Mae corff Alex Salmond wedi’i gludo adref i sir Aberdeen o Ogledd Macedonia.
Bu farw cyn-Brif Weinidog yr Alban yn 69 oed yn dilyn trawiad ar y galon yn ystod ymweliad â’r wlad y penwythnos diwethaf.
Roedd wedi bod yn annerch cynhadledd yno cyn iddo farw’n sydyn yn dilyn cinio.
Y gŵr busnes Syr Tom Hunter oedd wedi talu am yr awyren breifat, ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wrthod talu i’r Awyrlu ei gludo adref.
Glaniodd yr awyren ym maes awyr Aberdeen toc ar ôl 2 o’r gloch heddiw (dydd Gwener, Hydref 18).
Roedd ei deulu a Kenny MacAskill, arweinydd dros dro plaid Alba, wedi ymgasglu yn y maes awyr i’w hebrwng adref, gyda phibydd swyddogol y cyn-Brif Weinidog, Connor Sinclair, yn chwarae ‘Freedom come all ye’ wrth i’r arch, gafodd ei gorchuddio â baner yr Alban, adael yr awyren.
Wrth i’r hers adael y maes awyr, daeth beicwyr ynghyd i arwain yr osgordd wrth i Alex Salmond a’i deulu ddychwelyd adref i’r cartref teuluol, gyda nifer o geir yn chwifio baneri ‘Yes’ i dalu teyrnged i’w waith yn ymgyrchu dros annibyniaeth i’r Alban.
Bydd gwasanaeth preifat yn cael ei gynnal, a bydd gwasanaeth coffa cyhoeddus yn y dyfodol.