Un o negeseuon ola’ Alex Salmond ar lwyfan X oedd un yn beirniadu Prif Weinidog yr Alban, John Swinney, am gymryd rhan yn y sefydliad newydd, Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau.

Y broblem, i’r cyn-Brif Weinidog, oedd bod y corff fel petai’n gosod llywodraethau’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ar yr un lefel â meiri yn Lloegr.