150% yn y flwyddyn ariannol nesaf, er gwaetha’r rhybudd y gallai arwain at gynnydd o hyd at 14% yn y dreth gyngor.
Yng nghyfarfod llawn Cyngor Sir Penfro ddydd Iau (Hydref 17), roedd dau gais i ostwng y premiwm ail gartrefi yn y sir, gydag aelodau’n clywed y gallai’r newidiadau olygu bod y Cyngor yn colli rhwng £2.6m a £5.2m, ac y gallai gynyddu’r dreth gyngor gymaint ag 18.8% y flwyddyn nesaf.
Ar hyn o bryd, mae disgwyl i Sir Benfro weld cynnydd o 11.14% yn y dreth gyngor dros y flwyddyn ariannol nesaf.
Ers y flwyddyn ariannol bresennol, mae perchnogion ail gartrefi wedi bod yn talu premiwm o 200% ar eu treth gyngor, sy’n gyfystyr â chyfradd driphlyg, ar ôl cynyddu’r premiwm blaenorol (100% neu gyfradd ddwbwl).
O dan ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, gall awdurdodau lleol gynyddu’r premiwm ar ail gartrefi hyd at 300%, sy’n gyfystyr â phedair gwaith y gyfradd.
Mae eiddo gwag hirdymor yn y sir hefyd yn destun premiwm – 100% ar ôl 24 mis, 200% ar ôl 36 mis, a 300% ar ôl pum mlynedd.
Cynigion
Yng nghyfarfod llawn Cyngor Sir Penfro ddydd Iau (Hydref 17), roedd argymhelliad y dylai aelodau gefnogi cadw’r premiwm ar y 200% presennol, gyda chyfraddau eiddo gwag hirdymor hefyd yn parhau ar y lefel bresennol, ac y dylid ysgrifennu at Lywodraeth Cymru’n gofyn am ostyngiad i’r meini prawf o 182 diwrnod ar gyfer rhyddhad cyfraddau llety gwyliau.
Yn y cyfarfod, daeth dau gynnig amgen ar gyfer cyfradd premiwm ail gartrefi is gerbron aelodau – premiwm o 100% gan y Cynghorydd Di Clements, arweinydd y Grŵp Ceidwadol, a 150% gan y Cynghorydd Huw Murphy, arweinydd y Grŵp Annibynnol.
Dywedodd Jon Haswell, y Cyfarwyddwr Adnoddau, wrth aelodau y byddai gostyngiad yn y premiwm i 100% yn arwain at bwysau ariannol ychwanegol i’r Cyngor o £5.2m, fyddai’n arwain at gynnydd tybiedig yn y dreth gyngor o 18.87% yn erbyn cynnydd disgwyliedig o 11.14%.
‘Sefyllfa ariannol anodd iawn’
Awgrymodd y Cynghorydd Joshua Beynon, yr Aelod dros Gyllid, y dylid cymeradwyo’r argymhellion.
“Byddai pob gostyngiad o 25% yn gostwng y cyfanswm sy’n cael ei godi gan y Cyngor gan £1.3m; eisoes, mae gennym ni sefyllfa ariannol anodd iawn, a dyna realiti cyllid llywodraeth leol; rydyn ni wedi’n hymestyn i’r eithaf yn nhermau’r galw am wasanaethau.”
Yn ei gwelliant, dywedodd y Cynghorydd Di Clements fod y Cyngor yn defnyddio perchnogion ail gartrefi fel “peiriant arian”, gyda’r refeniw sy’n cael ei godi’n cael ei ddefnyddio i ariannu’r gyllideb gyffredinol.
“Mae’r polisi hwn yn arf heb fin; i fi, mae’n fater o degwch a chymesuroldeb.
“Dw i’n cwestiynu cynaliadwyedd ariannol yr awdurdod lleol hwn os yw’n dibynnu ar y grymoedd treth gyngor hyn; pan fydd perchnogion ail gartrefi’n rhoi’r gorau iddi, at bwy fydd y Cyngor yn troi?
“Mewn perthynas â pherchnogion ail gartrefi, mae’r neges yn glir: ‘Dydyn ni ddim eich eisiau chi’.”
Effaith ar drethdalwyr cyffredin
Dywedodd y Cynghorydd Tony Wilcox y byddai unrhyw ostyngiad yn y gyfradd ar gyfer perchnogion ail gartrefi’n cael effaith ar drethdalwyr cyffredin yn y sir.
“Pam ydyn ni’n cosbi 85-95% o’n pobol ein hunain i foddio ar gyfer pwynt gwleidyddol?” gofynnodd.
“Dydy’r rhan fwyaf o’n trigolion ni ddim yn cael eu heffeithio gan hyn; rydyn ni’n mynd i gosbi’r mwyafrif.
“Dw i wir ddim yn gweld sut rydyn ni’n ystyried cynnydd mawr iawn yn y dreth gyngor i’r rhan fwyaf o’r sir.”
Cam “hanner ffordd”
Cafodd cynnig y Cynghorydd Di Clements ei drechu.
Cafodd gwelliant y Cynghorydd Huw Murphy ei glywed wedyn, wrth i’r Cynghorydd Ceidwadol Aled Thomas annog ei gyd-Geidwadwyr i gefnogi’r Grŵp Annibynnol.
“Mae hwn yn gam hanner ffordd; gobeithio y bydd y Grŵp yn pleidleisio i gefnogi’r Grŵp Annibynnol,” meddai wedyn.
Daeth rhybudd wedyn gan y Cynghorydd Jon Harvey, wrth iddo ddweud bod y Cynghorydd Huw Murphy wedi bod yn gefnogol cyn hyn o’r 200%.
“O ran y cynnig hwn, rydyn ni’n sôn am golled o £2.6m i’r Cyngor, neu oddeutu 3.5% o ran y dreth gyngor,” meddai.
“Pa wasanaethau ychwanegol ydych chi’n barod i’w torri, neu ydych chi’n barod i gynyddu’r dreth gyngor tu hwnt…?
“Dw i ddim yn barod i gyfiawnhau i’n trigolion pam fy mod i wedi pleidleisio dros ostwng y dreth ail gartrefi, a rhoi’r baich neu doriadau i wasanaethau arnyn nhw; bydden nhw’n sicr yn waeth eu byd, yn fy marn i, pe bai hyn yn mynd rhagddo.”
Cynnig pellach
Ar ôl cefnogi gwelliant y Cynghorydd Huw Murphy, cafodd cynnig pellach gan y Cynghorydd Alan Dennison i newid y premiwm eiddo gwag i 300% ar ôl dwy flynedd ei ohirio, a bydd yn cael ei ystyried gan y gweithgor treth gyngor cyn mynd gerbron y Cabinet yn eu cyfarfod ym mis Rhagfyr.
Fe wnaeth aeloda gytuno hefyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru’n gofyn iddyn nhw ostwng y trothwy o 182 o ddiwrnodau ar gyfer llety gwyliau.